Skip to content

Trefniant a Chyfansoddiad

Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor Gwaith.

Llywydd: Goronwy Wynne, Licswm.
Is-lywyddion: Duncan Brown, Waunfawr a Twm Elias,
Cadeirydd: Iona Evans, Pandy Tudur.
Is-gadeirydd: Hywel Madog Jones, Golan.
Trysorydd: Margaret Roberts, Abersoch.

Ysgrifenyddion

Ysgrifennydd: Gareth Wyn Jones, Llangrannog.
Cofnodion: Jackie Willmington, Bow Street.
Aelodaeth: Dafydd Lewis, Brookham.

Golygyddion

Y Cylchlythyr: Gwyn Roberts, Caerdydd.
Y Naturiaethwr: Dafydd Lewis, Brookham.

Trefnyddion
Gogledd Ddwyrain:
Iwan Roberts, Rhuthun
Gwynedd a Môn: Yr Is-gadeirydd (dros dro)
De a’r Canolbarth: Eirian Davies, Abertawe.
Y Gynhadledd: Elizabeth Roberts, Llanddoged.
Gwyliau:  John Griffith,  Rhosgadfan.

Aelodau Eraill
Rhisiart ap Gwilym, Llanrug.
Dawi Griffiths, Trefor, Caerarfon
Dominig Kervegant, Tregarth.
Haf Meredydd, Llanfair, Harlech.
Amanda Skull, Llanrug
Alan Williams, Caerdydd.

Cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith

Y Cyfarfod Blynyddol

Polisi Preifatrwydd Y Gymdeithas 

Cyfansoddiad 

1. Enw:

Enw llawn y Gymdeithas yw 'Cymdeithas Edward Llwyd - Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru'.

2. Amcanion:

Amcanion y Gymdeithas yw hyrwyddo addysg er budd y cyhoedd drwy: (a) astudiaeth o blanhigion, anifeiliaid, creigiau, a thirffurfiau Cymru, a'r berthynas rhyngddynt (b) ymwybyddiaeth o amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru, a gweithio dros eu gwarchod (c) astudiaeth o yrfa Edward Llwyd a'i ddysg ym meysydd botaneg, daeareg, archeoleg a hanes STATWS. Cofrestrir y Gymdeithas yn Elusen gyda’r Comisiwn Elusennau yn gymwys i ddenu ad-daliad treth incwm trwy gyfrwng Rhodd Cymorth (Gift Aid)

3. Iaith:

Cymraeg yw iaith y Gymdeithas.

4. Aelodaeth:

(i) Aelodaeth: Mae aelodaeth yn agored i bawb sy'n cytuno ag amcanion y Gymdeithas ac sy'n talu'r tâl aelodaeth a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith. Bydd unrhyw aelod y mae ei danysgrifiad yn ddyledus am chwe mis yn colli ei aelodaeth ond gall ymaelodi drwy dalu'r swm sy'n ddyledus am y flwyddyn honno.
(ii) Aelodau Anrhydeddus - Mae gan y Gymdeithas hawl i benodi aelodau anrhydeddus
(iii) Aelodau Sefydliadol - Caiff sefydliadau ymaelodi â'r Gymdeithas.

5. Llywydd:

Gall y Gymdeithas ethol Llywydd Anrhydeddus.

6. Pwyllgor Gwaith:

Trefnir a rheolir gwaith y Gymdeithas gan y Pwyllgor Gwaith.

(a) Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yw:
(i) y Llywydd Anrhydeddus
(ii) y Cadeirydd
(iii) yr Is-gadeirydd
(iv) yr Ysgrifenydd
(v) y Trysorydd
(vi) yr Ysgrifennydd Aelodaeth
(vii) y Trefnwyr Teithiau
(viii) Golygydd Y Naturiaethwr
(ix) Golygydd y Cylchlythyr
(x) un cynrychiolydd o bob is-bwyllgor
(xi) hyd at 10 aelod arall o'r Gymdeithas
(xii) Bydd Cadeirydd, Ysgrifennydd a’r Trysorydd yn aelodau cyn-swyddogion (ex-officio) o’r Pwyllgor Gwaith am flwyddyn yn dilyn eu hymddeoliad

(b) Swyddogion:
(i) Prif swyddogion y Gymdeithas yw: y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, yr Ysgrifenydd, a'r y Trysorydd.
(ii) Swyddogion eraill y Gymdeithas yw: yr Ysgrifennydd Aelodaeth, y Trefnwyr Teithiau, Golygydd Y Naturiaethwr, a Golygydd y Cylchlythyr.

(c) Mae'r prif swyddogion, yn rhinwedd eu swyddi, yn aelodau o unrhyw Is-bwyllgor neu gorff arall a sefydlir gan y Pwyllgor Gwaith.

(ch) Etholir y prif swyddogion a holl aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, yn unol â'r amodau a nodir isod
(i) ni chaniateir i dymor y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ymestyn yn ddi-dor dros gyfnod o fwy na thair blynedd yn yr un swydd
(ii) ni chaniateir i dymor unrhyw aelod arall o'r Pwyllgor Gwaith ymestyn yn ddi-dor dros gyfnod o fwy na thair blynedd, heb ganiatâd y Cyfarfod Blynyddol

(d) Gall y Pwyllgor Gwaith gyfethol hyd at bum aelod ychwanegol.

(dd) Os bydd aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn colli mwy na thri chyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith yn olynol, heb gyflwyno ei ymddiheuriad, bydd hawl gan y Pwyllgor Gwaith derfynu ei aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith.

(e) Mae gan y Pwyllgor Gwaith yr hawl i lenwi unrhyw fwlch a achosir gan ymddiswyddiad swyddog.

(f) Gall y Pwyllgor Gwaith sefydlu Is-bwyllgorau, neu unrhyw gorff arall, i hyrwyddo agweddau arbennig ar waith y Gymdeithas. Gweithredir yr Is-bwyllgorau, a'r cyrff eraill, dan reolau a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, ac maent yn atebol i'r Pwyllgor Gwaith. Gall y Pwyllgor Gwaith benodi aelodau o blith y Pwyllgor Gwaith a/neu aelodau cyffredin o'r Gymdeithas i wasenaethu ar Is-bwyllgorau a chyrff eraill.

(ff) Rhaid i nifer yr aelodau etholedig a fo'n bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith fod o leiaf wyth, i sicrhau dilysrwydd y penderfyniadau.

(g) Gall unrhyw aelod o'r Gymdeithas enwebu prif swyddog, swyddog neu aelod cyffredin o'r Gymdeithas, i wasanaethu am dymor fel aelod o'r Pwyllgor Gwaith, wedi iddo sicrhau eilydd a derbyn caniatâd y sawl a enwebir ymlaen llaw. Gellir dwyn enw(au)'r enwebedig(ion) i'r Ysgrifennyd naill ai cyn neu yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol.

(ng) Rhed tymor gwasanaeth pob aelod o'r Pwyllgor Gwaith o un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i'r un dilynol.

(h) Gall y Pwyllgor Gwaith ddiarddel aelod am gamddefnyddio eiddo neu arian y Gymdeithas, am ddwyn anfri ar y Gymdeithas, neu an ymddygiad sydd yn gyson wrthwynebus i amcanion y Gymdeithas.

(i) Bydd holl aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn Ymddiriedolwyr o’r Gymdeithas.

7. Cyllid

(a) Cyfrifoldeb y Trysorydd yw cadw cyfrifion cywir, bancio holl arian y Gymdeithas yn enw'r Gymdeithas a daparu mantolen ariannol archwiledig ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

(b) Mae blwyddyn ariannol ac aelodaeth y Gymdeithas yn ymestyn o'r 1af Gorffennaf hyd y 30ain Mehefin.

(c) Llofnodir seiciau yn enw'r Gymdeithas gan y Trysorydd ac unrhyw un o'r prif swyddogion neu swyddogion eraill.

(ch) Awdurdodir y Pwyllgor Gwaith i ddefnyddio arian ac eiddo'r Gymdeithas i hyrwyddo Amcanion y Gymdeithas yn unig.

(d) Gall Ymddiriedolwr dalu o eiddo’r Gymdeithas, neu gael ad-dalu o eiddo’r Gymdeithas dreuliau rhesymol sy’n codi’n briodol wrth weithredu ar ran y Gymdeithas

(dd) Ni all incwm neu eiddo’r Gymdeithas gael eu talu neu eu trosglwyddo’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfrwng bonws difidend neu fel arall trwy gyfrwng elw i unrhyw aelod o’r Gymdeithas

8. Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol :

Yn unol â threfniant y Pwyllgor Gwaith cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, yn ystod yr hydref, er mwyn cyflawni'r gwaith a ganlyn:

(a) ystyried cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol

(b) ethol y prif swyddogion a'r swyddogion

(c) ethol aelodau eraill o'r Pwyllgor Gwaith

(ch) derbyn y fantolen ariannol

(d) pennu'r tâl aelodaeth

(dd) penodi Archwilydd nad yw'n aelod o'r Pwyllgor Gwaith

(e) derbyn adroddiad y Pwyllgor Gwaith am weithgareddau'r Gymdeithas oddi ar y cyfarfod cyffredinol blynyddol blaenorol (f) ystyried unrhyw faterion eraill, trwy ganiatâd y cyfarfod Mae gan bob aelod hawl i fynychu'r cyfarfod blynyddol ac i bleidleisio.

9. Pleidleisio:

Penderfynir materion pob cyfarfod drwy gytundeb neu drwy fwrw pleidlais, agored, gan y sawl sydd yn bresennol. Rhoddir pleidlais i Gadeirydd unrhyw bwyllgor a phleidlais ychwanegol pe bai angen torri dadl. Ni chaniateir pleidleisio drwy'r post neu ddulliau cyffelyb.

10. Cyfarfod Cyffredinol Arbennig:

Mae gan y Pwyllgor Gwaith neu ugain neu fwy o aelodau'r Gymdeithas, yr hawl i alw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar unrhyw adeg. Rhaid i'r Pwyllgor Gwaith drefnu'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a hysbysu'r aelodau, o leiaf tair wythnos ymlaen llaw, ynglyn â dyddiad a lleoliad y Cyfarfod. Yr hyn sy'n codi o'r mater a nodir ar agenda'r Cyfarfod yn unig sydd i'w benderfynu yn y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.

11. Cworwm:

Rhaid i nifer yr aelodau a fo'n bresennol, ac yn pleidleisio, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig fod o leiaf ugain i sicrhau dilysrwydd y penderfyniadau.

12. Newid y Cyfansoddiad:

(a) Mae gan y Pwyllgor Gwaith neu aelodau'r Gymdeithas yr hawl i gynnig newid i Gyfansoddiad y Gymdeithas, ar y amod y caiff y newid a gynigir ei gyflwyno i sylw'r Ysgrifenydd mewn da bryd i'w gynnwys yn yr rhifyn hwnnw o'r Cylchlythyr sy'n blaenori'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a elwir i'r pwrpas o drafod y newid. Rhaid i'r nifer o blaid y newid fod o leiaf dwy ran o dair o'r aelodau sy'n pleidleisio, cyn y gellir ei fabwysiadu.

(b) Ni all unrhyw ddiwygiad gael ei wnued a fyddai’n golygu bod y Gymdeithas yn peidio â bod yn Elusen yn gyfreithiol.

(c) Ni all unrhyw ddiwygiad gael ei wneud i newid yr Amcanion pe na fyddai’r newid yn un y byddai aelodau neu gyfranwyr y Gymdeithas yn ei ystyried yn rhesymol.

(ch) Ni all unrhyw ddiwygiad gael ei wneud i Gymal 7, itemau (ch), (d) a (dd) heb ganiatad ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Comisiwn Elusennau.

13. Diddymu'r Gymdeithas

(a) Yr aelodau yn unig a all alw am ddiddymu'r Gymdeithas. Ystyrir cynnig i ddiddymu'r Gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig wedi'i alw i'r pwrpas hwnnw gan o leiaf draean o holl aelodau'r Gymdeithas y pryd hwnnw. Rhaid i'r nifer o blaid i cynnig fod o leiaf dwy ran o dair o'r aelodau sy'n pleidleisio a 51% o'r aelodau sy'n bresennol cyn y gellir ei dderbyn.

(b) Os yw’r aelodau yn penderfynu diddymu’r Gymdeithas bydd yr Ymddiriedolwyr yn parhau yn y swydd fel Ymddiriedolwyr Elusen ac yn gyfrifol am ddirwyn materion y Gymdeithas i ben yn unol a’r cymal hwn.

(c) Rhaid i’r Ymddiriedolwyr gasglu holl asedau’r Gymdeithas a rhaid iddynt dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer holl rwymedigaethau’r Gymdeithas

(ch) Rhaid i’r Ymddiriedolwyr ddefnyddio unrhyw eiddo neu arian sy’n weddill yn uniongyrchol ar gyfer yr Amcanion ei drosglwyddo i unrhyw Elusen neu elusennau ar gyfer yr un dibenion a’r Gymdeithas neu ddibenion tebyg mewn rhyw ffordd arall y gall y Comisiynwyr Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr ei chymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw

(d) Gall yr aelodau basio penderfyniad cyn neu ar yr un pryd â’r penderfyniad i ddiddymu’r Gymdeithas, sy’n pennu sut y bydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio eiddo neu asedau’r Gymdeithas sy’n weddill a rhaid i’r Ymddiriedolwyr gydymffurfio a’r penderfyniad os yw’n cyd-fynd â pharagraffau 1-3 ym mrawddeg (ch) uchod

(dd) Ni fydd asedau net y Gymdeithas yn cael eu talu neu eu dosbarthu ymysg aelodau’r Gymdeithas mewn unrhyw amgylchiadau

(e)Rhaid i’r Ymddiriedolwyr hysbysu’r Comisiwn yn brydlon bod y Gymdeithas wedi cael ei diddymu. Os yw’n ofynnol i’r Ymddiriedolwyr anfon cyfrifon y Gymdeithas i’r Comisiwn ar gyfer cyfnod cyfrifyddu a ddiweddodd cyn ei diddymiad, rhaid iddynt anfon cyfrifon terfynol y Gymdeithas i’r Comisiwn

14. Cyrff allanol

Gall y Pwyllgor Gwaith ymgeisio am grantiau ariannol gan gyrff allanol er budd y Gymdeithas. Gall y Pwyllgor Gwaith gyflogi yn ôl y gofyn a chytuno ar amodau a thelerau yn y cyswllt hwn

15. Rhybydd i godi mater yn y Cyfarfod Blynyddol

Bydd yn rhaid rhoi rhybydd o bythefnos am y bwriad i godi mater yn y Gynhadledd Flynyddol, ac os oes unrhyw fater brys ac o bwys yn codi yn y cyfamser, bod y Cadeirydd yn penderfynu yn ôl ei farn a'i ddoethineb ai dwyn y mater gerbron y Gynhadledd.