Gofynion Covid Cymdeithas Edward Llwyd – Aelodau
Adol. 1 28/8/20
Canllawiau a gofynion ar gyfer Aelod(au) sy’n bwriadu mynd ar Daith Faes.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi ydyw sicrhau eich bod yn cyd-fynd a Rheoliadau a chyngor Llywodraeth Cymru. Gweler: → Gofynion . Os ydych yn bryderus ynglŷn ag unrhyw agwedd o drefniant Taith Faes siaradwch gyda’r Arweinydd neu'r Trefnydd.
Cyn diwrnod y Daith
- Ni ddylai neb gymryd rhan mewn gweithgaredd os ydynt yn dioddef, neu yn amau eu bod yn dioddef o Coronoveirws 19. Hefyd; os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw ddioddefwr yn ystod y pythefnos cyn y daith faes; bod cyfyngiadau ychwanegol maen grym oherwydd lleoliad eich cartref , neu , oherwydd eich wedi bod dramor yn ddiweddar.
- Y mae’r Gymdeithas yn cyfyngu ar y niferoedd a ganiateir ar Daith Faes. Fe ddylech gysylltu â’r Arweinydd / Trefnydd i gofrestru lle ar y daith erbyn 1800 y diwrnod cyn y Daith Faes. Fe hysbysir gyda phwy a sut i gysylltu gyda manylion y Daith Faes. Cofiwch mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu.
- Fe fydd yr Arweinydd/ Trefnydd yn paratoi cofrestr o’r Aelodau fydd ar y daith, Fe fydd angen eich enw llawn, cod Post a’ch rhif ffôn, a’ch ymrwymiad eich bod yn cydymffurfio a phwynt (1) uchod.
Cyn cychwyn o adre
Peidiwch â chychwyn o adre os ydych heb dderbyn cadarnhad eich bod wedi eich cynnwys ar gofrestr y Daith Faes.
Yn ogystal â bwyd a diod cofiwch roi diheintydd addas* yn eich bag.
* Fe ddylai ‘Alcohol Denat neu Ethanol’ fod yn gyntaf ar y rhestr cynhwysion.
I drafaelio i’r Daith peidiwch â rhannu ceir gydag unigolion oddi allan i’ch ‘swigen ‘gymdeithasol’.
Ar ddechrau’r daith
Cyflwynwch eich hun i’r arweinydd fel y gellir cofnodi eich presenoldeb ar y gofrestr.
Nodwch unrhyw gyfarwyddid gan yr Arweinydd.
Cofiwch gadw ‘pellter cymdeithasol’
Yn ystod y Daith Faes
Cofiwch gadw ‘pellter cymdeithasol’ os yn ymarferol gydol y Daith
Byddwch yn ymwybodol o gyffwrdd giatiau ayb
Defnyddiwch eich diheintydd fel bo angen ac yn arbennig cyn bwyta.
Dylid, os yn bosib, osgoi rhannu bwyd a gwrthrychau eraill gydag Aelodau eraill.
Os bydd angen cymorth ar unrhyw un yn ystod y daith peidiwch â gadael i gyfyngiadau Covid 19 eich atal rhag cynnig y cymorth angenrheidiol.
Ar ddiwedd y Daith Faes
Ni fydd y Gymdeithas yn trefnu unrhyw ddigwyddiad ‘cymdeithasol’ ar ddiwedd Taith; dewis yr unigolyn fydd gwneud hynny.
Cofiwch am y cyngor ynglŷn â rhannu ceir.