Skip to content

Diogelwch Gweithgaredd

Diogelwch a Gweithgareddau - Cymdeithas Edward Llwyd

(gan gynnwys atodiad Canllawiau Covid 19) 

Adol 3. - (20/05/22)

Y mae  Pwyllgor Gwaith  y Gymdeithas wedi mabwysiadu’r egwyddorion canlynol ynglŷn â diogelwch gweithgareddau’r Gymdeithas.

  • Mae pawb sydd yn mynychu taith maes yn gwneud hynny ar y ddealltwriaeth eu bod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain, a hefyd yn ystyriol o ddiogelwch eraill.
  • Ar daith maes dylai pawb gymryd camau rhesymol i sicrhau eu diogelwch eu hunain, a diogelwch eraill ar y daith.
  • Yn benodol dylech sicrhau fod taith maes o fewn eich cyraeddiadau corfforol ac eich bod wedi paratoi yn addas ar gyfer y daith gyda’r  bwyd, dillad addas ayb fel bo’r angen.
  • Cyfrifoldeb y Gymdeithas ydyw sicrhau fod yr aelodau yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â natur unrhyw daith maes, fel gellir penderfynu os yw taith yn addas.
  • Mae’r Gymdeithas wedi paratoi ffurflen ( holiadur) i gasglu gwybodaeth gan arweinyddion. Y mae hyn yn sicrhau fod y manylion angenrheidiol, mewn arddull safonol, ar gael yn y Cylchlythyr  ac ar y wefan. Dylid cysylltu â’r arweinydd am eglurhad neu fanylion pellach.

Dilynwch y linc ar gyfer copi o’r ffurflen a manylion pellach:

Canllawiau i arweinyddion:                Nodiadau i Arweinyddion a Threfnwyr.

Ffurflen cofnodi gweithgaredd:         Ffurflen cofnodi gweithgaredd

Atodiad Covid 19

  • Ni ddylai neb sydd yn dioddef, yn amau eu bod yn dioddef, neu wedi bod mewn cysylltiad agos a rhywun sydd yn dioddef o Coronafeirws yn yr wythnos cyn y daith, fynychu Taith Faes.
  • Os yw rhannu ceir, neu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, yn rhan o gynlyn taith faes dylid hysbysu hyn yn Rhaglen Gweithgareddau’r Gymdeithas.

Ceir gwybodaeth bellach a chyfredol ar wefan Llywodraeth Cymru dilynwch y ddolen hon <https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0-canllawiau-ir-cyhoedd>

Nid yw'r canlynnol bellach yn ddilys (Mai 2022) er gwybodaeth yn unig. 

I sicrhau fod y Gymdeithas yn cyd-fynd a gofynion Llywodraeth Cymru ynglyn a lleihau'r risg o ledaenu Covid 19 y mae angen gweithredu yn ôl y dogfennau canlynol (dilynwch y linciau);

Canllawiau Cymdeithas Edward Llwyd (Covid 1)                Canllawiau E Ll 

Gofynion ar gyfer Trefnyddion ac Arweinwyr. (Covid 2)     Gofynion Arweinydd a Threfnydd

Gofynion ar gyfer Aelodau (Covid 3)                                     Gofynion Covid – Aelodau  

Ffurflen gofrestru (Covid 4)                                                   Ffurflen Cofnodi

.