Skip to content

Cystadlaethau Cymdeithas Edward Llwyd i Ddysgwyr 2027

Mae gan y Gymdeithas bedair cystadleuaeth i ddysgwyr - cyfle iddyn nhw ysgrifennu erthygl am fyd natur a'r amgylchedd. Maen nhw wedi'u hanelu at ddysgwyr lefel Sylfaen, Canolradd, Uwch a Phrofiadol. Dyddiad cau Mai 1af 2027.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ym mhabell Cymdeithas Edward Llwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd (31 Gorffennaf- 7 Awst 2027) ar ddydd Mercher 4 Awst (i'w gadarnhau)

Dilynwch y ddolen isod am Fanylion Pellach a Ffurflen Gais.  

Dolen  Cystadlaethau i Ddysgwyr 2027