Skip to content

Y De a’r Canolbarth Gaeaf 2024

Trefnydd: Eirian Davies, Ffôn 01792 844821 Symudol 07484 107161.

Cychwynnir pob taith am 10.30 y bore, oni nodir yn wahanol. Dim cŵn ar y teithiau ac eithrio cŵn tywys.

Edrychwch at y wefan hon a thudalen Gweplyfr, Cymdeithas Edward Llwyd, am unrhyw newid mewn trefniadau.

Rhaglen mis Mawrth

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
2 Mawrth 2024Penarth a Pharc Gwledig Cosmeston.Cylchdaith tua 5 milltir yn cynnig cyfle i ymweld â’r pentref canoloesol yn y parc. Dychwelyd i Benarth ar yr hen reilffordd. Llwybrau cadarn heblaw am un man gallai fod yn fwdlyd.Maes Parcio di-dâl Cliff Parade, ym mhen gorllewinol y Promenâd CF645BPST185704Heulwen a Huw Jones 07958129538
9 Mawrth 2024Ardal CaerfyrddinCylchdaith hamddenol, tua 6 milltir o amgylch y dre. Braidd dim dringo.Maes parcio Canolfan Hamdden  Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre Ioan Côd Post SA313NQSN401187Alun Voyle 01267275636
16 Mawrth 2024Dim Taith    
23 Mawrth 2024Llwybrau’r Ysgol, Cylch Llanybydder/ PencarregTaith tua 7 milltir, peth dringo yma ac acw, ambell sticil.Maes  parcio Ysgol Llanybydder, ar y B4337 SA409RPSN528437Alun Jones 01570423231 Geoff Davies
30 Mawrth 2024Yng Nghesail Fan GyhirichDilyn hen dramffordd John Christie islaw Fan Gyhirych am Bwll Byfre Yn ôl ar drac yr hen reilffordd. Taith 7 milltir gyda golygfeydd gwych. Un ddringfa weddol serth, ond bir ar y dechrau.Encilfa ar y llaw chwith o gyfeiriad Abercraf, ar yr A4067 sydd yn edrych i lawr ar gronfa ddŵr Crai.SN881206Arwel Michael 01639844080

Rhaglen mis Ebrill

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
6 Ebrill 2024Ardal BrynbugaTaith tua 6 milltir yn dilyn  Afon Wysg a chaeau hen Ystâd Cefn Ila. Cyfle i ddarganfod  hanes yr ardal a choedardd newydd Alfred Wallace. Peth dringo yma ac acw, gall fod yn fwdlyd ar ôl glaw trwm. Golygfeydd hyfryd dros Sir Fynwy.Maes Parcio Maryport Street (North)  Brynbuga. Parcio am ddim, toiledau a chaffi ar gael NP151EDSO376007Sue Hogan 07733552285
13 Ebrill 2024LlanoferTaith tua 5 milltir yn ardal Llanofer ger y Fenni  yn cynnwys ystâd Llanofer, yr Eglwys a’r gamlas.Culfan ar yr A4042 i'r gogledd i Lanofer o gyfeiriad Y Fenni.SO306097Ena Morris 07890611737
13 Ebrill 2024
Eto
Bwlch NantyrarianTaith yn cynnwys llwybrau llai adnabyddus Bwlch Nantyrarian. Golygfeydd gwych - a barcutiaid! Disgynfa eithaf serth i ddechrau, a dringo cymedrol ar lwybrau da ar ail hanner y daith. Tua 6 milltirParcio di-dâl yn y gulfan ar yr A44, neu dalu ym Maes Parcio'r ganolfan SY233AB (agosaf)SN719813Bethan a Richard Hartnup  01970828533 rhartnup@hotmail.com
20 Ebrill 2024Ystad Clytha, Ger RhaglanTaith tua 6 milltir ar hyd Afon Wysg. Byddwn yn ymweld â Betws Newydd, Eglwys Sant Aeddan a Chaer Oes Haearn Coed y Bwnydd (Gobeithio gweld y clychau’r gog). Peth dringo (gweddol) a nifer o sticlau.Maes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cleidda (Clytha). NP79BG (agosaf)SO361085Shelagh Fishlock 07951234618

Taith Flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd 2024

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridTrefnyddion
25 Ebrill 2024Taith Flynyddol Sir Benfro7 noson gyda chyfle i ymweld â’r arfordir, y Preselau a Tyddewi. Disgwylir trefnu teithiau amgen, llai heriol, yn lle rhai o’r Teithiau Maes isodPlas Llwyngwair, Trefdraeth SA420LXSN072395John Griffith 01286831091a Gareth Wyn Jones 01239654309
26 Ebrill 2024Ardal Maenclochog, Rosebush a'r Dafarn SincManylion i ddilynMaes parcio Rhos y Bwlch SA667QUSN075295Hefin Wyn
27 Ebrill 2024Llwyngwair, Llethrau Carn Ingli a TrefdraethCylchdaith: Ffordd Cilgwyn llethrau is Carn Ingli, Garn Cwn, Castle Hill, Trefrdraeth. (paned) Parrog Pen y Bont, yr Afon Nyfer, a thrwy’r coed i Lwyngwair. Ffyrdd a llwybrau cefn gwlad, un  ddringfa ysgafn, posib yn wlyb/ llithrig. 7-8 milltirPlas Llwyngwair, Trefdraeth SA420LXSN072395Hedd Ladd-Lewis 01239841294 07432565018
28 Ebrill 2024Crwydro Mynydd y PreselauGogoniant., golygfeydd a hynafiaeth y dirwedd, Dringfa serth ar y cychwyn wedyn cymharol wastad heblaw copa Carn Meini disgyn  i Mynachlogddu. Llwybrau mynydd, tirewedd heriol. 6-7 milltirGer Maen Coffa Waldo Williams Mynachlogddu. Rhannu ceir i Dan y Garn. SA667SNSN135303Gareth Wyn Jones 01239654309 07341623175
29 Ebrill 2024 Cychwyn 10.20Tŷ Ddewi i SolfachLlwybr yr Arfordir. Posib yn greigiog, slip a mwdlyd. Dwy ddringad gweddol serth. 6 milltirMaes Parcio Harbwr Solfach SA626UT Tâl £6. Erbyn 10.20 Dal bws am 10.41SM805243Eirian Davies 01792844821 07484107161
30 Ebrill 2024Garn Fawr i Bencaer (Strumble)Cylchdaith  Llwybr yr arfordir ac yn ôl  drwy’r caeau. Gweddol rwydd, fynnu a lawr, camfeydd, rhai mannau gwlyb.7 milltir.Maes parcio Garn Fawr. Dim tâl SA640LJSM898388Wesley Evans 01248680858 07762639076
1 Mai 2024Tyddewi a’r Arfordir CyfagosCylchdaith, Capel Non, Tyddewi a’r Gadeirlan. Porthclais. Llwybr yr arfordir twmpathog, un darn serth, ffyrdd tawel. 7 milltirMaes Parcio Bae Caerfai SA62 6QTSM759243Gareth Wyn Jones 01239654309 07341623175

Fe drefnir Teithiau Maes ychwanegol yn fuan; cadwch olwg ar y wefan hon a thudalen Gweplyfr y Gymdeithas.


Rhaglen Mis Ionawr a Chwefror

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
6 Ionawr 2024Dim Taith    
13 Ionawr 2024Parc Pont-y-pŵlTaith tua 4 milltir yn crwydro Parc Pont-y-pŵl gan ddarganfod peth hanes y parc cyn dringo i’r gerddi Americanaidd a’r Groto.Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl NP48ATSO285007Ena Morris 07890611737
20 Ionawr 2024Llanfihangel-ar-ArthTua 5 milltir, gall fod yn fwdlyd a phyllau dwr ar ôl tywydd garw, ychydig o ddringo. Dilyn  Afon Teifi am ychydig, golygfeydd hyfrydParcio yn Neuadd  Ysgol Llanfihangel. SA399JHSN456395Ann Phillips 07833126327
27 Ionawr 2024Dim Taith    
      
3 Chwef 2024Dim Taith    
10 Chwef. 2024Placiau Glas AbertaweCylchdaith tua 7 milltir i weld y placiau glas sydd yn cofio rhai o bobol a sefydliadau’r ddinas. Peth dringo, llwybrau cadarnGer prif fynedfa Neuadd y Ddinas (Guildhall), gyferbyn a Llys y Goron. SA14PESS644925Eirian Davies 01792844821
17 Chwef 2024Radur/LandafTaith hamddenol, dim dringo, yn dilyn Afon Taf o Radur i Landaf. Cyfle i ymweld â’r Gadeirlan a Chwrt Insole. Dychwelyd i Radur ar y trên o’r Tyllgoed (Fairwater). Tua 5 milltir.Maes Parcio Gorsaf Radur CF158AB (Station Road)ST135805Alan Williams 07989451348
24 Chwef 2024Dim Taith    

Rhaglen mis Rhagfyr

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd
2 Rhag 2023Ardal Penderyn Cychwyn am 11yb.Cylchdaith hamddenol o ryw 3 milltir o gwmpas ardal PenderynMaes Parcio Canolfan Penderyn CF44 9UXSN950079Gwyn Morgan 01685814348
9 Rhag 2023Taith/cinio’r Nadolig CwmtwrchTaith o ryw 3 milltir yn ardal Cwmtwrch, peth dringo, wedyn Cinio Nadolig (cerfdy/carvery) yn Nhafarn Y George, Cwmtwrch £24 yp. SA9 2XHMaes Parcio Y George, Cwmtwrch Uchaf, sydd ar y brif heol drwy’r pentref.SN754115Eirian Davies 01792844821
Mi fydd eisiau enwau a blaendal o £10 y pen arnaf erbyn 18fed o Dachwedd.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb

Rhaglen mis Tachwedd

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd
4 Tach 2023Machynlleth - y bryniau rhwng Forge a Glanmerin, yn cynnwys rhan o Lwybr Glyndŵr.Tua 7 milltir ar lwybrau a thraciau da, er gall fod yn wlyb o dan draed mewn mannau. Tipyn o ddringo. Golygfeydd godidog dros yr ardal.Maes parcio di-dâl ger Plas Machynlleth. Troi o’r A487 yn y gylchfan i’r de o’r dref. Heibio’r hen lodge a thrwy’r gât. SY20 8EUSH744004Bethan Hartnup 01970828533
11 Tach 2023Cwm SirhywiYmweliad arall â Pharc Gwledig Cwm Sirhywi, Caerffili, ond y tro yma, anelu tua'r gogledd i fyny'r cwm. Cyfle i weld y coedwigoedd yn eu hysblander hydrefol. Tua 5 milltirMaes Parcio Heol Ynys Hywel, Cwmfelinfach. (O Gasnewydd) Chwith i  Stryd Islwyn yng Nghwmfelinfach heibio Capel y Babell, lawr y lôn gul ger yr afon. maes parcio ar y dde. NP117JD (côd post Canolfan Ynys Hywel +1/2 milltir)ST189912Jackie James 07974696416
18 Tach 2023
D.S. Wedi'i chanslo
Ardal CaerfyrddinCylchdaith hamddenol, tua 6 milltir o amgylch y dre. Braidd dim dringo.Maes parcio Canolfan Hamdden  Caerfyrddin,Heol Llansteffan, Tre Ioan Côd Post SA31 3NQSN401187Alun Voyle 01267275636
25 Tach 2023Y Fenni GofilonTaith tua 5 milltir,  drwy Ddolydd y Castell i Llan-ffwyst, ar hyd y gamlas i gyrraedd Gofilon ac yn ôl ar yr hen reilffordd. Llwybrau cadarn a gwastad (un lon serth a rhes o risiau) Opsiwn i ymweld â’r castell ar ddiwedd y daith.Cwrdd wrth fynediad Gerddi Linda Vista sydd ym maes parcio Byfield Lane, Y Fenni
NP7 5DL
SO296140Shelagh Fishlock 01179 856580

Rhaglen Mis Hydref

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. gridArweinydd
7 Hydref 2023Camlas, Gwŷdd a ChwcwTua 6 milltir ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu, i fyny'r bryn i dafarn yr Ŵydd a'r Gwcw lle fydd yna siawns am seibiant a diod.Maes parcio bach ar Heol Saron, oddi ar yr A4042; O'r gogledd ar y dde ar ôl pasio Llanofer. O’r de, ar y chwith ar ôl pasio Penperlleni NP4 0AESO319062Ena Morris 07890611737
14 Hydref 2023Archeoleg Ddiwydiannol Bryn-mawr a Chwm Clydach    Cylchdaith yn edrych ar yr archaeoleg ddiwydiannol ysblennydd sy’n gysylltiedig â Meistri Haearn drwg-enwog Nant-y-glo, Crawshay a Joseph Bailey. 8 milltirAmgueddfa Bryn-mawr, Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr.
NP23 4AJ
SO191117Frank Olding 01873856959
20 Hydref 2023Gwesty’r Diplomat Llanelli.Y Gynhadledd Flynyddol. Dwy daith,un ar y Sadwrn a'r Sul, manylion isodHeol Felinfoel, Llanelli
SA15 3PJ
 Cynhadledd Flynyddol.
21 Hydref 2023Taith y Gynhadledd 1. Llwybr yr Arfordir yn ardal Porth TywynTaith hamddenol yn dilyn Ardal Porth Tywyn a’r Warchodfa Natur safle’r hen bwerdy Llwybrau cadarn, dim dringo. Tua 4 milltir.Maes Parcio Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain) Dilynwch y B4311 i’r harbwr ac i’r chwith o’r gylchfan i’r maes parcio ochr ddwyreiniol yr harbwr. Tâl £2.80. SA16 0LTSN446002Alan Williams 07989451348
22 Hydref 2023Taith y Gynhadledd 2. Parc y MileniwmTaith fer o gwmpas Parc y MileniwmCambrian Street, Llanelli SA152PN (Dilynwch y B4304 o ganol y dre i gylchfan ger Doc y Gogledd. Chwith i Marine Street syth i’r chwith i Cambrian Street ger Tafarn y New Cornish Arms.)SS500994Alan Williams 07989451348
28 Hydref 2023Coedwig CwmgieddTaith Hydrefol o amgylch Coedwig Giedd, gan basio nentydd Cyw, Ceiliog ac Iâr.Maes Parcio Coedwig Giedd. SA91NASN791128Arwel Michael 01639844080

Rhaglen mis Medi

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
2 Medi 2023I gyfeiriad tarddiad Afon Tywi.Dechrau islaw Nant-ystalwyn, dilyn  y Tywi at Foel Prysgau. Tua 7 milltirRhwng Abergwesyn a Thregaron, parcio ger y troad i Hostel Ieuenctid DolgochSN804570Arwel Michael 01639844080
9 Medi 2023Plas Gregynog Drenewydd (cyn-gartref y chwiorydd Davies)Cylchdaith  at Fwlch-y-ffridd. 3.5 milltir Wedyn, gerddi a hanes y plas.(a’r caffi!).Maes parcio Plas Gregynog (Parcio yn £2.50) SY16 3PLSO084973Carwen Wigley Vaughan 07929824733
16 Medi 2023Dyffryn CennenDilyn Afon Cennen i bentref Trap, Bont Gelli a Chapel Soar. Dychwelyd heibio Eglwys Llandyfân a thros gopa Garreg Dwfn, Tua 8 milltir, gallu fod yn wlyb.Maes Parcio Castell Carreg Cennen
SA19 6UA
SN667193Richard Davies 07986 562584
23 Medi 2023 (Cychwyn am 10yb)Tregroes a Chwm CerdinTaith gylch tua 5-6 milltir, gyda pheth dringo o Ddyffryn Llynod hyd at Llain. Gall fod draen a drysni a thir gwlyb mewn ambell fan. Ysgol Tregroes SA44 4NN  Taith wedi ei threfnu ar y cyd gyda Gŵyl Gerdded Llandysul. (Cychwyn am 10yb)SN406448Eileen Curry 01559 362253
30 Medi 2023Pen CemaesTraeth Poppit i Ben Cemaes. Caeau agored, lonydd, Llwybr yr Arfordir. Tipyn o ddringo camfeudd. Tua 5 milltir.Maes parcio traeth Poppit. Tâl.  SA43 3LNSN153484Beti Davies a Marina James (01545 571045. 07814868573)

Rhaglen mis Gorffennaf

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
1 Gorff 2023Hud a Lledrith y PreselauCylchdaith fynyddig oddeutu 5 milltir yn llawn hanes, crwydro gogoniannau’r Mynydd, llwybrau esmwyth ar y cyfan. Bydd y daith yn cyflwyno blas y cynfyd wrth dramwyo’r llwybrau. Un ddringfa heriol ar gychwyn y daith.Maen Coffa Waldo ym Mynachlog-dduSN135303Gareth Jones 01239654309
8 Gorff 2023Ardal Pantycelyn a ChefnarthenCylchdaith gymedrol o 8 milltir.Maes parcio coedwig Halfway oddi ar y A40 rhwng Llanymddyfri a Phont Senni. Cod Post agosaf SA20 0SESN834327Audrey Price, 01550721612
15 Gorff 2023Ardal Carreg CennenCylchdaith tua 6 milltir, peth dringo yma ac acw, un weddol serth. Llwybrau cadarn a heolydd tawel, sawl camfa.Maes parcio Castell Carreg Cennen. Cod Post agosaf SA19 6UASN666193Eirian Davies 01792844821
22 Gorff 2023
D. S. taith wedi'i chanslo
Felindre Farchog a Beifil
Taith wedi ei chanslo oherwydd rhagolygon y tywydd 
Cylchdaith oddeutu 5 milltir yn cwmpasu hanes a phrydferthwch glannau Afon Nyfer. Adeiladau hanesyddol a meini hynafol yn rhan annatod o’r tirwedd hudolus hwn. Un ddringfa fer serth ar ddechrau’r daith, phum sticil.Maes parcio Tafarn y Salutation ynghanol pentref Felindre Farchog. SA41 3UY (Gan mai hon yw taith olaf y tymor, y bwriad yw galw am ddiod neu luniaeth ysgafn yn y Salutation wedi’r daith.)SN100390Gareth Jones Hedd Ladd 01239654309

Rhaglen mis Mehefin

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
3 Meh 2023Drygan Fawr
(D.S. newid i'r daith wreiddiol)
Taith tua 6.5 milltir, yn dechrau yn weddol hamddenol ar lwybrau mynyddig i gopa'r mynydd. Ger yr Irfon, Llanerchyrfa, sydd tua 2.25 ,milltir o bentref Abergwesyn i gyfeiriad Tregaron Côd Post agosaf LD5 4TRSN836555Arwel Michael 01639844080
10 Meh 2023
Taith wedi ei chanslo
*Taith wedi ei chanslo, aildrefnu yn y dyfodol*
Dwy gronfa ddŵr rhwng Ffwrnes a Felinfoel, Llanelli.
Cylchdaith tua 6 milltir o Lyn Trebeddrod (Pownd Ffwrnes) i Gronfa Ddŵr Lliedi Isaf. Dychwelyd ar hyd llwybr hen Reilffordd Llanelly a Mynydd Mawr gan ymweld â Pharc Howard ar y ffordd. Peth dringo – ond dringo cymedrol ar y cyfan, a’r darnau mwy heriol yn rhai byr. Ardal gyfoethog ei hanes diwydiannol. Y cronfeydd yn rhan o rwydwaith ecolegol gwerthfawr. *Taith wedi ei chanslo*
Maes parcio Llyn Trebeddrod. Côd post agosaf SA15 4HE
SN504022Enid Jones 01267233987, 07495992138, 07483249980
17 Meh 2023Bosherston a BarafundleCylchdaith 7 milltir o hyd sydd yn dilyn glannau Llynnoedd Bosherston ac Arfordir Penfro. Dwy ddringfa raddol a llwybrau caregog mewn mannau.Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Bosherston (tu cefn i’r Eglwys) Tâl am barcio ( Arian parod neu gerdyn) Côd post agosaf SA71 5DNSR966947Gareth Jones 01239654309
24 Meh 2023Y Mwmbwls a Baeau Rotherslade a Langland Taith hamddenol, tua 5 milltir, (peth dringo ac un rhes o risiau) i edrych ar rhai agweddau o hanes yr ardal.Maes parcio Knab Rock, (tâl), gyferbyn â Chlwb Hwylio’r Mwmbwls. SA3 4ELSS627876Martin Jones 07715619523

Rhaglen mis Mai

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
6 Mai 2023Cwmfelinfach, Cwm SirhywiYmweliad â Pharc Gwledig Cwm Sirhywi, Caerffili. Cyfle i weld Y Babell, capel y bardd Islwyn, ac i gael blas ar hanes yr ardal a gweld blodau’r gwanwyn yn y warchodfa natur. Tua 5 milltirMaes Parcio Heol Ynys Hywel, Cwmfelinfach. Trowch i’r chwith (o gyfeiriad Casnewydd) yng Nghwmfelinfach i lawr Stryd Islwyn, heibio Capel y Babell ac i lawr y lôn gul ger yr afon i’r maes parcio ar y dde. Côd Post agosaf NP11 7JD (dyma côd post Canolfan Ynys Hywel sydd rhyw hanner milltir heibio’r maes parcio).ST189912Jackie James 07974696416
13 Mai 2023Ardal Parkmill/Cwm Iston, Bro Gwyr.Cylchdaith tua 6 milltir, dringo yma ac acw, gallu fod yn fwdlyd mewn ambell fan.  Un man serth ar ddiwedd y daith  yn dringo allan o Fae'r Tri Chlogwyn. Llwybrau caregog a heolydd tawelAr yr A4118, dringo allan o Parkmill, droi i’r dde ar ben y tyle ger Eglwys Penmaen, croesi’r grid gwartheg a pharcio ar y dde. Côd post agosaf SA3 2HQ (D.S. Anwybyddwch unrhyw arwydd yn dweud bod y ffordd tua'r maes parcio ar gau.)SS532887Eirian Davies 01792844821
13 Mai 2023Nant yr Eira
(ar y cyd a'r G. Dd.)
Taith yn seiliedig ar y cwm a anfarwolir yn y gerdd gan Iorwerth Peate. Cawn gwmni Beryl Vaughan. Peth dringo ysgafn, tua 5m.Capel Biwla, Neinthirion. Dilynwch y lôn wledig i’r de-orllewin o Lanerfyl am oddetu 6m neu’r un tua’r gogledd o Dalerddig ar yr A470.SH964066Bernard Gillespie
01588 620668
20 Mai 2023Dim Taith    
27 Mai 2023Cwm Nedd FechanCyfle i ddilyn Cwm Nedd Fechan a gweld y rhaeadrau hyfryd yn y rhan yma o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r llwybr yn dilyn y ceunant, ddigon hawdd ar y cyfan ond rhaid cymryd gofal gydag ambell i fan serth. Tua 5 milltir.Tu allan i dafarn Yr Angel, Pontneddfechan.  Awgrymir parcio wrth ochr yr heol (B4242) o Lyn-nedd i Bontneddfechan cyn cyrraedd y dafarn. Côd post SA11 5NR.SN900076Alan Williams 07989451348

Rhaglen mis Ebrill

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
1 Ebrill 2023Mynachlog Fawr a cherflun Y Pererin Ystrad FflurBydd Charles Arch yn rhoi hanes y lle hynafol yma  am 10.45 yn y Beudy Bach . Sylwer Fe fydd arddangosfa'r Tŷ Pair ar agor am ddeg . Ambell fan  serth  a gwlyb, ffyn yn fanteisiol Fydd paned ar gael ar y diwedd  cyfraniad os yn bosib plîs. www.ystradfflur.org.uk
Pellter tua 6 milltir, un dringad weddol serth.
Maes parcio Ystrad Fflur SY256ESSN746656Geoff Davies 07975893532 neu e bost davies_enlli@hotmail.com
8 Ebrill 2023‘Rwy’n Gweld o Bell y Dydd yn Dod,’ Ardal Cwmllynfell.Cylchdaith hamddenol tua 6 milltir, braidd dim dringo, yn ymweld â fferm Ddol Gam, man geni Watcyn Wyn. Llwybrau cadarn, ond un man gwlyb.Maes parcio ger y parc ar heol Penygraig, Ystradowen, Cwmllynfell. SA92YPSN752124Eirian Davies 01792 844821
15 Ebrill 2023Y Garn Goch a ThrichrugCylchdaith tua 7 milltir, Cofeb Gwynfor Evans, Y Garn Goch ac ochrau Trichrug. Dwy ddringfa serth ar yr heol/ llwybrau mynyddig.
Yn ôl ei ddymuniad fe fyddwn yn gwasgaru llwch y diweddar John Harry, ym mhresenoldeb ei deulu, ger cofeb Gwynfor. Croeso i chi ymuno a ni ger y gofeb yn unig.  
Capel Bethlehem Côd Post agosaf SA196ALSN687249Peter Evans 01269 832204
22 Ebrill 2023CrwbinYmweld â safleoedd archeolegol a chwarrau Mynydd Llangyndeyrn. Tua 5 milltir, peth dringo hamddenol.Ar y sgwâr ar y B4306 (troad  Meinciau/lloches bysiau) rhwng Bancffosfelen/Crwbin. Côd Post agosaf SA175DASN481126Mal James 01269870085
29 Ebrill 2023Cofeb Carlo (Ardal Blaenafon)Taith gylch tua 5.5 milltir gyda thipyn o ddringo i ben Mynydd Farteg Fawr. Rhai llwybrau garw.Arhosfa’n ger Canolfan Cymunedol y Varteg. Ar y chwith ar y B4246 os ydych chi'n dod o Flaenafon, ar y dde os ydych chi'n dod o Garndiffaith. Côd Post agosaf  NP47RT.SO266059Ena Morris. 07890611737

Rhaglen mis Mawrth

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
4 Mawrth 2023Caerllion a’r ArdalOlion Rhufeinig a lleoliadau hanesyddol  yn y dre, wedyn taith fer i Fryn Cas-gwen; rhai mannau serth a mwdlyd. 5 milltirMaes Parcio Cold Bath Road, (dim tâl) Caerllion NP181NFST334907Shelagh Fishlock 07951234618
11 Mawrth 2023 Taith wedi'i chansloY Mwmbwls a Baeau Rotherslade a LanglandTaith hamddenol, tua 5 milltir, (peth dringo ac un rhes o risiau) i edrych ar rhai agweddau o hanes yr ardal.Maes parcio Knab Rock, (tâl), gyferbyn a Chlwb Hwylio’r Mwmbwls. SA34ELSS627876Martin Jones 07715619523
18 Mawrth 2023
D.S. Taith wedi'i chanslo
Archeoleg Ddiwydiannol Bryn-mawr a Chwm ClydachGolwg ar yr archaeoleg ddiwydiannol sy’n gysylltiedig â Meistri Haearn Nant-y-glo, Crawshay a Joseph Bailey. Gwaith haearn a rheilffordd Clydach 1794, Rheilffordd Merthyr, Tredegar a’r Fenni. 6 milltir.Amgueddfa Bryn-mawr, Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr, NP234AJSO191117Frank Olding 01873856959
25 Mawrth 2023Yng Nghanol y Bryniau, ardal  Dde Ddwyrain Mynyddoedd Duon, Sir Fynwy.Taith tua 7 milltir ar lwybrau hanesyddol. Peth dringo dros Dwyn y Gaer, wedyn lawr i gwm Grwyne Fawr ac yn ôl o amgylch y GaerMaes parcio Fforest Cwm Iou (ddim ar y map). Trowch i’r chwith i fyny’r lôn gul gyferbyn â thafarn y Queens Head.  Côd Post agosaf. NP77NESO306221Olwen Jones 01873857866

Rhaglen mis Chwefror

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
4 Chwef. 2023Cwmllynfell/Cwmtwrch (Uchaf!)Taith ffigwr 8, tua 6.5 milltir, peth dringo, (weddol hamddenol), llwybrau cadarn.Maes parcio ger y parc ar Heol Penygraig, Ystradowen, Cwmllynfell SA9 2YPSN752124Eirian Davies 01792 844821
11 Chwef. 2023Llys-faen, CaerdyddTaith hamddenol tua 5 milltir yng Ngogledd Caerdydd o Lys-faen i Barc y Rhath trwy Goed Nant Fawr. Dim dringo. Dychwelyd i Lys-faen ar y trên - £2.90 neu £1.90 gyda’ch Cerdyn Teithio Rhatach Cymru.  Maes Parcio Gorsaf Trenau Llys-faen, Cherry Orchard Road. Cod Post agosaf CF14 0UEST178835Alan Williams 07989 451348  
18 Chwef. 2023

D.S Taith wedi'i chanslo
Dyffryn Cennen Dilyn Afon Cennen lawr i bentref Trap ac ymlaen i Bont Gelli a Chapel Soar. Y ffordd nôl bydd heibio Eglwys Llandyfân a dros Garreg  Dwfn, y copa mwyaf gorllewinol yn y Parc Cenedlaethol. Tua 8 milltir, gallu fod yn wlyb.Maes parcio Castell Carreg Cennen,  SA19 6UASN667193Richard Davies 07986 562 584
25 Chwef. 2023Cronfa Ddŵr Cwm WysgTaith 7 milltir esmwyth a hamddenol o amgylch y gronfa ddŵr. Ymlaen heibio’r Fedw Fawr ac edrych at geunant Afon Clydach o Fryn yr Wyn.Maes parcio Coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg. Cod Post agosaf LD3 8YFSN820271Arwel Michael 01639 844080

Rhaglen Mis Ionawr

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
7 Ion. 2023Dim Taith    
14 Ionawr 2023
Gohiriwyd oherwydd y tywydd
Rhwng Trinant a Nant Melyn. Blaen WysgTaith Archeolegol tua wyth milltir. Peth dringo gweddol esmwyth. Hefyd edrych ar weddillion Lancaster W4929Maes parcio Coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg. Cod Post agosaf LD3 8YFSN820271Arwel Michael 01639 844080
21 Ion. 2023Dim Taith    
28 Ion. 2023Dim Taith    

Rhaglen Mis Rhagfyr

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
3 RhagfyrLle i enaid gael llonydd.Cylchdaith tua 5 milltir; i fyny i Goed Graig Ddu, ymlaen i Flaen Cwm Ffrwd cyn troi yn ôl ar hyd troed Mynydd Farteg.  Maes parcio Clwb Rygbi Talywaun Cod post agosaf  NP47RQSO259045Ena Morris 07890611737 01495772996
10 RhagfyrCinio NadoligTaith wedi'i chanslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Cinio Nadolig i bawb sydd wedi bwcio yng Nghegin Gareth Richards am 12:30. Cegin Gareth
SA48 7JP
SN562474Alun Jones 01570423231, ar ôl 6 y nos
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.     

Rhaglen Mis Tachwedd

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
5 Tach.Bedd Taliesin a Chae’r ArglwyddesTaith gymedrol o tua 7 milltir. Lonydd, traciau a llwybrau gyda dringfeydd a pheth rhostir garw. Nifer o sticlau. Ychydig o fannau gwlyb.Cwm Ceulan. O gyfeiriad Tal-y-bont, dilynwch arwydd “Nant y moch”. Culfan ar ochr chwith y lôn ar ôl troad fferm Glanrafon ond cyn cyrraedd fferm Carreg CadwganSN688901Jackie Willmington ysgirfennydd.cof@cymdeithasedwardllwyd.com 01970820370 0781289454
12 Tach.Ardal LlanymddyfriCylchdaith tua 7 milltir a fydd yn ymweld â thir  y brenin. Peth dringo ac ambell fan gwlyb.Maes Parcio yng nghanol Llanymddyfri ger adfeilion y castell, tâl SA20 0ANSN767342Audrey Price 01550721612
19 Tach.Craig yr Allt, Caerdydd.Cylchdaith tua 7 milltir, dringo i ben Craig yr Allt a disgyniad serth i lawr i Gwm Nofydd, ambell fan mwdlyd. Cyfle i edrych ar dreftadaeth cloddio mwynhau haearn mewn Ardal Cadwraeth Arbennig. Maes parcio Fforest Fawr. CF83 1NGST142839Margaret Levi 02920813029
26 Tach.‘Rwy’n Gweld o Bell y Dydd yn Dod,’ Ardal Cwmllynfell.Cylchdaith hamddenol tua 6 milltir, braidd dim dringo, yn ymweld â fferm Ddol Gam, man geni Watcyn Wyn. Llwybrau cadarn, ond un man gwlyb.Maes parcio ger y parc ar heol Pen-y-Graig ,Ystradowen, Cwmllynfell. SA9 2YPSN752124Eirian Davies 0179844821

Rhaglen Mis Hydref

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
1 HydrefRheilffordd goll y Grwyne FawrDilyn llwybr rheilffordd a godwyd er mwyn creu’r gronfa ddŵr.  Dim llawer o olion amlwg ond mae ‘na stori ddiddorol yn cuddio yn y cwm.
Gyrru 8 milltir lan y cwm, dilyn trywydd y rheilffordd i faes parcio Blaen y Cwm, at yr argae a dod nôl ar hyd y grib uwchben Capel y Ffin - 4 i 5 milltir. Cymedrol, ond agored ac uchel (500 i 600m).
Culfan gyferbyn â Llwyncelyn, ar y ffordd sy’n troi o Ddyffryn Honddu i gyfeiriad Fforest Coal Pit. 
NP7 7NE
SO308217Jeff Davies
07854777019
01873856863
8 HydrefArdal Aberaeron a Ffos-y-ffin.Cylchdaith tua 7 milltir ar lwybrau a ffyrdd gwledig.  Golygfeydd eang.  Bach o ddisgyniad serth tua diwedd y daithMaes parcio Ysgol Gyfun Aberaeron
 SA46 0DT
SN460625Marina James
01545571045
07814868573
15 HydrefLlwybr Arfordirol y Mileniwm, LlanelliCylchdaith tua 6 milltir yn dilyn Llwybr yr Arfordir, braidd dim dringo, llwybr cadarn ar y cyfan. Mi fydd yn bosib gadael y daith a mynd yn ôl mewn sawl man.Parcio ar Stryd Cambrian, gyferbyn a Doc y Gogledd, ger Tafarn y New Cornish Arms. Ar gylchfan Lliedi , cymerwch y 3ydd allanfa (o gyfeiriad Abertawe) SA15 2PN  SS500994Gill ac Alun Griffiths
01269 594406
07792 562136
22 HydrefLlanfihangel- y- CreuddynCylchdaith gymedrol rhwng 5-6 milltir o ymyl Carreg Gwylfihangel i olwg  Afon Rheidol ac yn ôl. Ychydig ddringo a thir gwlyb.Yn ymyl Carreg GwylfihangelSN700767John Williams
01970 617173
29 HydrefCyfarfod BlynyddolGweler rhaglen Gwynedd a Môn am fanylion taith faes y GynhadleddGwesty’r Celt, Caernarfon. Elizabeth Roberts 01492 640591

Rhaglen Mis Medi

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
3 MediArdal Drefach FelindreCylchdaith tua 7 milltir, a fydd yn ymweld â’r Amgueddfa Wlân yn Nhrefach;  yn ôl  trwy GwmhiraethGer Eglwys Sant Llawddog, Penboyr, (parcio yn gyfyngedig)
SA44 5JE, Cod Post agosaf.
SN360362Gareth Jones 01269845682
10 MediArdal AberogwrTaith hamddenol  yn dilyn Llwybr Yr Arfordir i Gastell Ogwr a nôl dros y rhostir, tua 8 milltir.Maes parcio, ar y dde, cyn mynd lawr y rhiw serth, rhwng Southerndown a Bae Dwnrhefn, tâl.
CF32 0RT, Cod Post agosaf.
SS882734Richard Davies 02920842923
17 MediCrwydro’r PallegCerdded ochr Brycheiniog  Afon Twrch. Taith ddaearegol a hanesyddol tua 8 milltir, hamddenol.Heol y Palleg, Cwm-twrch Isaf, dilynwch yr arwyddion am y Clwb Golff, ar ôl pasio mynedfa'r clwb ewch ymlaen tuag at Bont Tir-y-gof
SA9 2QQ, Cod Post agosaf
SN769121Arwel Michael 01639844080
24 MediCronfa Ddŵr Llys-y-FranCylchdaith tua 6.25 milltir o amgylch y gronfa ddŵr, gyda chyfle i weld adar yr ardal. Ambell ddringfa yma ac acw, llwybrau cadarn.Ger y ganolfan ymwelwyr, tâl £3,  cerdyn yn unig. SA63 4RR, Cod Post agosaf.SN040244Gareth Jones 01239654309

Rhaglen Mis Awst - Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
30 Gorff.Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, TregaronPabell y Gymdeithas ar y Maes
30 Gorffennaf – 6_Awst
Maes yr Eisteddfod. Pabell Cymdeithas Edward Llwyd (Pabell 219-220)SN680605 
3 Awst
(11.00-12.00)
Lansiad Llyfrau 'Edward Lhwyd' a 'Parchedig yr Adar'    Lansiad llyfr Brynley Roberts ar Edward Llwyd (Cyfres Gwyddonwyr Cymru) ac i ddilyn lansiad llyfr Harri Williams –Parchedig yr Adar (Cymdeithas Edward Llwyd)Maes yr Eisteddfod. Pabell Prifysgol Aberystwyth 11.00 tan 12.00SN680605Gareth Ffowc Roberts, Goronwy Wynne, Twm Elias, ac eraill.
4 Awst
(10.15)
Taith Faes yr Eisteddfod 'Rhwng Aeron a Theifi'  Taith linellol tua 6 milltir, heibio olion hen gartref y llenor Kitchener Davies. Dringo i eglwys Llanbadarn Odwyn (golygfeydd arbennig) ac yn ôl i Langeitho heibio cof golofn Daniel Rowlands. Mae mwy o fanylion y daith ar dudalen 56 y llyfr Fan Hyn a Fan 'Co.Bydd bws (wedi ei logi gan y Gymdeithas) yn gadael y cylchdro ym mhentref Llangeitho  am 10.15 y bore i fynd a phawb yn ôl i gyrion Tregaron. Cerdded yn ôl i Langeitho. Mae maes parcio bach yn Llangeitho ond mae'n bosib parcio ar rhai o heolydd y pentref. SY256TNSN619597Anne Gwynne
4 Awst
(3.30)
Darlith yr Eisteddfod 'Gweithgareddau Canolfan Natur Ddyfi'Bydd Alwyn Ifans  Swyddog Project Gweilch y Ddyfi yn darlithio am ei waith yn y Ganolfan a datblygiad rhaglen gwarchod y Gweilch.Maes yr Eisteddfod Pabell ‘Y Sffêr’ (Pentre Gwyddoniaeth) 3.30 – 4.15 y.p.SN680605Darlithydd
Alwyn Ifans,
Swyddog Project, Canolfan Gweilch Bro Ddyfi.

Rhaglen y De a'r Canolbarth - Gorffennaf 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 Gorff.Treftadaeth Iolo Morgannwg, ardal y Bont-faenTaith tua 6.5 milltir (dewis byrrach, 4.5 milltir), 2 ddringfa raddol.Maes parcio tu ôl i Neuadd  Dre'r Bont-faen ar y Stryd Fawr (Tâl) Cod Post CF71 7DDSS995746Shelagh Fishlock  01179856850 07951234618
9 Gorff.Dim Taith    
16 Gorff.Ardal Bae Broughton, Bro GŵyrCylchdaith tua 7 milltir, yn croesi Bae Broughton, heibio Burry Holmes, ymlaen i Fae Rhossili.  Yn ôl ar draeth Whitford, un ddringfa weddol fer ar y diwedd.Maes parcio Cwm Ivy, ym mhen pellaf pentref Llanmadog,  (tâl) troi i’r dde ger yr eglwys. Cod Post agosaf SA3 1DESS439935Eirian Davies 01792844821
23 Gorff.BoncathCylchdaith tua 6 milltir yn dilyn llwybrau a lonydd tawel yr ardal. Un ddringfa yn unig fydd arni ac nid yw honno’n rhy hir chwaith.  Gall rhannau o’r daith fod yn wlyb dan draed. Dewch a sgidiau addas. Dewch a ffon hefyd - ma’ na thylwyth teg hynod beryglus yn cwato yn y cloddiau!!!!Maes parcio Neuadd y Pentref Cod Post agosaf SA37 0JNSN205383Hedd Ladd Lewis a Gareth Jones 01239654309 07507091689

Rhaglen y De a'r Canolbarth - Mehefin 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
4 Meh.Ardal arfordirol Pen-breCylchdaith tua 7 milltir. Dilyn Llwybr yr Arfordir i Barc Gwledig Pen-bre. Yn cynnwys twyni a thraeth Cefn Sidan, llwybrau coediog a llecynnau agored y Parc. Taith wastad ac eithrio ambell ddarn byr. Rhai mannau mwdlyd yn bosib. Hanes morwrol a diwydiannol diddorol; amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt. Modd mwynhau paned ar y diwedd.Maes parcio Llyfrgell Pen-bre (drws nesa i feithrinfa Serendipity) SA16 0TP SN429010Enid Jones
01267233987 07495992138 07483249980
11 Meh.O’r môr i’r mynydd- Ardal Dinas CrossCylchdaith oddeutu 7 milltir o hyd gyda golygfeydd hyfryd o ben Mynydd Dinas. Dringo cyson yn ystod rhan gyntaf y daith. Gellir cwtogi’r daith os dymunwch.Maes Parcio Pwllgwaelod SA420SB  Cod post agosafSN005398Gareth Jones 01239654309 07507091689
18 Meh.Olion gweithfeydd mwyn Cwmsymlog, Cwmerfyn, Llywernog ac eraill.Taith o tua saith milltir ar lwybrau. Peth dringo graddol yn yr hanner cyntaf.Cwrdd ym maes parcio Llyn PendamSN710840.Rees Thomas. 01970828772 07838259313
25 Meh.Ardal Cilcennin ger AberaeronTaith hamddenol drwy gefn gwlad gyda golygfeydd eang o Ddyffryn Aeron. 5-6 milltir, ambell fan gwlyb yn bosibIard ysgol Cilcennin. SA488RHSN519600Marina James 01545571045

Rhaglen y De a'r Canolbarth - Mai 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
7 MaiAr Gyrion PentyrchTaith tua 5.5 milltir drwy gaeau ac ar ffyrdd gwledig o amgylch Pentyrch. Golygfeydd o Ddinas Caerdydd a Mynydd y Garth. Peth dringo graddol. Gall fod yn fwdlyd mewn mannau.Maes parcio Clwb Rygbi Pentyrch, Heol Penuel - y pen pellaf o adeilad y Clwb. CF15 9QJ, Cod post agosafST099816Huw Jones 07312122280 Heulwen Jones 07958129538
14 MaiTyddewi – Y Ddinas a’r ArfordirCylchdaith oddeutu 7 milltir o hyd (ond fe ellir ei chwtogi) o gwmpas y ddinas hudolus hon sy’n cwmpasu llwybr yr arfordir, hanes Dewi Sant a’r Gadeirlan ynghyd a thirwedd Pentir Dewi. Ambell ripyn cymedrol hwnt ac yma, ond mae’r llwybr yn serth allan o Borth Clais.Maes Parcio Bae Caerfai. SA62 6QT, Cod Post agosafSM759243Gareth Jones 01239654309 07507091689
21 MaiBro GŵyrCylchdaith tua 7 milltir, yn dilyn rhan o Lwybr yr Arfordir. Drwy Goed Nicholaston, (yn y gobaith fydd blodau'r gwanwyn i’w gweld) heibio Castell Penrice a dringo i fyny i Gefn Bryn, lle mae ambell ran yn serth. Mi fydd yna olygfeydd arbennig, os fydd yn sych!Maes Parcio Penmaen, dilyn yr A4118 trwy bentref Parkmill, i fyny ‘r tyle a throi i’r dde ger yr eglwys. SA3 2HQ, Cod Post AgosafSS531888Eirian Davies 01792844821
28 MaiRhymni, Tredegar a’r DrenewyddDechrau yn Rhymni, dringo’n hamddenol dros y gweundir i Dredegar ac yn ôl trwy Barc Bryn Bach (cartref yr Eisteddfod yn 1990), a’r Drenewydd, pentref  hanesyddol ag adeiladwyd yn 1830 ar gyfer gweithwyr y diwydiant haearn. Tua 7 milltir.Gorsaf Trenau Rhymni NP22 5LR Mae trên 09.16 o Gaerdydd Canolog yn cyrraedd Rhymni am 10.18 (un trên bob awr).SO111074Alan Williams 07989451348

Rhaglen y De a'r Canolbarth -Ebrill 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 EbrillPlwyf Silian, ger Llanbedr Pont SteffanTaith tua 6 milltir rhwng Y Tawela a’r Denys. Cwmins yn rhannu’r ardal, mwdlyd mewn ambell fan.Ger Capel y Bedyddwyr, Silian
Cod Post agosaf SA48 8AR
SN577508Beryl Williams 01570 422396
Alun Jones
01570 423231
9 EbrillYstrad FflurCylchdaith tua 7 milltir yn ardal Ystrad –fflur. Tipyn o ddringo cymedrol a pheth tir gwlyb.Ger yr eglwys
SY25 6ES
SN746657John Williams 01970 617173
16 EbrillArdal Castell Newydd EmlynCylchdaith tua 6 milltir yn dilyn Afon Teifi i Genarth ac yn ôl. Peth dringo, cymedrol.Maes parcio yng nghanol y dref, ger y mart, tal.
Cod post agosaf SA38 9BA
SN306407Alun Voyle
01267 275636.
23 EbrillMarina a Dociau AbertaweCylchdaith hamddenol tua 5.75 milltir yn dilyn llwybr yr arfordir o Neuadd y Ddinas i'r Marina a'r Dociau ac yn ôl. Cyfle i weld y trawsnewidiadau sydd wedi digwydd yr ardal hanesyddol yma. Mae'r llwybr yn gadarn ac yn wastad, felly yn addas i bawb o bob oedran. Mi fydd cyfle i ddal y bws yn ôl ,os dymunir, o fan pellaf y daithMaes parcio y tu allan i brif fynedfa Neuadd y Ddinas (Guildhall) Abertawe, gyferbyn a Llys y Goron.
SA1 4PE
SS644925Eirian Davies 01792 844821
30 EbrillDyffryn AeronTaith tua 7 milltir o amgylch Dyffryn Aeron gan roi sylw i ambell blas a fydd i’w weld ar y daith.Parcio ger Eglwys Trefilan.
Cod post agosaf SA48 8QZ
SN549571Beti Davies
01570 470350

Rhaglen y De a'r Canolbarth - Mawrth 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
5 MawrthArdal Y CribarthTaith ddaearegol a hanesyddol, tua 7 milltir, yn ardal Mynydd y Cribarth. Peth dringo i ddechrau ac yn esmwytho wedyn .Fe ddilynwn ran o afon hynafol sych i orffenMaes Parcio Dan-yr-Ogof ar yr A4067. SA9 1GJ (cod post agosaf)SN842164Arwel Michael 01639844080
12 Mawrth Dim Taith    
19 Mawrth Aberteifi i Gastell CilgerranTaith tua 6.5 milltir yn dilyn lein Y Cardi Bach heibio Corsydd Teifi ag olion y chwareli llech. Golygfeydd o Gastell Aberteifi a cheunant trawiadol Afon Teifi. Taith ar y gwastad, a fydd yn llawn hanes a ffeithiau difyr. Peth tir mwdlyd drwy goedwig, bydd modd ymestyn neu leihau’r daith. Cyfle am goffi ar y diwedd.  Stad Ddiwydiannol Pentood/Yr Hen fart  anifeiliaid SA43 3AD I osgoi'r dre, os ydych chi'n teithio o Aberystwyth neu Castellnewydd Emlyn ewch i'r ail gylchdro a dilyn yr arwydd at Stad Ddiwydiannol Pentood /Mart Anifeiliaid. Troi i'r dde cyn y bont i Station Road.SN180457Geoff Davies 07975893532.
26 Mawrth Y Tair Carn Uchaf ac IsafO’r castell, dros Afon Cennen ac i fyny’r Mynydd Du i’r carneddi. Nôl heibio Llygad Llwchwr. Taith tua 7 milltir, diffyg llwybrau mewn mannau a rhai llethrau serthMaes parcio Castell Carreg Cennen, Trap SA19 6UA (cod post agosaf)SN666194Richard Davies 07986562584

Rhaglen y De a'r Canolbarth - Chwefror 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
5 ChwefrorDim Taith    
12 ChwefrorDim Taith    
19 Chwefror
Taith wedi ei gohirio tan 23 Ebrill
Marina a Dociau AbertaweCylchdaith hamddenol tua 5.5 milltir yn dilyn llwybr yr arfordir o Neuadd y Ddinas i'r Marina a'r Dociau ac yn ôl. Cyfle i weld y trawsnewidiadau sydd wedi digwydd yr ardal hanesyddol yma. Mae'r llwybr yn gadarn ac yn wastad, felli yn addas i bawb o bob oedran. Mi fydd cyfle i ddal y bws yn ôl ,os dymunir, o fan pellaf y daithMaes parcio y tu allan i brif fynedfa Neuadd y Ddinas (Guildhall) Abertawe, gyferbyn a Llys y Goron. SA1 4PESS644925Eirian Davies 01792 844821
26 ChwefrorCefn Onn, CaerdyddYmweliad â Pharc Cefn Onn, cylchdaith wedyn yn cynnwys dringo’n raddol i Gefnffordd Cwm Rhymni (man uchaf 250m) gyda golygfeydd ysblennydd o’r ddinas. Tua 5 milltir.  Maes Parcio Cefn Onn, Llysfaen, Caerdydd CF14 0UD. I’r rhai sydd am ddod ar y trên, mae Gorsaf Llysfaen rhyw 200 medr o Faes Parcio Cefn Onn. Trenau yn gadael Caerdydd Canolog bob 15 munud i Gaerffili, Bargod neu Rhymni (taith 15 munud).    ST178836Alan Williams 07989 451348

Rhaglen y De a’r Canolbarth - Ionawr 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
15 IonawrCronfeydd Lliw a Phlanhigfa Bryn LlefrithTaith oddeutu chwe milltir. I fyny ochr dde'r gronfa isaf wedyn ymuno efo'r ffordd i fyny at y gronfa uchaf. Trwy ganol Bryn Llefrith cyn dychwelyd ar hyd lan y gronfa uchaf i ddychwelyd ar hyd yr argae cyn anelu yn ôl at y gronfa isaf. Yn ôl ar hyd ochr chwith y gronfa isaf a dros yr argae hwnnw hefyd. Llwybrau da ar y cyfan, ond ambell le mwdlyd.Maes parcio Cronfeydd Dwr Dyffryn Lliw. (Tal £2.50) Cod Post agosaf SA5 7NPSN650034Dewi Lewis
01792 842621
22 IonawrDim Taith    
29 IonawrDim Taith