Gofynion Covid 19 Cymdeithas Edward Llwyd - Arweinydd a Threfnydd
Adol.2: 09/09/20)
Canllawiau a gofynion ar gyfer Trefnyddion ac Arweinwyr Teithiau Maes.
Cynllunio/ paratoi’r Daith Maes
- Mae cynllunio’r daith yn allweddol i leihau'r risg o drosglwyddo Covid 19 i’r cyhoedd a’r Aelodau. Mae’r dewis o lwybr yn bwysig; dylid osgoi parcio ac ymgynnull mewn mannau prysur, a hefyd osgoi llwybrau prysur. Mae natur y llwybr hefyd yn bwysig, llwybrau llydan gyda digonedd o fannau pasio yn rhagori ar lwybr cul cyfyngedig. Os yn ymarferol dylid osgoi llwybrau drwy fuarth fferm neu anheddau eraill. Hefyd sicrhau bod cyn lleied â phosib o giatiau, camfeydd ayb.
- Ystyriwch yn ofalus y safleoedd yr ydych yn mynd i siarad gyda’r Aelodau gan sicrhau y gellir cadw ‘pellter cymdeithasol’ yn ystod sgwrs. Cofiwch siarad yn uchel a chlir Dylid dewis y man yr ydych yn mynd i aros am ginio yn ofalus gan sicrhau fod digonedd o le i bawb eistedd a chadw ‘pellter cymdeithasol’
- Fe ddylech fod yn ymwybodol o gyngor Llywodraeth Cymru gweler: → Gofynion ‘Gweithgareddau sy’n cael eu trefnu yn yr awyr agored’. Hefyd, Canllawiau a Gofynion y Gymdeithas.
- Ni ddylid trefnu unrhyw Daith Faes lle mae cyfyngiadau ychwanegol mewn grym.
Cofrestru
- Mae’n angenrheidiol i’r Arweinydd/ Trefnydd baratoi cofrestr o’r rhai fydd ar y daith (ffurflen amgaeedig) yn cofnodi enw, cod post a rhif ffôn a’i hymrwymiad eu bod yn cyd-fynd a Chanllaw (2) - cadarnhad nad yw’r unigolyn wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw achos o Covid 19 yn ystod y pythefnos cyn y daith maes ac nad oes unrhyw gyfyngiad arall mewn grym.
- Dylech ddewis y dull a gyda phwy i gysylltu wrth baratoi a chyhoeddi manylion y Daith Faes. Cofiwch fod angen cadarnhad ar yr Aelodau eu bod wedi eu cynnwys ar y gofrestr.
- Y mae’r Gymdeithas yn cyfyngu ar y niferoedd sydd yn mynychu taith i 20. Fe ddylai pawb sydd ym mynd i fynychu Taith Maes gysylltu â’r Arweinydd / Trefnydd i gofrestru cyn 1800 ar y diwrnod blaenorol. – Cofiwch y cyntaf i’r felin gaiff falu.
Cyn cychwyn o adre
- Gwnewch yn sicr fod gennych gyflenwad o ddiheintydd addas*, buasai potel neu ddwy ychwanegol yn fanteisiol, rhag ofn bod rhywun wedi anghofio’i botel.
* Fe ddylai ‘Alcohol Denat neu Ethanol’ fod yn gyntaf ar y rhestr cynhwysion. - I drafaelio i’r Daith peidiwch â rhannu car gydag unigolion oddi allan i’ch ‘swigen ‘gymdeithasol’.
Ar ddechrau’r daith
- Sicrhewch fod y rhai sydd yn bresennol yn cyd-fynd a’r gofrestr, cofnodwch eu presenoldeb.
- Mae’n fuddiol atgoffa’r rhai sydd yn bresennol yn ystod cyflwyno’r Daith Faes o’r angen i gydymffurfio gyda rheoliadau yn ymwneud a Covid 19.
- Cofiwch bwysleisio’r angen i gadw ‘pellter cymdeithasol’ ac i ddefnyddio diheintydd pan fo’r angen.
Yn ystod y daith
- Cofiwch gymell yr Aelodau i gadw ‘pellter cymdeithasol’, os yn bosib, gydol y Daith
- Byddwch yn ymwybodol o gyffwrdd giatiau ayb, argymellir penodi agorwr a chaewr.
- Defnyddiwch eich diheintydd fel bo angen ac yn arbennig cyn bwyta.
- Dylid, os yn bosib, osgoi rhannu bwyd a gwrthrychau eraill gydag Aelodau eraill.
- Os bydd angen cymorth ar unrhyw un peidiwch â gadael i gyfyngiadau Covid 19 eich atal rhag cynnig y cymorth angenrheidiol.
Ar ddiwedd y daith
- Ni ddylid trefnu unrhyw ddigwyddiad ‘cymdeithasol’ ar ddiwedd Taith; penderfyniad yr unigolyn fydd gwneud hynny.
- Cofiwch am y cyngor ynglŷn â rhannu ceir.