Skip to content

Cyfarfod Blynyddol 2025 Cofnodion

a gynhaliwyd brynhawn Sadwrn y 4ydd o Hydref 2025 am 4.30

yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod

Yn Bresennol:

Goronwy Wynne (Llywydd), Iona Evans (Cadeirydd y Gymdeithas), Shelagh Fishlock (Ysgrifennydd), Eirian Davies, Julie Davies, Hywel Madog Jones, Anne Gwynne, Jackie James, Gwenan Jones, Enid Jones, Hywel Madog Jones, Olwen Jones, Dafydd Lewis, Mair Owens,. Elizabeth Roberts, Iwan Roberts, Will Tyler, Carwen Vaughan, Alan Williams, Philip Williams, Jackie Willmington (Ysgrifennydd Cofnodion).  (20)

1.    GAIR O GROESO GAN Y CADEIRYDD

Dywedodd Iona Evans ei bod yn bleser croesawu 20 aelod i’r Cyfarfod Blynyddol.  Diolchodd i; Goronwy Wynne am deithio mor bell. 

2.    YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Rhisiart ap Gwilym, John Griffith, Helen Griffith, Gareth Wyn Jones, Haf Meredydd, Gwyn Roberts ac Amanda Skull (Trysorydd).

3.    DERBYN COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL 2024

       Cynigiodd Shelagh Fishlock ac eiliodd Philip Williams dderbyn cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd yn Llanelli ar y 5ed o Hydref 2024 yn gofnod cywir.  Cytunwyd drwy ddangos dwylo.

4.    MATERION YN CODI O’R COFNODION       Dim

5.    ETHOL LLYWYDD

Cynigiodd Dafydd Lewis ac eiliodd Jackie Willmington ail-ethol Dr. Goronwy Wynne yn Llywydd y Gymdeithas.  Cytunwyd yn unfrydol. 

Cymerodd Dr Wynne y gadair a diolchodd i’r aelodau am ei ailethol unwaith eto.  Dywedodd ei fod yn dal i ddilyn gweithgareddau’r Gymdeithas er na allai fynychu teithiau maes ac nad oedd yn adnabod llawer o’r aelodau presennol.  Cyfeiriodd at ei oedran a dywedodd ei fod yn ymwybodol y byddai amser yn dod pan fyddai rhaid i'r aelodau ddewis Llywydd newydd.

6.    ETHOL IS-LYWYDDION

Cynigodd Anne Gwynne ac eiliodd Hywel Madog Jones ailethol Duncan Brown a Twm Elias yn Is-lywyddion.  Cytunwyd drwy ddangos dwylo.  .

7.    AELODAETH Y PWYLLGOR GWAITH: ETHOL SWYDDOGION 

i.   Cadeirydd:   Diolchodd y Llywydd i Iona Evans am gynrychioli’r Gymdeithas yn gyhoeddus a hefyd am ei gwaith y tu ôl i’r llenni.  Atgoffodd Iona yr aelodau ei bod yn Gadeirydd am gyfnod estynedig a dywedodd y byddai'n braf trosglwyddo’r awenau.  Esboniodd ei bod wedi trafod y Gadeiryddiaeth gyda nifer o aelodau ond nad oedd neb yn fodlon cael ei enwebu  Gofynnodd Goronwy Wynne a oedd Iona yn fodlon gwasanaethu am flwyddyn arall a chytunodd Iona.

Ailetholwyd Iona Evans yn Gadeirydd drwy ddangos dwylo. 

ii.  Is-gadeirydd:   Esboniwyd bod y swydd wedi bod yn wag ers y Cyfarfod Blynyddol diwethaf ac na dderbyniwyd enwebiadau.  Galwodd Goronwy Wynne yn aflwyddiannus am enwebiad o'r llawr.  Gadawodd yr ymdrech i ganfod Is-gadeirydd yn nwylo’r Pwyllgor Gwaith (PG).  Anogodd Dr Wynne y PG i ddwyn perswâd ar rai o’r aelodau iau i ymuno â hwythau er mwyn sicrhau dyfodol y Gymdeithas.

Ailetholwyd y swyddogion canlynol drwy ddangos dwylo. 

iii. Trysorydd:                   Amanda Skull.

iv. Ysgrifennydd:             Shelagh Fishlock.

v.  Ysgrifennydd Aelodaeth: Dafydd Lewis

vi. Ysgrifennydd Cofnodion: Jackie Willmington.

Diolchodd y Llywydd i’r swyddogion uchod am eu gwaith. 

8.  ETHOL SWYDDOGION ERAILL

Trefnyddion Gweithgareddau :-

  1. Gogledd Orllewin: Rhoddodd Iona Evans wybod bod John Griffith yn dymuno rhoi’r gorau i drefnu teithiau maes yn rhanbarth Gwynedd a Môn erbyn mis Ionawr 2026 ac esboniodd bod y tîm yn gobeithio ethol Cyd-drefnydd i gyd-weithio â John tan ddiwedd y flwyddyn ac wedyn cymryd yr awenau.  Ni dderbyniwyd enwebiad a gadawyd i’r PG chwilio am wirfoddolwr. 
  2. Gogledd Ddwyrain: Ailetholwyd Iwan Roberts.
  3. De a'r Canolbarth: Adroddwyd Gareth Wyn Jones
  4. Trefnydd Gwyliau  Ailetholwyd John Griffith.

Diolchodd y Llywydd i’r Trefnyddion am eu gwaith.

Esboniwyd bod Elizabeth Roberts yn dymuno rhoi’r gorau i drefnu’r Gynhadledd Flynyddol ond bod y PG yn awgrymu peidio â llenwi’r swydd oherwydd na fwriadwyd cynnal cynhadledd yn yr un ffurf yn 2026 (gweler eitem 18). 

9GOLYGYDDION

  1. Y Naturiaethwr:  Ailetholwyd Dafydd Lewis  

Ii          Y Cylchlythyr  Ailetholwyd Gwyn Roberts

Diolchodd y Llwydd i’r Golygyddion gan ddweud ei fod yn mwynhau pori drwy’r ddau gylchgrawn ddwywaith y flwyddyn. 

10CYNRYCHIOLWYR IS-BWYLLGORAU

i)   Llên Natur a’r Panel Enwau:  Ailetholwyd  Duncan Brown drwy ddangos dwylo. 

  1. Is-bwyllgor Marchnata  Ailetholwyd Hywel Madog Jones drwy ddangos dwylo.

Diolchodd y Llywydd i’r ddau gynrychiolydd am eu gwaith.

11.  AELODAU ERAILL O’R PWYLLGOR GWAITH

Ailetholwyd y canlynol drwy ddangos dwylo:-

Alan Williams

Eirian Davies

Elizabeth Roberts

Dominig Kervegant

Rhisiart ap Gwilym

Dawi Griffiths

Elen Owen

Eurgain Jones

Dywedwyd bod lle, yn ôl Cyfansoddiad y Gymdeithas, am un aelod arall ar y PG.  Cynigiodd Eirian Davies Rob Jones ac fe’i eiliwyd gan Shelagh Fishlock.  Etholwyd Rob drwy ddangos dwylo.  

Diolchodd y Llywydd o galon i holl aelodau’r PG am eu gwaith.

12.  ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Yn absenoldeb Amanda Skull, cyflwynodd adroddiad y Trysorydd gan Hywel Madog Jones.

Pwysleisiodd fod ymgymryd â’r Drysoriaeth ar ôl marwolaeth Margaret Roberts wedi golygu llawer o waith.  Dywedodd bod Amanda bellach wedi digideiddio’r system.

Cyfeiriodd at y fantolen ac esboniodd fod incwm o’r tâl aelodaeth yn llai yn 2024/5 nag yn y flwyddyn flaenorol oherwydd bod problemau gyda banc y Gymdeithas wedi rhwystro casglu’r taliadau drwy ddebydau uniongyrchol (DU).  Esboniwyd nad yw’r feddalwedd  DU dan sylw yn gweithio ar MacBook y Trysorydd ac felly bwriedid defnyddio cyfrifiadur Windows yr Ysgrifennydd Aelodaeth.  Dywedodd Dafydd Lewis y byddai’n anelu at gasglu DU 2024/5 yn fuan ac wedyn taliadau 2025/26.  Nodwyd y byddai’r Gymdeithas yn rhoi gwybod i’r aelodau cyn codi arian o’u cyfrifon banc. 

O ran gwariant, tynnwyd sylw mai stondin y Gymdeithas yn yr Eisteddfod ac argraffu a dosbarthu’r cylchgronau oedd y costau mwyaf.  Esboniwyd nad oedd y Gynhadledd na’r gwyliau yn golygu cost net i’r Gymdeithas.  Dywedwyd bod gwariant ar y gwefannau wedi lleihau o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Adroddwyd i’r Gymdeithas dderbyn y rhoddion canlynol:-

       £4000     o ewyllys y diweddar Ifor Lunt Owen

         £159     oddi wrth Mari Wyn

         £600     oddi wrth Duncan Brown, o enillion ei lyfr Gwyrdd eu Byd

Awgrymodd Goronwy Wynne gyhoeddi’r rhoddion yn y Cylchlythyr.  Diolchodd i Amanda Skull, Hywel Madog Jones a Dafydd Lewis am eu gwaith yn gysylltiedig â’r cyfrifon.  Mynegodd ei ofid ynglŷn â marwolaeth Margaret Roberts. 

13.  DERBYN Y FANTOLEN

Esboniodd Hywel Madog Jones fod rhaid chwilio am archwiliwr annibynnol  newydd ar gyfer cyfrifon 2024/25  Dywedodd fod y Trysorydd wedi methu â darganfod unigolyn â phrofiad perthnasol ac felly penderfynwyd defnyddio cyfrifwyr proffesiynol, W J Matthews a’i fab.  Oherwydd y problemau a amlinellwyd uchod, nid oedd yn bosibl cwblhau’r archwiliad cyn y Cyfarfod Blynyddol.

Cytunwyd yn ddiwrthwynebiad i dderbyn y fantolen yn amodol ar archwiliad.   

14.  PENODI ARCHWILWYR

Dywedwyd y byddai’r PG yn ceisio lleihau costau drwy osgoi defnyddio archwilwyr proffesiynol a chwilio am rywun annibynnol â phrofiad perthnasol ar gyfer archwiliad 2025/26.  Cytunwyd i ganiatáu i’r Pwyllgor Gwaith benodi archwilydd. 

15Phenod Tâl aelodaeth 2026/27

Dywedodd y Cadeirydd fod y PG yn argymell peidio â chodi’r tâl aelodaeth yn 2026/27.  Cytunwyd yn ddiwrthwynebiad. 

16.  ADRODDIAD Y PWYLLGOR GWAITH GAN Y CADEIRYDD

Dywedodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwaith gwrdd ym misoedd Tachwedd, Chwefror, Mai a Medi gan gynnal y pedwar cyfarfod yn rhithiol a dosbarthu’r adroddiadau ymlaen llaw.  Adroddodd i aelodau’r PG fynychu’r cyfarfodydd yn ffyddlon.

Adroddodd fod 40 aelod wedi mwynhau wythnos o wyliau yn ardal Mur Hadrian ym mis Mai. 

Nododd ei bod yn bleser croesawu llawer o aelodau i stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod Wrecsam ac i gofrestru nifer o aelodau newydd.  Dywedodd i’r Gymdeithas gynnal taith lwyddiannus ddydd Iau’r Eisteddfod.  Adroddodd hefyd i’r Gymdeithas drefnu taith faes i deuluoedd yr wythnos wedyn gan gynnig cyfle i dynnu sylw plant at ryfeddodau byd natur.   

Dywedodd bod teithiau yn ystod gŵyl pedwar diwrnod yn ardal Aberdâr ym mis Medi wedi denu llawer o aelodau a diolchodd i’r trefnwyr. 

Nododd fod lluniau ar dudalennau Weplyfr Cymdeithas Edward Llwyd a Chymuned Llên Natur yn creu diddordeb sylweddol ac yn codi statws y Gymdeithas. 

Cyfeiriodd at drafferthion y Trysorydd a diolchodd i Amanda Skull a Hywel Madog Jones am eu gwaith.

Diolchodd i Duncan Brown a Dominig Kervegant am eu gwaith ar Brosiect Llên Natur ac i olygyddion am gyhoeddi’r Cylchlythyr a’r Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn.  Apeliodd at yr aelodau i anfon erthyglau’n disgrifio teithiau maes at Olygydd y Cylchlythyr. 

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r PG am eu gwaith diflino ac i’r holl aelodau sydd yn cyfrannu at lwyddiant y Gymdeithas gan nodi bod y tair taith wythnosol yn cynnig cyfle braf i ymweld â lleoliadau ledled Cymru. 

Diolchodd y Llywydd yn fawr i Iona am ei chefnogaeth i’r Gymdeithas.  . 

17.  UNRHYW FATER ARALL

Tynnodd yr Ysgrifennydd sylw’r aelodau  at Gystadleuaeth y Gymdeithas i Ddysgwyr. 

18.  Y CYFARFOD BLYNYDDOL NESAF

Dywedodd y Cadeirydd fod y PG wedi sylwi ar ostyngiad cyson yn y nifer o aelodau’n mynychu’r Gynhadledd Flynyddol ac yr oeddent wedi penderfynu na fyddai Cynhadledd yn y ffurf arferol yn 2026.   Esboniodd fod y PG yn awgrymu cynnal y Cyfarfod Blynyddol nesaf mewn cysylltiad â digwyddiad llai ffurfiol a byddent yn trafod y mater ym mhellach yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd.