Skip to content

Ymgyrch defnyddio enwau Cymraeg ar fapiau’r Arolwg Ordnans

Amcan yr ymgyrch hon, a arweinir gan fudiad Cylch yr Iaith, ydi newid polisi’r Arolwg Ordnans ynglyn a’r defnydd o enwau lleoedd Cymraeg ar yr amgylchedd naturiol (enwau tirweddol) ar eu mapiau yng Nghymru. 

Ar hyn o bryd mae’r asiantaeth fapio, sydd â’i swyddfa yn Southampton, yn mynnu gosod enwau Saesneg yn unig ar leoedd sydd ag enwau Cymraeg hanesyddol, ee The Mushroom Garden (Coed Cerrig y Frân)Heather Terrace Path (Llwybr Gwregys), a gosod enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg, ee Cwm Cneifion/The Nameless CwmBala Lake/Llyn TegidSnowdon/Yr Wyddfa.

Ystyrir fod y polisi presennol yn cyfrannu i’r broses o ddisodli’r enwau Cymraeg cynhenid gan enwau Saesneg. Dyma eich cyfle i gyfrannu at wyrdroi'r polisi yma drwy fynegi eich barn i’r Arolwg Ordnans. Gallech, os dymunwch, ddefnyddio’r neges barod (dilynwch y ddolen - llythyr i’r A O)  a’i anfon at  jonathan.holmes@os.uk    (Mae’r asiantaeth yn derbyn gohebiaeth Gymraeg.). Efallai bod gennych enghraifftiau penodol sydd yn haeddu sylw arbennig, cofiwch dynnu sylw atynt yn y llythyr (cofiwch ychwannegu’r Cyfeinod Grid!)