Gŵyl Cymoedd Morgannwg 12-15 Medi 2025
Yn sgil llwyddiant Gŵyl Y Fenni, 2024, yr ydym yn mentro trefnu gŵyl arall tebyg, sef Gŵyl Y Cymoedd: pedair taith, pedwar diwrnod, ym mlaenau cymoedd Morgannwg. Yn gryno, y gwesty rhagosodedig (default) yw’r Premier Inn, Aberdâr, ond mae Premier Inn a Travelodge hefyd ym Merthyr Tudful os bydd angen. Wrth gwrs rhydd i bawb wneud eu trefniadau eu hunain. Cynhelir pedair taith gerdded gydag arweinwyr lleol.
12 Medi 2025 Aberdâr a Chwm Cynon – Cylchdaith tua 5 milltir yn dechrau ger gorsaf reilffordd Aberdâr. Bydd y daith hon yn canolbwyntio â'r diwydiannau traddodiadol diflanedig y cwm, sef cynhyrchu haearn a chloddio glo, a gweld sut mae natur wedi adennill y tir. Bydd y daith yn croesi’r Ynys Meudwy, ac wrth ddilyn hen dramffyrdd a rheilffyrdd ymweld â chamlas, safleoedd ffowndri a phyllau glo a'u tomennu gwastraff sy nawr yn guddiedig dan dyfiant, gwarchodfa natur Cwmbach a gorffen yng nghanol dref hanesyddol Aberdâr. Dim ond un ddringfa fer gymedrol sydd i gyrraedd llwybr reilffordd Cwmaman i Gwmdâr lle welir golygfeydd gwych dros y cwm.
13 Medi 2025 Merthyr Tudful – Cylchdaith yn dechrau ger Canolfan Soar (Canolfan Cymraeg Merthyr Tudful), yn cynnwys Chapel Row (man geni Joseph Parry), Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa, Traphont Cefn Coed, Hen Dy Cwrdd Cefn Coed (1747), Castell Cyfarthfa, Parc Thomastown (Cylch yr Orsedd) a’r hen Synagog. Llwybrau cadarn a hawdd. 6 milltir.
14 Medi 2025 Penderyn a Sgwd yr Eira – Cylchdaith yn dechrau ger Canolfan Gymunedol Penderyn, ymlaen i gopa Moel Penderyn (371m, dringfa raddol o ychydig dros 100m) , golygfeydd ysblennydd gyda’r Bannau i’r gogledd, Craig y Llyn (600m) a Chwm Nedd i’r de. Ymlaen wedyn i raeadr enwog Sgwd yr Eira. Mae’r daith hon bron i gyd yn y Parc Cenedlaethol, yn cynnwys lonydd a llwybrau cefn gwlad, digon cadarn ar y cyfan ond gall fod yn wlyb mewn mannau ar ôl glaw trwm. Mae’r llwybr i lawr at y rhaeadr yn serth ac angen gofal arbennig, ond mae canllawiau ar gael. Mae’n bosibl amrywio hyd y daith yn ôl y tywydd. 5 – 7 milltir.
15 Medi 2025 Llanwynno a Rhondda Fach - Cylchdaith yn dechrau ger Eglwys Llanwynno a bedd Guto Nyth Bran, disgyn yn raddol ar draws y gweundir i lawr i’r cwm, trwy bentrefi Tylorstown, Stanleytown a Wattstown (‘Y Cwtch’) i Ynyshir cyn dilyn hen Heol Llanwynno yn ôl i’r man cychwyn. Llwybrau cadarn a hawdd ar y cyfan, gydag ychydig o ddringo esmwyth ar y diwedd. 6 milltir.
Dewch am ddiwrnod neu ddau neu fwy. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alan Williams (07989 451348, arw0852@outlook.com), David Roberts (07301 280892), neu John Griffith (hafotypenybryn@hotmail.co.uk)