Skip to content

Cystadlaethau i Ddysgwyr, 2026/27

*Lefel Sylfaen (hyd at 240 awr o ddysgu): “Y Gwanwyn” – 150-200 gair, caniateir hyd at 2 lun.

*Lefel Canolradd (hyd at 360 awr o ddysgu): “Am Dro yn yr Hydref” – 250-300 gair, caniateir hyd at 4 llun.

*Lefel Uwch (wedi dysgu Cymraeg am lai na 6 blynedd): "Byd Natur ar draws y Tymhorau" – 450-500 gair, caniateir hyd at 6 llun/tabl/diagram.

Dysgwyr Profiadol (wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn, neu fel ail iaith mewn ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg.) Erthygl hyd at 2000 gair am unrhyw agwedd o fyd Natur, gan gynnwys lluniau/tablau/diagramau

Dyfernir gwobrau ac aelodaeth y Gymdeithas am flwyddyn fesul lefel,

ynghyd â thystysgrif i bob ymgeisydd.

Cyhoeddir yr erthyglau llwyddiannus yn Y Naturiaethwr.

Bydd seremoni wobrwyo ym mhabell Cymdeithas Edward Llwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol 2027.

Am fwy o fanylion, neu i dderbyn y ffurflen gais, e-bostiwch ysgrifennydd@cymdeithasedwardllwyd.cymru, neu ewch i wefan https://cymdeithasedwardllwyd.cymru/dysgwyr

Dyddiad Cau 1 Mai 2027.

*Does dim hawl ymgeisio ar gystadleuaeth ar ôl ennill arni, ond cewch chi gystadlu ar lefel yn uwch.Mae hawl i ymgeiswyr lefel Profiadol ennill ddwywaith yn unig

Cystadleuaeth Dysgwyr 2026/27 - Ffurflen Gais

Enw  llawn                                                            Ffugenw  
Lefel (Sylfaen, Canolradd, Uwch, Profiadol)
Cyfeiriad e-bost:
Rhif Ffôn:
Cyfeiriad:  
Trwy lenwi’r ffurflen hon rydych chi’n cadarnhau eich bod chi’n dysgu Cymraeg ar y lefel briodol, ac mai eich gwaith personol yw’r ymgais.   Llofnod                                         Dyddiad  
Anfonwch y ffurflen gais a’ch ymgais fel dogfen Word gyda’ch ffugenw at ysgrifennydd@cymdeithasedwardllwyd.cymru erbyn y dyddiad cau, 1 Mai 2027.   Anfonir y canlyniadau trwy e-bost erbyn 1 Gorffennaf 2027