Skip to content

Llythyr Parod i’r Arolwg Ordnans

At        jonathan.holmes@os.uk

Annwyl Syr/Fadam,

Dymunaf fynegi fy ngwrthwynebiad i arfer eich asiantaeth o ddefnyddio enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau lleoedd tirweddol Cymraeg ar eich mapiau yng Nghymru, e.e. Bala Lake/Llyn Tegid; Snowdon/Yr Wyddfa. Mae'r arfer hon yn trin yr enwau tirweddol Cymraeg yn israddol, fel atodiadau. Dengys tystiolaeth fod hyn yn cyfrannu i ddisodli'r enwau Cymraeg, gyda'r enwau Saesneg yn cael eu defnyddio ar lafar ac yn nogfennau ac ar wefannau cyrff eraill, a'u trin fel yr enwau priodol, cydnabyddedig.

Dylai eich asiantaeth newid yr arfer bresennol, a defnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,