Skip to content

Nodiadau i wirfoddolwyr

Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf - 2024,

Diogelwch (gweler yr Asesiad Risg - Adran 11)

  • Cadwch y babell yn daclus ac yn glir o sbwriel
  • Cadwch lwybrau clir yn y babell ee dim ceblau dan draed.
  • Cadwch olwg ar yr offer trydanol a sicrhau eu bod yn sych a heb unrhyw nam amlwg.
  • Ni chaniateir fflam agored na deunydd fflamadwy yn y babell.
  • Byddwch yn ofalus gyda dŵr poeth a sicrhau fod y foiler yn ddiogel ar y bwrdd a llwybr clir i gario dŵr poeth.
  • Nodwch os ydych yn sylwi ar unrhyw ddiffyg yn adeiladwaith y babell, neu unrhyw ddeunydd oddi fewn i’r babell.

Bwyd a diod

  • Ni chaniateir paratoi bwyd yn y Babell ac eithrio gweni diodydd poeth/oer a bisgedi.
  • Cadwch ardal y ‘gegin’ yn lân a thaclus, Cofiwch ddefnyddio’r diheintydd.
  • Glanhewch y byrddau paned yn gyson
  • Byddwch yn ofalus wrth baratoi a chario diodydd poeth.

Gwerthu ac Arian

  • Prisiau: Gweler ardan 4 o’r Llyfr Du.  Noder fod rhai o lyfrau’r Gymdeithas am bris gostyngol.
  • Dylai pob gwerthiant neu arian a dderbynnir gael ei gofnodi ar Ffurflen Gofnodi Gwerthiant (gweler rhan 5) Ffurflen newydd ar gyfer pob dydd - nodwch y dyddiad.
  • Gellir talu gydag arian parod neu drwy ddefnyddio’r ‘Teclyn Talu’- Sumup. Mae cyfarwyddiadau sut i’w ddefnyddio ar gael drwy ddolen hon: Sumup
  • Os oes rhywun yn ymaelodi, neu’n ailymaelodi, a’r Gymdeithas mae’n bwysig cadw cofnod o fanylion yr unigolyn - sicrhau fod ffurflen aelodaeth wedi ei llenwi.
  • Cadwch yr arian yn y bocs arian
  • Ar ddiwedd y dydd fe fydd y bocs arian yn cael ei gadw’n ddiogel gan unigolyn sydd wedi ei benodi i’w gasglu.

Arall

  • Unrhyw neges/ ymholiad cofnodwch ar y tudalennau adran (3). Cofnodwch enw ac os yn bosib e-bost neu rif ffôn.
  • Angen rhywbeth - cymerwch olwg ar y rhestrau yn adran (10) efallai ei fod yn y bocsys plastig mawr yn y cefn