Skip to content

Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd 2026

Mae’r Gynhadledd eleni ar ei newydd wedd, sef cynhadledd undydd mewn lleoliad sydd, gobeithio, yn hygyrch i bawb. Fe gynhelir y Gynhadledd yn Neuadd Rhydypennau, Pen-y-garn, Bow Street, SY24 5BQ ar y 3ydd o Hydref 2026. Gellir parcio ym maes parcio’r neuadd neu yn y strydoedd cyfagos. Gweler isod am raglen y dydd:

Rhaglen y Gynhadledd

10.30 Croeso a phaned

11.00 ‘Gwasg y Lolfa’ - Garmon Gruffydd (Rheolwr)

12.00 Egwyl am ginio (paned ar gael, dowch â phicnic eich hunain)

13.00 Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Edward Llwyd
                  Dilynwch y ddolen ar gyfer:   

                  1) Agenda Cyfarfod Blynyddol 2026   
2) Cofnodion Cyfarfod Blynyddol 2025

14.00 ‘Llydaw Ddoe a Heddiw’ – Dominig Kerevant

15.00 Paned a chacen cyn ymadael.

Cyfle i aelodau gyfarfod, sgwrsio a mynegi barn.