Diogelwch a Gweithgareddau - Cymdeithas Edward Llwyd
(gan gynnwys atodiad Canllawiau Covid 19)
Adol.2 28/8/20
Y mae Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas wedi mabwysiadu’r egwyddorion canlynol ynglŷn â diogelwch gweithgareddau’r Gymdeithas.
- Mae pawb sydd yn mynychu taith maes yn gwneud hynny ar y ddealltwriaeth eu bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, a hefyd yn ystyriol o ddiogelwch eraill.
- Ar daith maes dylai pawb gymryd camerâu rhesymol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, a diogelwch eraill ar y daith.
- Yn benodol dylech sicrhau fod taith maes o fewn eich cyraeddiadau corfforol ac eich bod wedi paratoi yn addas ar gyfer y daith gyda’r bwyd, dillad addas ayb fel bo’r angen.
- Cyfrifoldeb y Gymdeithas ydyw sicrhau fod yr aelodau yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â natur unrhyw daith maes, fel gellir penderfynu os yw taith yn addas.
- Mae’r Gymdeithas wedi paratoi ffurflen ( holiadur) i gasglu gwybodaeth gan arweinyddion. Y mae hyn yn sicrhau fod y manylion angenrheidiol, mewn arddull safonol, ar gael yn y Cylchlythyr ac ar y wefan. Dylid cysylltu â’r arweinydd am eglurhad neu fanylion pellach.
Dilynwch y linc ar gyfer copi o’r ffurflen a manylion pellach:
Canllawiau i arweinyddion: Nodiadau i Arweinyddion a Threfnwyr.
Ffurflen cofnodi gweithgaredd: Ffurflen cofnodi gweithgaredd
Atodiad Covid 19
I sicrhau fod y Gymdeithas yn cyd-fynd a gofynion Llywodraeth Cymru ynglyn a lleihau'r risg o ledaenu Covid 19 y mae angen gweithredu yn ôl y dogfennau canlynol (dilynwch y linciau);
Canllawiau Cymdeithas Edward Llwyd (Covid 1) Canllawiau E Ll
Gofynion ar gyfer Trefnyddion ac Arweinwyr. (Covid 2) Gofynion Arweinydd a Threfnydd
Gofynion ar gyfer Aelodau (Covid 3) Gofynion Covid – Aelodau
Ffurflen gofrestru (Covid 4) Ffurflen Cofnodi
.