Mae gan y Gymdeithas bedair cystadleuaeth i ddysgwyr - cyfle iddyn nhw ysgrifennu erthygl am fyd natur a'r amgylchedd. Maen nhw wedi'u hanelu at ddysgwyr lefel Sylfaen, Canolradd, Uwch a Phrofiadol. Dyddiad cau Ebrill 1af 2026.
Cynhelir y seremoni wobrwyo ym mhabell Cymdeithas Edward Llwyd ar faes Eisteddfod y Garreg Las, ddydd Mercher 5 Awst 2026
Dilynwch y ddolen isod am Fanylion Pellach a Ffurflen Gais.
