Skip to content

Taith Faes Ynys Enlli

Dyddiad:  Dydd Mercher, 20 Awst

Arweinydd: Haf Meredydd. 01766780541 07483857716
Cofrestru erbyn 14 Awst gydag ebost hmeredydd21@gmail.com


Manylion y Daith:

Cwch o Borth Meudwy, taith dywys o amgylch yr ynys. Dilyn y lôn o’r Cafn, heibio’r odyn, yr ysgol a’r wylfa adar hyd at Gapel Enlli a Thŵr yr Abaty. Oddi yma un ai dringo’r mynydd neu ddilyn yr arfordir. Cyfle i weld traeth Porth Solfach a’r goleudy ar y ffordd yn ôl.

Dringo i mewn ac allan o’r cwch, dilyn lôn/trac, yna llwybr dros y mynydd neu ar hyd yr arfordir.

Trefniant:

Enwau i Haf cyn gynted â phosib ar e-bost
dyddiad olaf i dderbyn enwau – 14 Awst.
(Fe fydd Haf yn aros yn Enlli gydol yr wythnos).
.

Cost: Oedolion £50, o dan 16 £25 (Talu ar y cwch)

Rhaid ffonio Colin y cychwr y noson gynt ar 07971 769895 i gadarnhau bod y cwch yn croesi.
Os byddwch wedi archebu lle ac yn methu mynd ar y funud olaf, RHAID gadael i Colin wybod ar y rhif uchod fel ei fod yn gallu llenwi’r lle gwag.

Parcio: maes parcio Porth Meudwy, rhaid cerdded i lawr i'r Porth (tua 1km) Cofiwch adael digon o amser i barcio, ayb a cherdded i'r traeth. Cwch yn cychwyn am 11.30.

Cofiwch ddod â digon o fwyd a diod, eli haul a dillad glaw.