Cefndir
Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn 1978 gan y diweddar Dafydd Davies, Rhandirmwyn, fel cymdeithas i naturiaethwyr Cymru. Y mae yn rhoi cyfleoedd i'r aelodau werthfawrogi, mwynhau a dysgu am y byd o’u cwmpas a hynny drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd (1660 - 1709), naturiaethwr ag ysgolhaig; yn ei gyfnod cyfeiriwyd ato fel "y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop". Yr oedd ganddo ddiddordebau eang ac fe’i adnabyddir hefyd fel botanegydd, ieithydd, daearegydd, a hynafiaethwr. Y mae gweithgareddau’r Gymdeithas yn adlewyrchu diddordebau Edward Llwyd.
Teithiau Maes
Prif weithgaredd y Gymdeithas yw cynnal teithiau cerdded mewn gwahanol ardaloedd o Gymru a thrwy hynny rhoi cyfleoedd i’r aelodau ddod i adnabod eu gwlad yn well. Bydd pob un o'r gweithgareddau dan ofalaeth arweinydd sydd â diddordeb arbennig mewn gwahanol agweddau ar fyd natur a hanes Cymru. Trefnir teithiau mewn tri rhanbarth, Y De a’r Canolbarth, Y Gogledd Ddwyrain a Gwynedd a Môn. Cynhelir teithiau ar y Sadwrn ym mhob rhanbarth, bron gydol y flwyddyn.
Cylchgronau
Cyhoeddir dau gylchgrawn pob chwe mis; y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr. Pwrpas y Cylchlythyr yw meithrin cysylltiad â’r aelodau a rhannu gwybodaeth am y teithiau a gweithgareddau eraill. Cyhoeddir erthyglau mwy swmpus am faterion yn ymwneud â byd natur yn y Naturiaethwr.
Llên Natur
Bas data ar lein yw Llên Natur, datblygiad a noddir gan y Gymdeithas, ceir cyfle i gofnodi pob agwedd o fywyd cefn gwlad a byd natur yn y bas data hwn. Mae gwefan Llên Natur yn agored i bawb ddarllen neu gyfrannu lluniau neu sylwadau am fyd natur yn ei holl agweddau. Cyhoeddir bwletin ar lein bob mis mae yn agored i bawb a gellir cael mynediad uniongyrchol neu trwy’r linc o’r wefan hon.
Tudalen Gweplyfr
Ar dudalen Gweplyfr [‘Facebook’] y Gymdeithas ceir gogwydd mwy cymdeithasol gyda lluniau a straeon am y teithiau diweddaraf - a’r aelodau! Mae’r rhif cod cyswllt ar gael yn y Cylchlythyr.
Safoni enwau a thermau
Mae’r Gymdeithas yn ceisio hybu a lledaenu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym mob agwedd o’r meysydd o ddiddordeb. I’r perwyl hwn sefydlwyd is-bwyllgor enwau a thermau i sicrhau fod geirfa Gymraeg ar gael i drafod enwau creaduriaid a phlanhigion. Cyhoeddwyd ffrwyth gwaith yr is-bwyllgor hwn mewn pedair cyfrol;
Creaduriaid Asgwrn-cefn - 1994
Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn -2003
Gwyfynod, Gloÿnnod Byw a Gweision Neidr - 2009
Ffyngau - 2016
Casglu a chofnodi enwau gwenyn a chacwn fydd y dasg nesaf. Mae’r gwaith yma yn mynd rhagddo drwy gydweithrediad â Chanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, Y Porth Termau a Wicipedia Cymreig.
Gweithgaredd Arall
Cynhelir y Gynhadledd Flynyddol ar benwythnos ym mis Medi. Yn ystod y Gynhadledd trefnir darlithoedd a theithiau maes, yn ogystal â’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Fe fydd y Gymdeithas yn paratoi pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol pob blwyddyn. Ceir yno cyfle i gyflwyno ein gweithgaredd, cyfarfod aelodau, a chodi’r ymwybyddiaeth o’r Gymdeithas ymysg yr Eisteddfodwyr.
Hefyd, yn achlysurol fe drefnir darlithoedd a nosweithiau cymdeithasol.
Rheolaeth a Statws
Rheolir y Gymdeithas gan y Pwyllgor Gwaith sydd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Sefydlwyd nifer is-bwyllgorau ar gyfer gwaith penodol ee ‘enwau a thermau’. Y mae’r Pwyllgor Gwaith yn atebol i’r Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol, sydd yn gyfrifol am ethol swyddogion. Y mae enwau’r prif swyddogion ar gael ar y wefan hon.
Y mae’r Gymdeithas yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1126027.