Skip to content

Gwirfoddoli:Pabell Eisteddfod

Gwirfoddoli yn y Babell Eisteddfod Wrecsam 2025

Diolch am  wirfoddoli ym mhabell y Gymdeithas. Pwrpas y dudalen hon ydi cyflwyno gwybodaeth a ddylai fod o ddefnydd i chi wrth ymgymryd â’r gwaith. Yr ydym yn eich cymell i ddarllen y dudalen hon a’r tudalennau cysylltiedig

Pwrpas y Babell

  • Ystyrir y Babell yn brif ‘ffenest siop’ i’r Gymdeithas Mae yn gyfle i gyflwyno’r Gymdeithas ei hamcanion a’i gweithgareddau i’r cyhoedded a thrwy hynny godi ei phroffil a gobeithio denu aelodau newydd.
  • Man cyfarfod a chymdeithasu i’n haelodau ar faes yr Eisteddfod. Cyfle i dderbyn adborth a chofnodi unrhyw broblemau. Heb anghofio cyfle i ail-ymaelodi.
  • Gwerthu llyfrau a nwyddau sydd yn cyd-fynd a hyrwyddo amcanion y Gymdeithas.

Presenoli

  • Cynhyrchir rota o wirfoddolwyr a cyn yr Eisteddfod. Fe fydd pob gwirfoddolwr yn derbyn ebost gyda côd ‘cyw iâr’ i ganiatáu mynediad i’r maes.
  • Cliciwch ar y ddolen hon i weld y rota; Rota Eisteddfod 2025.
  • Cofiwch gadw at yr amserlen sydd ar y rota ac os yr ydych yn methu bod yn bresennol ar yr amser priodol, rhowch wybod i’r trefnydd cyn gynted â phosib.

Y Babell

  • Wedi cyrraedd y babell mae’n werth cymryd ychydig o amser i gynefino eich hun gyda’r cynnwys a’r offer yn y babell. Mae gwybodaeth o gefndir y posteri yn ddefnyddiol iawn i gynnal sgwrs gydag aelod o’r cyhoedd.
  • Y mae gwybodaeth gyffredinol ar bob agwedd o’r babell ar gael yn ‘Llyfr Du’r Eisteddfod’ Fe fydd ffeil y Llyfr Du ar gael yn y Babell. Mae rhan o’r wybodaeth ynddo ar gael drwy’r dudalen hon.
  • Mae dyletswyddau gwirfoddolwyr wedi eu cofnodi yn Nodiadau i Wirfoddolwyr Cliciwch y ddolen hon i’r  Nodiadau (tudalen 2)
  • Cofiwch ein bod yn gorfod cyd-fynd a rheolau Eisteddfod ynglŷn ag iechyd a diogelwch, oriau agor, defnydd o blastig,  ailgylchu, ayb. 

Gwybodaeth Bellach

  • Cyfarwyddiadau sut i ddefnyddio’r ‘Teclyn Talu’ electronig Cliciwch Sumup (tudalen 3 a 4 )