Skip to content

Canllawiau i leihau’r risg o drosglwyddo Covid 19

Adol 5 - 1/02/22

Pwrpas y canllawiau hyn ydyw;

  • Gostwng y risg o ymledu Covid 19 i aelodau Gymdeithas ac i’r cyhoedd o ganlyniad i Daith Faes.
  • Cydymffurfio a rheoliadau a chyfarwyddid Llywodraeth Cymru.

Mae’r canllawiau hyn  yn ddibynnol ar bedair ystyriaeth sylfaenol;

  • Y prif fodd i reoli’r risg o drosglwyddo Covid 19 ydyw cydymffurfio gyda gofynion Llywodraeth Cymru. Gweler: → Lefel rhybudd 0:
  • Bod cyfrifoldeb ar bawb sydd yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd gymryd camau rhesymol i ddiogelu eu hunain ac eraill rhag trosglwyddo Covid 19
  • Ni ddylai neb gymryd rhan mewn gweithgaredd os ydynt yn dioddef, neu yn amau eu bod yn dioddef o Coronofeirws 19.
    Yn ychwanegol;  Yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru yr ydym yn argymell i bawb gymryd  Prawf Llif Unffordd (LFT) cyn mynd ar daith faes.
  • Hynny yw, ni ddylid cynyddu’r risg cyffredinol i unrhyw aelod er mwyn cydymffurfio a chyfyngiadau Covid gan gynnwys unrhyw weithred i osgoi damwain neu i gynorthwyo rhywun yn dilyn damwain
DisgrifiadMesur diogelwchSylw
   
Trefniant Taith MaesCyfrifoldeb y Trefnydd / Arweinydd ydyw cynllunio’r Daith Faes fel y gellir, hyd yn ymarferol bosib, gydymffurfio â’r Canllawiau hynNi ddylai’r angen i rannu ceir fod yn rhan o gynlyn Taith Faes.Os yw ymweliad ag unrhyw adeilad yn rhan o daith faes rhaid sicrhau fod pawb yn gwisgo mwgwd oddi mewn i’r adeilad.Os yn bosib osgoi cyfarfod mewn trefi a phentrefi prysur. Dewis safle parcio ‘tawel’
.
Ystyriwch; man parcio, natur y llwybr, nifer y rhwystrau, prysurdeb yr ardal, ayb. . Gorau po leiaf o giatiau, camfeydd ac unrhyw rwystr arall fydd ar lwybr y daith.
Nifer o unigolion  ar Daith Faes.Gall yr Arweinydd neu’r  Trefnydd benderfynu cyfyngu’r niferoedd yn bellach (Taith Faes Gyfyngedig) Mae’n ofynnol i’r unrhyw un sydd yn bwriadu mynd ar daith ‘Gyfyngedig’ gysylltu â’r Trefnydd lleol neu’r  Arweinydd i gofrestru cyn y daith. Ni chaniateir i unrhyw un sydd heb gofrestru fynd ar  Daith Faes Cyfyngedig.Os yw’r daith faes yn ‘Gyfyngiedig’ fe hysbysir sut a gyda phwy i gysylltu gyda manylion y daith faes. Dylid cofrestru cyn 6.00 yh ar y diwrnod cyn y daith faes.
Trafaelio i’r man cychwyn ac yn ystod taith faes.Nid ydym yn argymell rhannu ceir i drafaelio gyda neb sydd oddi allan i’ch swigen gymdeithasol.Ni ddylid rhannu ceir yn ystod Taith Faes      Mater i’r unigolyn ydyw dewis sut i drafaelio
Ar ddechrau’r Daith Faes.Yr Arweinydd/ Trefnydd i sicrhau fod yr Aelodau sydd yn bresennol;Yn cael eu cofrestru, Yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i sicrhau eu bod nad ydynt wedi bod mewn cysylltiad ag achos o Covid Yn ymwybodol o’r  angen i gadw pellter cymdeithasol hyd yn bosib yn ystod y daith. Sicrhau bod diheintydd, a mwgwd, ar gael gan bawbCyfrifoldeb y Trefnydd ydyw sicrhau fod cofrestr o’r mynychwyr ar gael ar gychwyn y daith maes a bod y manylion canlynol wedi eu cofnodi; enw, cod post, rhif ffôn Mae hyn yn unol â gofynion Profi, Olrhain, a Diogelu Ll.C.
Yn ystod y daith faes.Cadw pellter cymdeithasol, rhwng yr Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd. Osgoi hyd yn bosib cyffwrdd mewn camfeydd a giatiau aybDiheintio’r dwylo fel bo’r angen, yn arbennig cyn bwytaGwisgo mwgwd oddi mewn i unrhyw adeilad.Dylid fod yn ofalus yn ystod cyfnodau pryd bydd yn arweinydd yn sgwrsio gyda’r aelodau.     Ystyried penodi ‘agorwr’ a ‘caewr’ , cofiwch ddiheintio
Ar ddiwedd y daith.Os trefnir ‘digwyddiad cymdeithasol’ ar ddiwedd  Taith Maes noder mai cyfrifoldeb rheolwyr y man ymgynnull yw cydymffurfio a rheoliadau Covid y Llywodraeth.Noder y cyngor ynglŷn â rhannu ceir.Mater i’r unigolyn ydyw ymgynnull ai pheidio ar ddiwedd taith. Noder bod cyfyngiadau mewn grym ynglŷn â faint o bobl y caniateir i ymgynnull mewn adeilad.Ni ystyrir hyn yn rhan o weithgaredd y Gymdeithas.