TAITH FLYNYDDOL CYMDEITHAS EDWARD LLWYD. 2020
Fe fydd y Gymdeithas yn ymweld â’r Arfordir Jwrasig yn y cyfnod 24-30 Ebrill 2020. Mae’r arfordir yn ymestyn am ryw 95 milltir ar hyd y Sianel, o ddwyrain Dyfnaint ymlaen drwy Dorset. Byddwn yn lletya yn West Lulworth yn nwyrain Dorset, safle sydd yn gyfleus i rai o drysorau’r arfordir.
Dynodwyd yr arfordir yma yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2001 ar sail ei daeareg unigryw. Daeareg sydd wedi cyfrannu cymaint i astudiaethau daear ac sydd yn sail amrywiaeth o gynefinoedd yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt. Gellir cael manylion pellach gan y Jurassic Coast Trust - http://www.jurassiccoast.org
Fe drefnir rhaglen o deithiau maes yn ymweld â rhai o brif nodweddion yr arfordir yn ystod yr wythnos - manylion i’w cadarnhau.
Os oes gennych ddiddordeb ymuno a ni, cysylltwch â Carys Parry neu Magi Roberts gan ddefnyddio’r ffurflen amgaeedig. Cofiwch mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu ac fe fydd rhaid hysbysu’r gwesty o’r niferoedd cyn diwedd Tachwedd 19.
PENWYTHNOS Y GYNHADLEDD FLYNYDDOL
Medi 20 - 22 2019 Gwesty a Sba Cwrt Bleddyn, Llangybi, Brynbuga