MUR HADRIAN A GOGLEDD DDWYRAIN LLOEGR
Dyddiad: 10 – 17 Mai 2025
Llety: Holiday Inn, Washington, Tyne and Wear
Y nod yn 2025 fydd cael gwyliau ddim yn rhy bell o’r bur hoff bau, ac eto mewn ardal gall fod yn anghyfarwydd i nifer ohonom. Bydd bws cwmni teithio Elfyn Thomas o Ynys Môn yn ein danfon i ogledd ddwyrain Lloegr.
Canolbwynt yr ŵyl fydd Mur Hadrian, oedd yn marcio terfyn gogledd-orllewinol yr Ymerodraeth Rufeinig am bron tri chan mlynedd.
Mae’r Mur dros bedwar ugain milltir o hyd a’r bwriad yw cerdded y cymalau mwyaf diddorol ble mae’n gadael y tiroedd breision ac yn cofleidio tirwedd fynyddig ac anghysbell; yr union dirwedd sydd wedi sicrhau bod y mur wedi goroesi’r oesoedd cystal. Ac fel rhyw wrthgyferbyniad, dyma ble gwelir tair caer Rufeinig ysblennydd Chesters;,Vindolanda, a Housesteads.
Mae’r trefnwyr yn ymwybodol na fydd pawb yn dymuno ymgymryd â thaith gerdded hir bob diwrnod ac yn ffodus mae dewis eang o atyniadau hygyrch yn yr ardal gan gynnwys nifer o safleoedd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd y bws ar gael ar gyfer ymweliadau amgen.
Syniadau ar gyfer teithiau’r wythnos:-
- Cerdded Mur Hadrian
- rhwng Chollerford a Green Carts Farm gyda chyfle i ymweld â Chaer Rhufeinig Chesters a’r amgueddfa.
- rhwng Green Carts Farm a Grindon
- rhwng Grindon a Housesteads gyda chyfle i ymweld â chaer Rhufeinig, amgueddfa a chaffi.
- rhwng Housesteads a Steel Rig (Once Brewed)
- rhwng Steel Rig a Holmhead
- Cerdded arfordir Northumberland
- Gibside
- ystâd y teulu Bowes gyda gerddi Georgaidd,
- lwybrau helaeth
- cyfle i weld iwrch a bywyd gwyllt gan gynnwys ystod eang o adar
- Howick Hall
- cartref yr ail Iarll Grey, Prif Weinidog yn yr 1830au y mae ei enw’n gysylltiedig â’r gymysgedd enwog o de. .
- gerddi a choedardd (arboretum)
- llwybr 1.5 milltir at y traeth
- Durham
- y Gadeirlan gyda chysegrfa Cuthbert (Esgob Lindisfarne) a bedd Beda Ddoeth (the Venerable Bede).
- Garddi fotaneg y Brifysgol – “celf yn yr ardd”, tai gwydr, coetir cynhenid
- Crook Hall – adeilad rhestredig gradd 1 o’r canoloesoedd, gardd furiog, drysfa (maze)
- Amgueddfa Beamish
- amgueddfa awyr agored
- hanes gogledd ddwyrain Lloegr.
- Washington Old Hall a’r gerddi.
- cartref teuluol arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau
- Ynys Sanctaidd Medcaut neu Meddgawdd (Lindisfarne) –
- ynys lanwol gyda chawsai’n ei chysylltu â’r tir mawr.
Cost
7 noson yn yr Holiday Inn, Washington, Tyne and Wear.
Gwely, brecwast a chinio tri chwrs:-
£750 yr un dau yn rhannu
£960 ystafell sengl
Mae rhaid cofrestru a thalu blaendal o £100 erbyn 31 Awst. Mae ffurflen Archebu yng Nghylchlythyr Gorffennaf 2024
Teithio i Tyne and Wear
Bydd y bws yn gadael Ynys Môn a gellir codi teithwyr ar hyd yr A55 .
Awgrymir parcio:-
- Yn Llanfaethlu am ddim
- Yn Llanfairpwll, Ynys Môn (£12 yn 2023) gellir talu dros y ffôn
- yng Nghaer (Holiday Inn - Chester South) am tua £35
Ceir mwy o wybodaeth yngl ŷn â meysydd parcio Ynys Môn yma:-