Skip to content

Taith Flynyddol 2026 – Y Gororau

Meddai T.H. Parry-Williams: "Ffin – goror – lle am drwbl bob amser. Annelwigrwydd, anwadalwch, annibendod. Rhyw anniffinioldeb fel yna sydd hefyd ar y ffin rhwng cnawd ac ysbryd, rhwng corff ac enaid, rhwng pwyll ac amwyll, rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, rhwng byw a marw... "*

Yr ydym yn gobeithio ymweld â’r Gororau ar gyfer ein Taith 2026. Mae Cwmni Teithiau Elfyn Thomas yn cynnig chwe noson yng Ngwesty Parkhouse, Shifnal, gyda bws ar gael i’n cludo o’r de neu’r gogledd at y gwesty ac yn ôl, ac i’n gwasanaethu gydol y gwyliau: rhwng 9 a 15 Mai 2026 (6 noson). Gweler y daflen rhydd yn y Cylchlythyr.

Ein nod yw cynnig dau ddewis ar gyfer y teithiau pob dydd: hamddenol neu fwy egnïol.

Dyma ragflas o'r hyn y gallwn edrych ymlaen ato:

  • Taith o gwmpas Yr Amwythig (Cymdeithas Gymraeg Yr Amwythig);
  • Milltir Sgwâr Edward Llwyd (Dr Melinda Price);
  • Bro Ann Griffiths/Pennant Melangell (Beryl Vaughan);
  • Ardal Trefaldwyn (Arwyn Davies (Arwyn Groe));
  • Cefn Hergest (Hywel Madog);
  • Stiperstones neu Tre’r Esgob (Diane Norrell);
  • Dan ystyriaeth hefyd mae; Cerdded Long Mynd; ymweld â Sycharth; ymweld â Llwydlo. Wedyn mae gerddi Hergest yn Ceintun (Kington); llwybrau Cwm Elan; ystâd Rodd/Ymddiriedolaeth Sydney Nolan, Llanandras (Presteigne); amgueddfa a Gerddi Castell Powis; Ironbridge; tŷ hanesyddol a gerddi Gregynog; Traphont Ddŵr Pontcysyllte; Clawdd Offa…

Gall y rhestr newid wrth reswm!