Newyddion Brys - [Diweddarwyd - 20/11/26]
- Mae bys Meri Ann wedi brifo
- Tydi Dafydd y gwas ddim yn dda
Hysbysiadau [Diweddarwyd - 20/11/26]
Tâl Aelodaeth: Yn dilyn cyfnod hir o broblemau gyda thaliadau drwy ddebyd uniongyrchol (DU) y mae’r Gymdeithas wedi datrys y problemau technegol. Mae mwyafrif o’r aelodau oedd yn talu drwy DU wedi talu eu haelodaeth am y Flwyddyn 26/27. Fe fydd y taliadau am flwyddyn 24/25 yn cael eu tynnu ar Dachwedd 16 a’r taliad am flwyddyn 25/26 ar Dachwedd 30. Yn anffodus nid yw’r Gymdeithas wedi derbyn tal drwy DU gan nifer o’r aelodau. Gall hyn fod am nifer o resymau; manylion cyswllt yr aelod yn anghywir neu heb eu diweddaru, aelod heb ymateb i e-bost GoCardless i gytuno parhau i dalu drwy DU (efallai bod rhai yn amau mai sgâm oedd yr e-bost), negeseuon wedi mynd i 'sothach' (spam), neu heb ymateb i e-byst a llythyrau’r Ysgrifennydd Aelodaeth am resymau eraill. Rhybudd os na fydd y Gymdeithas wedi derbyn eich tâl aelodaeth erbyn 31 Rhagfyr 2026 fe dynnir eich enw oddi ar y rhestr aelodaeth.
Gŵyl 4 x 4 2027:
Fe gynhelir yr ŵyl yma yn ardal Abertawe rhwng y 10fed a’r 13eg o Fedi 2027
Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas 2027:
Fe gynhelir y Gynhadledd ar Sadwrn 9fed o fis Hydref yn Neuadd Rhydypenna, Bow Street (lleoliad i’w gadarnhau)
