Skip to content

Aelodaeth

Mae aelodaeth o’r  Gymdeithas yn agored i bawb; gallwch ymuno fel unigolyn neu fel teulu. Fel aelod byddwch yn derbyn dau rifyn y flwyddyn o’r Cylchlythyr, sydd y cynnwys hanes teithiau maes a gwybodaeth cyffredinol, a dau rifyn o’r Naturiaethwr lle cyhoeddir erthyglau mwy swmpus yn ymwneud â byd natur. Hefyd, cewch gyfle i ymuno â ni ar ein teithiau maes a gynhelir bron bob dydd Sadwrn yn y tri rhanbarth, yn ogystal â gweithgareddau achlysurol eraill.

Y gost yw £20 i unigolyn a £27 am aelodaeth deuluol, rhed y flwyddyn aelodaeth o’r 1af o Orffennaf hyd 30 Mehefin.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb o flasu'r gweithgaredd gysylltu ar y ffôn ag un o'r trefnyddion teithiau (cliciwch GWEITHGAREDDAU a'r rhanbarth dan sylw am fanylion). Pam ddim  ymuno rhyw unwaith neu ddwywaith ar un o’r teithiau maes, cyn penderfynu ymuno?

Cliciwch isod i gael copi o'r ffurflen ymaelodi , neu os am fanylion pellach clicwch CYSYLLTU ac anfon ffurflen ymholiadau.

FFURFLEN YMAELODI