Skip to content

Gogledd Ddwyrain – Hydref – Gaeaf 2024

Trefnydd: Iwan Roberts, Ffôn 01824 703 906, Symudol 07587044255.

Cychwynnir pob taith am 10.30 y bore, oni nodir yn wahanol. Dim cŵn ar y teithiau ac eithrio cŵn tywys.

Edrychwch at y wefan hon a thudalen Gweplyfr, Cymdeithas Edward Llwyd, am unrhyw newid mewn trefniadau.

Rhaglen mis Rhagfyr

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
7 Rhagfyr 2024Dim Taith    
12 Rhagfyr 2024 (Dydd Iau)Gerddi BodnantCyfle arall i grwydro’r gerddi yn y gaeaf. Fel ym mis Chwefror eleni bydd rhai tocynnau mynediad am ddim (o’r Daily Post) ar gael.Maes parcio’r gerddi ger EglwysbachSH802723Iona Evans 01745860660
14 Rhagfyr 2024Dim Taith    
21 Rhagfyr 2024Dim taith    
28 Rhagfyr 2024Dim Taith    
30 Rhagfyr (Dydd Llun)Planhigion y Flwyddyn NewyddY cyfle blynyddol i nodi a rhestru planhigion gwyllt yn eu blodau, dan ganllawiau y BSBI (llynedd cafwyd hyd i tua 30 rhywogaeth). Taith fer, ychydig o gerdded.Maes parcio traeth Pensarn, Abergele. O’r gylchfan oddiar yr A55, dros y bont a throi i’r ddeSH946787Delyth Williams 01824702196 Iwan Roberts 07587044255
2025Byddaf yn falch o dderbyn eich cynnigion ar gyfer teithiau Ionawr a ChwefrorDymuniadau gorau i bawb dros gyfnod y gwyliau.  Iwan Roberts 07587044255

Fe drefnir Teithiau Maes ychwanegol yn fuan; cadwch olwg ar y wefan hon a thudalen Gweplyfr y Gymdeithas.

_______________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

Rhaglen mis Tachwedd

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 Tach 2024Coedwig NercwysTaith hamddenol trwy goedlannau ag ar draws tiroedd agored. Tua 5mMaes parcio DEHEUOL y goedwig, milltir i’r dwyrain o Eryrys. Maes parcio bychan, rhannwch geir os yn bosib.SJ217577Iwan Roberts 07587044255
9 Tach 2024Mynydd MynyllodRhannu ceir tua’r topiau, cerdded tua’r llyn a phen y foel cyn disgyn yn ôl i ddyffryn Dyfrdwy a dilyn y lon yn ôl i Gynwyd. Tua 6m hamddenol.Maes parcio Ysgol Bro Dyfrdwy, CynwydSJ056413Dafydd a Nerys Horan 07912492695  
13 Tach 2024 (Nos Fercher am 7.30)Darlith Flynyddol Capel y Berthen, LicswmYr Athro Gareth Ffowc Roberts: ‘Rhifau Natur – Natur Rhifau’, taith ar drywydd rhifau o fyd natur. Paned a sgwrs wedyn, £2.00 CROESO I BAWBFestri Capel y Berthen, LicswmSJ168715Goronwy Wynne 01352 780689
16 Tach 2024Dim Taith    
23 Tach 2024Dim Taith    
30 Tach 2024
Cyfarfod am 10.00
Taith y Pererin: Cymal 8. Llangernyw* - Eglwysbach*Er hwylusdod, byddwn yn hepgor rhan gyntaf swyddogol y cymal o Langernyw. Tir agored a choedlannau, tua 5mGer yr ysgol yn Eglwysbach, rhannu ceir i’r man cychwyn.
Cyfarfod am 10.00
SH803702Iona Evans 01745 860660 07960597469

Rhaglen mis Hydref

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
5 Hydref 2024 (am 10.00)Llannefydd a Mynydd y Gaer [Taith Cynhadledd Flynyddol]Prif daith y Gynhadledd. Ar hyd llwybrau’r fro, eitha hamddenol ar y cyfan ond dringfa i gyrraedd copa’r foel tuag at ddiwedd y daith. Tua 5mMaes parcio yng nghanol  pentre LlannefyddSH982706Iwan Roberts 07587044255
5 Hydref 2024 (am 10.30)Llanelwy [Taith Cynhadledd Flynyddol]Taith amgen, fyrrach. O gwmpas mannau diddorol y ddinas ag ychydig ar lan Afon Elwy. 2-3m.Maes parcio Cadeirlan  Llanelwy (tâl)SJ039743Iona Evans 01745 860660 07960 597469
6 Hydref 2024 (bore Sul am 10.00)Afon Clwyd [Taith Cynhadledd Flynyddol]Taith fer ar y gwastad, tua 3m.Llyfrgell RhuddlanSJ024783Iwan Roberts 07587044255
12 Hydref 2024Dim taith    
19 Hydref 2024
[D.S Dyddiad wedi'i newid]
Bryniau Peckforton, Sir GaerHeb ymweld â’r ardal goediog hyfryd yma ers tro. Peth dringo ysgafn yma ag acw, tua 5mCanolfan Grefftau yn Higher Burwardsley. (I’r gogledd o’r A534 tua hanner ffordd rhwng Wrecsam a Nantwich).SJ523565Iwan Roberts 07587044255
26 Hydref 2024 (am 10.15)
[D.S. Dyddiad wedi'i newid]
Llanfair T.H. a Moel UnbenLlwybrau, dolydd a choedlannau, tua’r grug a chopa’r foel. Peth dringo ysgafn, tua 7m. (sylwch ar yr amser cyfarfod – cychwyn YN BRYDLON am 10.30).Maes parcio Llanfair T H ger y bontSH927703Rhys a Sheila Dafis 07946299940 07771761172
Tachwedd/ RhagfyrApêl arferol am gyfraniadau i’r rhaglen.   Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen mis Medi

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
7 Medi 2024Corwen  a Chaer  DrewynDringfa eitha hawdd i gopa’r fryngaer ar ddechre’r daith,   yna ar y gwastad yn bennaf yng nghyffinie’r dre. Tua 5mCilfan ar ochr y ffordd am Gaer (A5104), tua milltir o groesffordd Clawdd Poncen (ffatri fawr Ifor Williams)SJ087453Gwenda Parry Lloyd 01490412389
14 Medi 2024Cilcain a Moel Dywyll (Dim ond os fydd y tywydd yn ffafriol - ffoniwch y noson gynt os oes amheuaeth, i gael cadarnhad)Dringo’n hamddenol ag yn raddol iawn ar lwybr caled a hwylus iawn at y bwlch. Un neu ddau o glipiau byr, ychydig  fwy heriol i gyrraedd y copa. Golygfeydd hyfryd. Tua 6mMaes parcio ‘Golygfa Cilcain’, tua hanner milltir uwchben y pentre. Dilynwch yr arwyddion ‘P’ heibio’r eglwys yng nghanol y pentreSJ171652Iwan Roberts 07587044255
21 Medi 2024Adar ConwyCyfle i wylio adar y glannau wrth i’r tymor mudo brysuro. Llanw ffafriol. Crwydro llwybrau’r warchodfa a galw yn yr amryw guddfannau.Gwarchodfa RSPB Conwy (tâl mynediad os nad yn aelod o’r mudiad). Lluniaeth ar gael yn y bwyty.SH796774Alun Williams 01745730300
28 Medi 2024 (am 10.00, sylwer)Taith y Pererin – Cymal 7: Gwytherin i LangernywDringo ychydig wrth gychwyn o Wytherin, hamddenol iawn wedyn. Tua 6mGer ysgol Llangernyw am 10.00, rhannu ceir i Wytherin.SH875673Iona Evans 01745 860660 ag Eurgain Jones 01745870549

Rhaglen mis Awst

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
3 Awst 2024Dim Taith    
3 Awst 2024 hyd 10 AwstEisteddfod Genedlaethol Pabell y GymdeithasCroeso i bawb gymdeithasu, cael golwg ar ein harddangosfa ac ymaelodi!Maes yr Eisteddfod Pabell 105-106 3gair  nepell o ecoleg.heddwch.bwriadST07518990Ein gwirfoddolwr brwdfrydig
7 Awst 2024 Dydd Mercher (4.00-5.00)Darlith yr Eisteddfod ‘Yr Argyfwng Hinsawdd: mae’n amser deffro’ Maes yr Eisteddfod Pabell y Cymdeithasau 1 Darlithydd Athro Siwan Davies Prifysgol Abertawe
8 Awst 2024 Dydd Iau 10.30 – 2.30Taith Faes yr Eisteddfod Ardal PontypriddYmweld â rhai o safleoedd hanesyddol y dref. Ardaloedd Pwllgwaun a Maesycoed. Taith hamddenol, llwybrau cadarn,, dringo esmwyth. 5milltirAil fynediad i’r Eisteddfod, pont droed pen yr orsaf  i Taff  St. ger Siop B&M Dychwelyd tua 2.30ST072899Alan Williams 07989451348
10 Awst 2024Dim Taith    
14 Awst 2024 (Dydd Mercher)Afonydd Teirw a CheiriogCrwydro glannau Afon Ceiriog ag Afon Teirw, un o’i rhagnentydd. Tro hefyd i Graig y Pandy i gael golygfeydd braf, tua 5m.Maes parcio Canolfan Ceiriog, ar ochr chwith y B 4500 ar ddarn hirsyth o’r ffordd wrth nesu at ganol Glyn CeiriogSJ204379R. Glyn Jones 01492 640227
17 Awst 2024Taith y Pererin, Cymal 6: Llansannan i WytherinDilyn Afon Aled i ddechrau, gan ddringo’n raddol i’r ucheldir sy’n ffurfio rhan o Fynydd Hiraethog. Tua 7mBuarth fferm Dolfadyn, ar gyrion Gwytherin (gyda chaniatad caredig) am 10.00, yna rhannu ceir i LansannanSH878614Eurgain Jones 01745 870549 07785 912114
24 Awst 2024Clocaenog a Phincyn LlysTaith hamddenol gyda pheth dringo ysgafn ar lwybrau agored a thraciau’r goedwig. Tua 6mPentre Clocaenog, tua 4m i’r de-orllewin o Ruthun a thua milltir ar hyd lôn gul o’r B5105 yng Nghlawddnewydd.SJ084543Iwan Roberts 07587 044255
31 Awst 2024Dim Taith    

Rhaglen mis Gorffennaf

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
6 Gorff. 2024Dim TaithTaer apêl gan Iwan am wirfoddolwyr i arwain teithiau neu awgrymiadau am arweinyddion posib - . Hywel Madog   
10 Gorff. 2024 (Dydd Mercher)Cerrig a ChefnbrithTaith hamddenol yn Uwchaled, tua 5m.Capel Jerwsalem, Cerrigydrudion, oddiar yr A5 gyferbyn â’r pentre.SH952485R. Glyn Jones 01492 640227
13 Gorff. 2024Dim TaithTaer apêl gan Iwan am wirfoddolwyr i arwain teithiau neu awgrymiadau am arweinyddion posib - . Hywel Madog  
20 Gorff. 2024Y Gogarth, LlandudnoCodi’n raddol ar ochr orllewinol Y Gogarth, cylchdaith fer ar y copa cyn dychwelyd ar hyd y Ffordd Lâs (Llwybr y Mynaich). Creigiog a sgythrog mewn mannau, tua 5 milltir. Ar ochr y ffordd ym mhen gogleddol traeth Penmorfa (wrth y gyffordd ag Abbey Road) SH771821 Dilys ac Aneurin Phillips
01492650003
27  Gorff. 2024Llannefydd a Moel FodiarTaith yn bennaf ar hyd lonydd tawel yr ardal. Un ddringfa i gopa’r foel i  fwynhau golygfeydd hyfryd. Tua 6 milltir Maes parcio yng nghanol y pentre SH981706 Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen mis Mehefin

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
1 Meh. 2024Llanfair T.H. a GarthewinTaith yn Nyffryn Elwy yn cynnwys golygfeydd braf ag ymweliad â phlasty Garthewin, y gerddi a’r theatr (cysylltiad Saunders Lewis). Gyda chaniatâd caredig y perchennog. Peth dringo yn y bore, tua 4-5 mMaes parcio’r pentre, dros y bont fechan oddi ar yr A548. Toiledau ar gael.SH927702Meirion a Nia Jones 07709687289
6 Meh. 2024 (Dydd Iau am 4.00 y pnawn)Tir y TroellwrCyfarfod yng Nglasdir, Llanrwst. Paned yn Nhu Hwnt i’r Bont, yna mewn ceir i ardal Geirionnydd am daith fin nos o ryw dair awr (dewch a phicnic). Cyfle wedyn, wrth iddi nosi, os dymunwch aros yno, yn y gobaith o glywed y troellwr.Glasdir, LlanrwstSH796617Iona Evans 07960597469
8 Meh. 2024EryrysTaith ar y garreg galch. Ambell ddringfa a thir sgythrog mewn mannau. Tua 5mMaes parcio chwarel Pistyll Gwyn. Hanner ffordd rhwng yr A494 (Rhuthun – Yr Wyddgrug) a Llanarmon yn IâlSJ188574Iwan Roberts 07587044255
11 Meh. 2024 (Dydd Mawrth)GlyndyfrdwyIs-lethrau’r Berwyn at goedwig Nantyr. Hanner cyntaf eitha heriol ond graddol, dringo tua 300m. Golygfeydd hyfryd.Y gilfan tua hanner milltir i’r dwyrain o Lyndyfrdwy ar ymyl yr A5 (ochr ddeheuol)SJ157425R. Glyn Jones 01492 640227
25 Meh. 2024 (Dydd Mawrth)Glannau Sir y FflintTaith linellol rhwng Ffynnongroyw a Gronant Isaf. Ar y gwastad yn bennaf, twyni tywod a chynefinoedd eraill yr arfordir. Rhannu ceir i’r man cychwyn. Tua 6mMaes parcio ar y ffordd sy’n arwain at  Presthaven / Gronant Isaf, oddi ar yr A548, tua milltir i’r dwyrain o BrestatynSJ091837Iwan Roberts 07587044255
29 Meh. 2024Rhydymwyn - natur yn adennill tirTaith o amgylch safle hen ffatri arfau cemegol o’r Ail Ryfel Byd, bellach yn warchodfa natur. Ar y gwastad yn bennaf. Rheolau DEFRA yn golygu fod RHAID cofrestru – enwau i Jo a Menna erbyn y 26ainMaes parcio’r safle ym mhentre Rhydymwyn ger Yr WyddgrugSJ204667Jo a Menna Hughes 01352 754098 jo.arwel@ btinternet.com

Rhagen mis Mai

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
4 Mai 2024Gwanwyn yn Nyffryn ConwyCrwydro’r coedlannau a’r bryniau i’r dwyrain o Lanrwst. Rhai dringfeydd yma ag acw, tua 6mGer y ffatri ar Ffordd Nebo (B5427) o’r dre, gyferbyn â’r fynwent.SH807609Mair Owens 01492640114 ag Eirlys Jones 0149264224
11 Mai 2024 Llanddulas a LlysfaenTaith y dechrau ar lan y môr ag yn dringo’n raddol yn y bore ar ran o Lwybr Arfordir y Gogledd. Tua 6-7mDilyn Ffordd Beach House oddiar yr A547 i’r gorllewin o Landdulas, gyferbyn â throad Rhyd y Foel. O dan yr A55 a’r rheilffordd, maes parcio ar y dde.SH917783Mair Williams 07761621003
18 Mai 2024Godre Bryn Alun a Maeshafn.Taith goedwigol yn bennaf, peth dringo ond eitha hamddenol, tua 6mY gulfan ar yr A494 tua milltir i’r de o Lanferres. (NID yr un mawr ar y gwaelod ond yr un nes at Ruthun ger y tro am Lanarmon)SJ184592Iwan Roberts 07587044255
23 Mai 2024 (Dydd Iau)Erddig, ger Wrecsam.Cyfle i grwydro’r gerddi a rhywfaint o’r stad ehangach, yn dibynnu ar yr amser. Tocynnau mynediad am ddim ar gael ond bydd angen talu am barcio.Prif faes parcio Erddig, ger y plasty a’r gerddi.SJ328482Iona Evans 07960597469

Rhaglen mis Ebrill

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
6 Ebrill 2024LlangwmTaith y nail ochr i Afon Ceirw. Ychydig o ddringo ysgafn i ddechrau. Dewch erbyn tua 10 os hoffech weld tu mewn i’r capel. Tua 6m.Ger Capel Cefn-nannau - tua  milltir i’r gogledd o’r pentre’ oddi ar y lôn fach sy’n rhedeg yn gyfochrog i’r A5SH968456R. Glyn Jones 01492640227
Ebrill 13egDim taith    
Ebrill 20fedBae ColwynPeth dringo ysgafn at Goed Pwllycrochan, disgyn eto i’r dre ag yn ôl ar hyd y traeth. Hamddenol, tua 5mMaes parcio Parc Eirias, oddiar y gylchfan fach, drwy’r giatiau du (ger y stadiwm rygbi)SH856783Bryn a Frances Jones 07714735066
Ebrill 27ainGroes, ger DinbychCoed Shed a godre Foel Gasyth. Ychydig o ddringo yma ag acw, gall fod yn fwdlyd mewn mannau. Tua 5mYn y pentre’, ar ochr yr A543 tua 3m i’r gorllewin o DdinbychSJ007647Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen mis Mawrth

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 Mawrth 2024Dim Taith    
9 Mawrth 2024PwllglasCennin Pedr a blodau eraill y gwanwyn cynnar. Tua 5m hamddenolNeuadd Pwllglas ger RhuthunSJ118548Iwan Roberts 07587044255
16 Mawrth 2024Dim Taith    
23 Mawrth 2024Neston, CilgwriCrwydro rhan o Barc Gwledig Cilgwri. Daeareg diddorol a golygfeydd yn ôl am Gymru. Tua 5m eitha gwastad.Dros y ffin yn Queensferry a throi i’r chwith yn Two Mills. Dilyn yr A540 am tua 3 milltir a hanner a throi i Lees Lane  am ‘Little Neston’. Maes parcio ar y chwith mewn tua 300mSJ306776Ray Humphreys 01244 529915
30 Mawrth 2024Dim TaithTaith wedi ei gohirio am wythnos
6 Ebrill 2024LlangwmTaith y nail ochr i Afon Ceirw. Ychydig o ddringo ysgafn i ddechrau. Dewch erbyn tua 10 os hoffech weld tu mewn i’r capel. Tua 6m.Ger Capel Cefn-nannau - tua  milltir i’r gogledd o’r pentre oddi ar y lôn fach sy’n rhedeg yn gyfochrog i’r A5SH968456R. Glyn Jones 01492 640227
Ebrill / MaiBYDDAF YN FALCH O DDERBYN CYNIGION AM DEITHIAUDIM OND UN SADWRN YN EBRILL WEDI EI LENWI HYD YN HYN (20fed)  MANYLION I IWAN ROBERTS MEWN DA BRYD. iwantrefin@btinternet.com Diolch yn fawr.

Rhaglen mis Chwefror

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
3 Chwef. 2024DIM TAITH    
10 Chwef. 2024Gerddi BodnantMwynhau’r gerddi wrth i’r gaeaf ddirwyn i ben. Mae gan Iona ychydig o docynnau mynediad am ddim i’w rhannu.Ger maes parcio’r caffiSH802723Iona Evans 07960597469
17 Chwef. 2024DinbychTaith hamddenol yn mwynhau y dre a chydig o’r cyrion, Tua 5mMaes parcio y Ganolfan Hamdden ar Ffordd RhuthunSJ062663Erfyl a Carys Williams 01745814832
24 Chwef. 2024Coedwig GwydirTaith o dref Llanrwst i’r goedwig, heibio’r cerfluniau at Caerdroia. Ar draciau’r goedwig, ambell ddringfa, tua 5-6mMaes parcio Glasdir yn y dreSH796617Janet Williams 01492641158 a Mair Williams 01492580723

Rhaglen mis Ionawr

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
6 Ionawr 2024Dim Taith    
13 Ionawr 2024Taith Lobsgows Llanelwy (Enwau erbyn 5 Ion.)Taith fer, yna yn ôl erbyn 1.00 ar gyfer cawl a phwdin (£15 y pen). (Croeso i chwi ddod ar gyfer y bwyd yn unig,)Boderw, oddi ar y gylchfan fawr ger yr A55SJ032747
Iona Evans 07960597469 (Enwau erbyn 5 Ion.)
20 Ionawr 2024Dim Taith    
27 Ionawr 2024Rhydlanfair a SiloamCrwydro’r lonydd a’r llwybrau i’r gogledd o’r A5, i gyfeiriad Moel yr Iwrch. Tua 6m.Y gilfan ar ochr yr A5 rhwng Pentrefoelas a Betws y Coed, ychydig i’r gorllewin o Bont Rhydlanfair (ger y garafan fwyd).SH826524R. Glyn Jones 01492 640227

Rhaglen mis Rhagfyr

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 Rhagfyr 2023 (am 10.00)Llanrwst.Ar y cyd â Menter Iaith. 10.00: ymgynnull yn yr eglwys (oddi ar y sgwâr) am baned, yna taith o gwmpas y dre yng nghwmni dysgwyr. Ar ôl cinio: taith bnawn, fer i gyfeiriad Melin y CoedParcio yng Nglasdir (am ddim) (am 10.00)SH796617Iona Evans 07960597469 a Mair Owens 07402057763
9 Rhagfyr 2023Coedwig ClocaenogTaith gysgodol, eitha gwastad ar hyd lonydd y goedwig yn bennaf. Tua 5m.Maes parcio ger fferm Nilig, tua 3m i’r de-orllewin o Gyffylliog.SJ025547Iwan Roberts 07587044255
16 Rhagfyr 2023Dim taith    
23 Rhagfyr 2023Dim taithNadolig Llawen   
30 Rhagfyr 2023Mochdre – Planhigion yn eu BlodauYr arolwg blynyddol i gofnodi planhigion gwyllt sydd yn eu blodau ar ddechrau blwyddyn, dan ganllawiau'r BSBI. Eleni mae’r cyfnod yn rhedeg o’r 30/12/23 i 2/1/24 (dim llawer o gerdded)Ar ochr y lôn tu allan i’r Mountain View ym MochdreSH826785Delyth Williams
13 Ionawr 2024Taith Lobsgows 2024: Llanelwy (Enwau ernyn 5 Ion.)Taith fer, yna yn ôl erbyn 1.00 ar gyfer cawl a phwdin (£15 y pen). Enwau i Iona erbyn Ionawr 5ed. (Croeso i chwi ddod ar gyfer y bwyd yn unig, os dymunwch)Boderw, oddi ar y gylchfan fawr ger yr A55SJ032747Iona Evans 07960597469 (Enwau erbyn 5 Ion.)

Rhaglen mis Tachwedd

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
      
8 Tach. 2023 (Nos Fercher am 7.30)Darlith Flynyddol Capel y Berthen, LicswmDr. Iwan Edgar, Pwllheli ‘Enwau Planhigion’ Mynediad £2 CROESO I BAWBYsgoldy Capel y Berthen, LicswmSJ168714Trefnydd: Goronwy Wynne 01352780689
11 Tach. 2023DiserthTaith ar ochr ogleddol y pentre, yr hen linell rheilffordd a’r Graig Fawr. Tua 5mGer y Clwb Bowlio, Rhodfa Thomas, DiserthSJ058789Erfyl a Carys Williams 01745814832
18 Tach. 2023Rowen Cylchdaith yn ardal Rowen a Thy’n y Groes, Dyffryn Conwy. Lonydd cefn a llwybrau, ambell gamfa a dwy allt fer. Tua 5mAr ochr y ffordd ar gyrion RowenSH761719Dilys Pillips 01492650003
21 Tach. 2023 (Dydd Mawrth am 10.00) *Canslo*Taith y Pererin: Cymal 6 Llansannan i Wytherin
*Canslo*
Coedlannau a mynydd-dir, gall fod yn wlyb mewn mannau. Peth dringo, 7m
Taith y Pererin 26 Tachwedd - Canslo oherwydd amgylchiadau hynod o wlyb dan draed.
Buarth fferm Dôl-fadyn ar gyrion Gwytherin. Rhannu ceir i LansannanSH878614Eurgain Jones 01745870549
*Canslo*
25 Tach. 2023LlanferresTaith ar is-lethrau Bryniau Clwyd. Dringfa serth wrth gychwyn o’r pentre ond rhesymol wedyn. Tua 5mGer yr eglwys yn LlanferresSJ188605Jo a Menna Hughes 01352754098

Rhaglen mis Hydref

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
7 Hydref 2023Pentre-llyn Cymmer a Chaer Ddunod (goh. 22ain Gorff.)Cylchdaith ar lwybrau llonydd, tir agored a choedwigaeth. Ychydig o ddringo ysgafn, tua 6m.Canolfan Llyn Brenig. £3.00 i barcioSH967546Dafydd Williams 01745813065
17 Hydref 2023 (Dydd Mawrth am 10.00)Llwybr y Pererin. Cymal 5: Llannefydd i LansannanAr lwybrau a lonydd dymunol, eitha gwastad ar y cyfan. Tua 5mCanol Llansannan – rhannu ceir i’r man cychwynSH934658Iona Evans 01745860660 ag Iwan Roberts 07587044255
20 Hydref 2023Y Gynhadledd Flynyddol.Gwesty’r Diplomat, Llanelli   
28 Hydref 2023Coedlannau ChwitffordCrwydro ardal goediog uwchben Afon Dyfrdwy. Tua 5mYng nghanol y pentre, ger yr eglwysSJ146782Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen mis Medi

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
29 Awst 2023 (Dydd Mawrth)Nebo, ger LlanrwstTaith hamddenol, mynydd-dir a lonydd tawel. Golygfeydd braf.Tua 1/2milltir i’r gog-orllewin o Nebo ar gyffordd y B5113 a’r B5427SH831569R. Glyn Jones 01492 640227
2 Medi 2023Crwydro’r Wybrnant (Cyfyngu i 25 – ar y cyd gyda Gwynedd a Môn)Ymweld â ffermdai hanesyddol yr ardal. Llwybrau coedwigaeth a ffyrdd tawel, un disgyniad serth, gall fod yn llithrig. Tua 5mMaes parcio’r Ymdd. Genedlaethol ger Tŷ Mawr - am ddim, toiledau ar gael. Teithiwch drwy Benmachno, NID o Fetws y CoedSH771524Eryl Owain 01690 760353. Cofrestru gyda John Griffith 0743631210
9 Medi 2023Ardal Gregynnog, Sir DrefaldwynGweler rhaglen y De a’r Canolbarth am fanylion.  SO084973 
12 Medi 2023 (Dydd Mawrth am 10.00)Taith y Pererin: Cymal 4 – Llanelwy i LannefyddAil-ddechre’r gyfres ar ôl gohirio yn 2020. Rhan gyntaf y daith ar hyd lonydd, tua 6m.Ger neuadd bentre’ Llannefydd, (am 10.00 yn brydlon) rhannu ceir i’r man cychwyn (tâl am barcio)SH982706Iona Evans 01745 860660 a Mair Owens
16 Medi 2023Llanbedr a Godrau Bryniau ClwydTaith yng nghysgod Moel Famau. Coedwig, llwybrau tawel a golygfeydd. Ychydig o ddringo yn y bore. Tua 5m.Ger Clwb Rygbi Rhuthun, Lôn Fawr oddi ar Ffordd Cerrigydrudion. Rhannu ceir i’r man cychwynSJ117577Iwan Roberts 07587044255
23 Medi 2023Ardal Edward LlwydCrwydro’r ardal i’r gorllewin o Groesoswallt, i gyfeiriad Llanforda lle magwyd Llwyd. Tua 5m hamddenolMaes parcio Capel Seion yn y dref (Park Ave, Croesoswallt)SJ286296Melinda Price 01690 662954 07484 100911
30 Medi 2023Llantysilio a’r VivodTaith yn Nyffryn Dyfrdwy, i’r gorllewin o Langollen. Un ddringfa ysgafn, tua 5mGer Gwesty’r Chain BridgeSJ198433R. Glyn Jones 01492 640227

Rhaglen mis Gorffennaf

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
1 Gorff 2023Y Bala a LlanycilCyfle i ddarganfod mannau diddorol yn y dref cyn anaelu at ardal Llanycil. Tua 5mCanolfan Gorwelion, ar gyrion y dref ochr draw i’r bont, Ar hyd lôn oddiar yr A494 am Gorwen,SH928365Ellis Davies 07769717374
8 Gorff 2023Comin Treffynnon a BrynfforddTaith amrywiol yn yr ardal i’r de o’r dref. Peth dringo ysgafn ar ddechrau’r daith, tua 6mY gilfan oddiar yr A5026 (hen ffordd) tua milltir i’r de ddwyrain o Dreffynnon, ger DolphinSJ198739Jo a Menna Hughes 01352754098
15 Gorff 2023Eryrys a Bryn AlunTaith ar y garreg galch, llwybrau a ffyrdd tawel, peth dringo, tua 5m.Maes parcio chwarel Pistyll Gwyn tua hanner ffordd rhwng yr A494 (Rhuthun – Yr Wyddgrug) a Llanarmon yn IâlSJ188573Iwan Roberts 07587044255
22 Gorff. 2023
Canslo
Pentre-llyn cymmer a Chaer Ddunod
Taith wedi ei chanslo oherwydd rhagolygon y tywydd 
Cylchdaith ar hyd llwybrau a lonydd, tir agored a choedwigaeth, Ychydig o elltydd ysgafn, tua 6m.Maes parcio Canolfan Llyn Brenig. £3SH967546Dafydd Williams 01745 813065
29 Gorff. 2023Gwytherin ag Afon CledwenCylchdaith i ben draw y cwm, hebio Carreg y Cawr, dringfa fer i’r mynydd cyn dychwelyd heibio Bryn Clochydd. Tua 5m.Buarth fferm Dôl-fadyn ar gyrion y pentre (gyda chaniatâd caredig).SH878614Eurgain Jones 01745 870549 07785 912114

Rhaglen mis Mehefin

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
3 Meh. 2023CilcainTaith amrywiol yn dilyn lonydd a llwybrau tawel. Er yn cychwyn o’r un man â thaith y llynedd mae hi’n daith hollol wahanol. Tua 5mDim parcio yn y pentre – dilynwch yr arwydd ‘P’ o’r eglwys i’r man parcio hanner milltir uwchben y pentre.SJ170652Iwan Roberts 07587044255
5 Meh. 2023 (Dydd Llun)Llanfyllin.Golwg o gwmpas y dref a chrwydro’r wlad gerllaw ar lannau Afon Cain. Tua 5mMaes Parcio ‘Y Dolydd’ (yr hen Wyrcws), hanner milltir i’r de-ddwyrain o’r dre ar yr A490SJ150186R. Glyn Jones 01492 640227
10 Meh. 2023 (am 2.00)LlangernywTaith brynhawn, yna i Lanrwst erbyn 6.30 i gael swper sglodion (10 lle wedi ei archebu yn Nhir a Môr – rhaid rhoi enwau i Iona erbyn Mehefin 3ydd). Cyfle wedyn, os dymunwch, i fynd, mewn ceir i ardal Llyn Geirionydd i geisio clywed y troellwr.Maes parcio’r ysgol yn LlangernywSH875674Iona Evans 01745 860660 07960597469
15 Meh. 2023 (Dydd Iau am 2.00)Llaeth y Llan – Te yn yr ArddCyfle i ymlacio a chrwydro’r ardd. Paned a chacen am £6.00 – enwau i Iona erbyn Meh 12fed. Taith fer i ddilynLlaeth y Llan, Cefn Berain ger LlannefyddSH998707Iona Evans 01745 860660 07960597469
17 Meh. 2023Cyffordd LlandudnoCrwydro tair gwarchodfa yn yr ardal i fwynhau planhigion, glöynnod a thirwedd yr ardal. Tua 4mMaes parcio Coed Cadw ar y lôn gefn oddiar yr A470 I’r gogledd o Gyffordd Llandudno, ger EsgyrynSH800786Dilys ag Aneurin Phillips 01492 650003
21 Meh. 2023 (nos Fercher am 6.00)Hirddydd Hâf ar Fynydd HiraethogTaith fer, tua 3m. Cronfa Alwen ag ardal Hafod Elwy. Dewch a phicnic gyda chi – gobeithio am noson braf.Ychydig ar hyd y lôn am Ryd y Bedd a Llansannan o’r A543 ger pen gogleddol Cronfa AlwenSH926568Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen Mis Mai

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
6 Mai 2023Plwy’ Llanynys a Dwy AfonTaith ar lawr Dyffryn Clwyd, ar y gwastad yn gyfangwbl. Dwy afon a lonydd tawel, tua 5mGer Ysgol Y Rhewl (wedi cau) ger Rhuthun.SJ109604Erfyl a Carys Williams 01745 814832
13 Mai 2023Nant yr EiraTaith yn seiliedig ar y cwm a anfarwolir yn y gerdd gan Iorwerth Peate. Cawn gwmni Beryl Vaughan. Peth dringo ysgafn, tua 5m.Capel Biwla, Neinthirion. Dilynwch y lôn wledig i’r de-orllewin o Lanerfyl am oddetu 6m neu’r un tua’r gogledd o Dalerddig ar yr A470.SH964066Bernard Gillespie
01588 620668
20 Mai 2023Graigfechan a’r Graig WylltGwanwyn yn Nyffryn Clwyd. Coedlan hyfryd, llwybrau a lonydd tawel. Ychydig o ddringo ysgafn, tua 6mMaes Carafannau Llanbenwch, ar ochr yr A525 rhwng Llanfair DC a LlysfasiSJ141535Iwan Roberts 07587044255
27 Mai 2023Dim taith    

Rhaglen y Goledd Ddwyrain - Ebrill 2023

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
1 Ebrill 2023Llanasa a GwaenysgorLlwybrau a ffyrdd tawel, coedlannau a safleoedd hanesyddol. Tua 6mMaes parcio ger yr eglwys ym mhentre Llanasa ger PrestatynSJ106815Jo a Menna Hughes 01352 754098
 8 Ebrill 2023Dim taith    
15 Ebrill 2023Sychdyn a GwysaneCoedlannau, lonydd a llwybre tawel. Tua 6m ar y gwastad yn .bennafTafarn/bwyty Glasfryn ger Theatr Clwyd, Yr WyddgrugSJ239652Iwan Roberts 07587044255
22 Ebrill 2023 (am 10.00)Craig yr Iyrchen a Chefnbrith Llwybrau’r goedwig, lonydd tawel a ffriddoedd. Peth dringo ysgafn at y Graig, gwlyb mewn mannau. Tua 6m. Maes parcio Cronfa’r Alwen (£2.50). Nodwch yr amser cyfarfod cynharach nag arfer. SH956529 Dafydd Williams 01745813065
29 Ebrill 2023Coed y Felin a Melin y CoedGwanwyn yn Nyffryn Conwy. Dringo’n raddol  yn y bore (dim byd rhy heriol). Golygfeydd hyfryd o’r dyffryn, 6-7m.Maes parcio Glasdir ger yr afon yn Llanrwst.SH796617Mair Owens 01492 640114 ag Eirlys Jones

Rhaglen Y Gogledd Ddwyrain - Mawrth 2023

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
4 Mawrth 2023Y GogarthCyfle i grwydro’r tirwedd rhyfeddol yma. Llwybrau caled a phorfa, peth dringo yma ag acw. Tua 6mOchr y ffordd ym mhen gogleddol traeth Penmorfa, ger y gyffordd ag Abbey Rd.SH771821Dilys ag Aneurin Phillips 01492650003
11 MawrthDim taith    
18 Mawrth 2023Prion a’r cyffiniauTaith hamddenol yn nyffryn Nant Mawr, coedlannau a llwybrau tawel. Tua 5mGer Ysgol Pantpastynog, PrionSJ046618Philip Williams 01745809466
25 Mawrth 2023Dyffryn Ceiriog a’r TopieRhannu ceir o Lyn Ceiriog i’r gefnen uwchben Llangollen. Cerdded yn ôl i’r pentre ar hyd lonydd a llwybrau tawel. Tua 5m.Maes parcio Canolfan Ceiriog, Glyn CeiriogSJ204379R. Glyn Jones 01492640227

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Chwefror 2023

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
4 Chwef 2023Rhewl, ger RhuthunDilyn Afon Clywedog ar hyd Llwybr yr Arglwyddes i bentre Bontuchel. Tua 5mGer yr ysgol (wedi cau) – troi am Lanynys oddiar yr A525 yn Rhewl, neu parcio yn gyfrifol mewn mannau eraill yn y pentre.SJ108605Erfyl a Carys Williams 01745 814832
8 Chwef 2023 (dydd Mercher)Adar ConwyAdarydda yng ngwarchodfa yr RSPB. Diwrnod addas o ran y llanw. Dim llawer o gerdded. Tâl mynediad os nad yn aelod o’r RSPB.Maes parcio’r warchodfa, oddiar y gyffordd ar yr A55SH796774Alun Williams 01745 730300
11 Chwef 2023Dim taith    
18 Chwef 2023DinmaelTaith hamddenol ar lannau Afon Ceirw, Rhyfel y Degwm ag hanesion eraill. Tua 5m.Ger yr hen ysgol yn Ninmael, oddiar yr A5 rhwng Corwen a CherrigydrudionSJ003446R. Glyn Jones 01492 640227
25 Chwef 2023Rhewl, ger LlangollenOes golwg or gwanwyn y Nyffryn Dyfrdwy? Peth dringo graddol yn y bore, tua 5m.Tafarn ‘Y Sun’ yn Rhewl, ar y lôn gefn i’r gogledd o’r afon rhwng Corwen a Llangollen. Rhannwch geir os yn bosib – maes parcio bychan sydd I’r dafarn.SJ178447Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Ionawr 2023

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
3 Ion. 2023 (Dydd Mawrth)Llanrwst – nodi’r blodau (Ar y cyd a G&M)Yn dilyn yr arbrawf y llynnedd o nodi planhigion gwyllt yn eu blodau ar ddechrau’r flwyddyn. Mwy ffurfiol y tro hwn, yn dilyn canllawiau y BSBI.Maes parcio Glasdir ger yr afon yng nghanol y dre.SH796617Delyth Williams 01824702196
7 Ion. 2023Taith ‘Lobsgows’ 2023 – Llanfair TalhaiarnTaith fer am 10.30, neu groeso i ddod am luniaeth yn unig yn y Llew Du erbyn 12.30. Lobsgows a phwdin £12 y pen. Enwau i Iona erbyn Ionawr 4ydd.Maes parcio’r pentre neu’r Llew Du os yn dod am fwyd yn unig (yr ochr arall i’r bont o’r A548 i’r pentre)SH927703Iona Evans 01745860660
14 Ion. 2023Dim Taith    
21 Ion. 2023TremeirchionLlwybrau a ffyrdd tawel yn ardal Cefn Du, ymysg yr isaf o Fryniau Clwyd. Peth dringo yma ag acw. Tua 5m.Ger yr eglwys yn y pentreSJ083731Iwan Roberts 07587044255
28 Ion. 2023Dim Taith    

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Rhagfyr(Ionawr) 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
3 RhagfyrLlandrillo, ger CorwenDilyn y llwybr ar y gwastad i Hendwr, yna croesi’r ffordd a dringo’n raddol at Foel Ty Uchaf. Dychwelyd ar ffordd y porthmyn. Tua 5mMaes parcio’r Wern yng nghanol y pentre ger y bont.SJ035372R. Glyn Jones 01492640227
10 RhagfyrTaith yn ardal RhuthunPen agored, yn dibynnu ar y tywydd ayyb, 4-5mGer y Clwb Rygbi, ar Lôn Fawr, oddiar Ffordd Cerrigydrudion o’r dreSJ118578Iwan Roberts 07587044255
17 RhagfyrY RhylTaith yn rhannol ar lan y môr, yn gyfan gwbl ar y gwastad. Tua 5mYng nghyffiniau Ysbyty’r Alex ar y prom. Peiriannau talu parcio ar y prom ond mae strydoedd cefn yn yr ardal hefyd. Ymgynnull o flaen yr ysbyty.SJ015822Iona Evans 01745 860660 a Mair Owens 01492640114

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Tachwedd 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
3 Tach.
(nos Iau am 7.30)
Darlith Flynyddol Capel Y Berthen“Be’n hollol ddeudodd Darwin?” gan Goronwy Wynne
Mynediad £2
Ysgoldy Capel y Berthen, Licswm ger TreffynnonSJ168714Trefnydd: Goronwy Wynne 01352780689
5 Tach.CarrogTaith ar lannau Afon Dyfrdwy, hanes Glyndŵr a choedlannau hydrefol.
Tua 5m
Maes parcio tafarn Y Grouse, Carrog ger Corwen.SJ115437R. Glyn Jones 01492640227 Anne Ellis 01978862989
12 Tach.CyffylliogAfon Clywedog, dyffrynnoedd coediog a chylchu Foel Ganol. Peth dringo ysgafn yn y bore. Tua 5m.Ger yr hen ysgol yn y pentre’.SJ060578Erfyl a Carys Williams 01745814832
19 Tach.LlansannanDyffryn Aled, Brynrhydyrarian a Bwrdd Arthur. Gall fod yn wlyb mewn mannau, ond mae posib addasu.
Tua 6m.
Y maes parcio yng nghanol Llansannan.SH934658Eurgain Jones 01745870549 07785912114
26 Tach.Mochdre ger Bae ColwynTaith hamddenol, gyda pheth dringo ysgafn.
Tua 4m.
Maes parcio tafarn y Mountain View ym MochdreSH826784Dilys Gwilym 01492641185 07769906621 Gwenan Jones a Bethan Evans

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Hydref 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
1 HydrefRhyd y Bedd a Glannau Afon AledTaith ar gyrion Mynydd Hiraethog, i’r de o Lansannan. Tua 6mPen gogleddol Llyn Aled Isaf. PWYSIG: nid yw’n bosib cyrraedd y man cyfarfod o ganol Llansannan ar hyn o bryd oherwydd gwaith cynnal a chadw.SH915598Eurgain Jones 01745 870549 07785912114
8 HydrefBae ColwynGlan y môr yn yr hydref, ar y gwastad yn bennaf. Tua 5mParc Eirias. Troi oddiar yr A547 ar y gylchfan fechan yn mhen dwyreiniol y dref.SH856784Iona Evans 01745 860660 a Mair Owens 01492 640114
15 HydrefLlanelidan a Chefn y WernCoedlannau, a lonydd tawel. Peth dringo ysgafn yn y bryniau. Tua 5mGer yr eglwys ym mhentre Llanelidan ger RhuthunSJ109505Iwan Roberts 07587044255
22 HydrefCoed y Cra a Nant y FflintTaith goedwigol, hydrefol uwchben aber Afon Dyfrdwy. Tua 6mMaes parcio tafarn y Britannia, Helygain, oddiar yr A55SJ212712Jo a Menna Hughes 01352 754098
28-30 Hydref Y Gynhadledd FlynyddolManylion taith Dydd Sadwrn yn rhaglen Gwynedd a Môn. Gwybodaeth arall am y gynhadledd gan y trefnydd.Gwesty’r Celt, Caernarfon Elizabeth Roberts 01492 640591

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Medi 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
Medi 3yddSarnau a Llyn Caer EuniTaith amrywiol, golygfeydd, coedlannau a llyn yn y mynydd. Peth dringo yma ag acw, tua 6m.Ym mhentre’r Sarnau, ar yr A494 rhwng Corwen a’r BalaSH972394Gwenda Lloyd 01490 412389
Medi 10fedCyrion Mynydd HelygainTaith ar lethrau dwyreiniol y mynydd. Rhan o lwybr Clawdd Wat, golygfeydd o aber Afon Dyfrdwy, hanes a daeareg. Tua 7mGer Pen yr hwylfa, ar y lôn wledig rhwng Brynford a Phentre Helygain.SJ191734Ray Humphreys 01244 529915
Medi 17egLlandegla a Llyn CyfynwyRhan o Lwybr Clawdd Offa, plasty Bod Idris a llyn yn y mynydd. Tua 6m hamddenol, peth dringo ysgafn at y llyn.Yng nghanol Llandegla, maes parcio  ger yr eglwys.SJ196523Jo a Menna Hughes 01352 754098
Medi 24ainCoedwig ClocaenogRhan o ochr ddwyreiniol y goedwig ger Derwen. Lonydd tawel a thraciau, tua 5m.Maes parcio Boncyn Foel Bach, ar y B5105 tua 2 filltir i’r gorllewin o GlawddnewyddSJ055519Iwan Roberts 07587044255

Rhaglen Mis Awst - Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf.GridArweinydd
30 Gorff.Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, TregaronPabell y Gymdeithas ar y Maes
30 Gorffennaf – 6_Awst
Maes yr Eisteddfod. Pabell Cymdeithas Edward Llwyd (Pabell 219-220)SN680605 
3 Awst
(11.00-12.00)
Lansiad Llyfrau 'Edward Lhwyd' a 'Parchedig yr Adar'    Lansiad llyfr Brynley Roberts ar Edward Llwyd (Cyfres Gwyddonwyr Cymru) ac i ddilyn lansiad llyfr Harri Williams –Parchedig yr Adar (Cymdeithas Edward Llwyd)Maes yr Eisteddfod. Pabell Prifysgol Aberystwyth 11.00 tan 12.00SN680605Gareth Ffowc Roberts, Goronwy Wynne, Twm Elias, ac eraill.
4 Awst
(10.15)
Taith Faes yr Eisteddfod 'Rhwng Aeron a Theifi'  Taith linellol tua 6 milltir, heibio olion hen gartref y llenor Kitchener Davies. Dringo i eglwys Llanbadarn Odwyn (golygfeydd arbennig) ac yn ôl i Langeitho heibio cof golofn Daniel Rowlands. Mae mwy o fanylion y daith ar dudalen 56 y llyfr Fan Hyn a Fan 'Co.Bydd bws (wedi ei logi gan y Gymdeithas) yn gadael y cylchdro ym mhentref Llangeitho  am 10.15 y bore i fynd a phawb yn ôl i gyrion Tregaron. Cerdded yn ôl i Langeitho. Mae maes parcio bach yn Llangeitho ond mae'n bosib parcio ar rhai o heolydd y pentref. SY256TNSN619597Anne Gwynne
4 Awst
(3.30)
Darlith yr Eisteddfod
'Gweithgareddau Canolfan Natur Ddyfi'
Bydd Alwyn Ifans  Swyddog Project Gweilch y Ddyfi yn darlithio am ei waith yn y Ganolfan a datblygiad rhaglen gwarchod y Gweilch.Maes yr Eisteddfod Pabell ‘Y Sffêr’ (Pentre Gwyddoniaeth) 3.30 – 4.15 y.p.SN680605Darlithydd
Alwyn Ifans,
Swyddog Project, Canolfan Gweilch Bro Ddyfi.

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Gorffennaf 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 Gorff.Cyrion y Gogarth ag Oriel MostynIs-lethrau’r Gogarth, Pen Dinas ag i lawr i’r promenâd. Galw yn yr Oriel i weld arddangosfa ‘Cwrdd â mi wrth yr Afon’ cyn dychwelyd at y man cychwyn. Tua 4m.Parcio am ddim ar West Parade ger y traeth gorllewinol ag ymgynnull ger y caffi.SH773815Iona Evans 01745 860660 a Mair Owens 01492 640114
5 Gorff. (dydd Mawrth)CwmpenannerTro hamddenol yn y cwm deniadol, tua 5m.Y groesffordd uwchben y cwm. Dilyn y lôn wledig i’r de o Lasfryn am ryw 2 filltir neu’r un i’r gorllewin o Gerrigydrudion am ryw 3 milltir.SH918480R. Glyn Jones 01492 640227
9 Gorff.Twyni GronantTwyni tywod a chynefinoedd eraill glan y môr. Tua 5mTroi oddi ar yr A548 ger Gronant am barc gwyliau Presthaven - maes parcio mewn 300m ar y chwithSJ091837Iwan Roberts 07587044255  
16 Gorff.Llandderfel ger   Y BalaRhan o Lwybr Tegid, dau lyn ag ymylon dwy goedlan. Peth dringo i gael golygfeydd o Ddyffryn Dyfrdwy. Tua 5mParciwch yn gyfrifol yn y pentre’ ag ymgynnull ger y neuadd.SH983371Rhian Haf Jones 01978 351593 a Gwenda Lloyd 01490 412389
20 Gorff. (nos Fercher am 5.30)LlannefyddTaith fin nos – y tro hwn am Fynydd y Gaer, peth dringo. Dewch a phicnic i’w gael ar y copa os fydd hi’n noson braf.Maes parcio yng nghanol y pentre’SH982706Iwan Roberts 07587044255
23 Gorff.Maes y GrugAr drywydd hafan dawel mewn ardal boblog o Sir y Fflint. Tua 5m.Ger Ysgol Uwchradd Argoed, Bryn y Baal ger Mynydd Isa.SJ263647Iwan Roberts 07587044255  



Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Mehefin 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
4 Meh.Pwllglas a ChraigadwywyntNi chafwyd y daith ganol wythnos ar Fai 11eg oherwydd y tywydd, dyma gynnig eto felly. Hamddenol, sgythrog mewn mannau, tua 5mNeuadd Pwllglas ger RhuthunSJ118548Iwan Roberts 07587044255 01824703906
7 Meh (Nos Fawrth am 5.00)Ar drywydd y troellwr mawr (tywydd gwell na’r llynedd, gobeithio)Taith fer ar gyrion Llanrwst i ddechre, swper sglods i ddilyn, yna, wrth iddi nosi mynd mewn ceir i’r goedwig gan obeithio clywed (a gweld?) y deryn rhyfeddol.Glasdir, LlanrwstSH796617Iona Evans 01745860660
11 MehDim taith    
18 MehLlanelian yn RhosTaith hamddenol, lonydd a llwybrau tawel, dim llawer o ddringo, tua 6mMaes parcio ar y dde wrth gyrraedd y pentre’ o Hen GolwynSH863763Mair Owens 01492640114 Iona Evans 01745860660
21 Meh (Dydd Mawrth)Llanarmon Dyffryn CeiriogTaith hirddydd haf ar lannau Afon Ceiriog, eitha’ gwastad, tua 5m.Wrth yr eglwys yn y pentreSJ157328R. Glyn Jones 01492640227
25 MehCaerwysTaith yn yr ardal i’r de o’r dref, Llyn Ysgeifiog a gwarchodfa’r Ddôl Uchaf, Tua 5m hamddenol, peth dringo ysgafn.Wrth yr eglwys yng NghaerwysSJ127728Erfyl a Carys Williams 01745814832

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Mai 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
Mai 7fedLlansilin, MaldwynTaith ar lonydd a llwybrau i’r de-orllewin* o’r pentre’ . Afon Cynllaith, Llyn Briw ag ambell fryncyn. Tua 6m. (*Nid yw ymweliad â Sycharth yn rhan o’r daith hon)Maes parcio yng nghanol y pentre’SJ209279Ray Humphreys 01244529915
Mai 11eg
(dydd Mercher)
Pwllglas a ChraigadwywyntGwanwyn y garreg galch. Rhai llwybrau ‘sgythrog, tua 4mNeuadd Pwllglas ger RhuthunSJ118548Iwan Roberts 07587044255 01824703906
Mai 14egO Ddyffryn Machno i Gwm EiddaGwanwyn mewn amryw gynefinoedd, adar a blodau’r tymor. Llwybrau garw a gwlyb mewn mannau. 9km / 6m.Ger hen felin Penmachno, tua hanner milltir o’r A5 am Benmachno ar y B4406. Rhannwch geir os yn bosib.SH806527Dafydd ag Alwena Williams 01745813065
Mai 21ainCoed Talon a Waun y LlynAmryw gynefinoedd a golygfeydd hyfryd. Peth dringo ysgafn yn y bore. Tua 5mGyferbyn â thafarn y Railway yng Nghoed Talon ger Yr Wyddgrug (A5104)SJ268588Gwenda Lloyd 01490 412389 a Rhian Haf Jones 01978351593
Mai 28ainCilcainLlethrau Bryniau Clwyd, Afon Alun, coedlannau a’r garreg galch. Peth dringo yn y bore ag ar y diwedd. Tua 6mDim parcio yn y pentre’ - dilynwch yr arwyddion ‘P’ heibio’r eglwys i’r mannau parcio tua ½ m uwch y pentre’SJ170652Iwan Roberts 07587044255 01824703906

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Ebrill 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
2 EbrillPentrefoelasAm yr Hen Foelas gyntaf, yna’n ôl i groesi’r A5 ag anelu am ardal Bryn Prys a Phlas Iolyn. Tua 5m.Maes parcio oddi ar Ffordd Nebo (ochr ogleddol y pentre’)SH872516R. Glyn Jones 01492640227
5 Ebrill (Dydd Mawrth)ConwyTaith hamddenol drwy Goed Bodlondeb ag ar lan y môr. Tua 4m.Maes parcio Swyddfeydd y Cyngor, Bodlondeb (dim tâl am barcio yn yr wythnos)SH778779Mair Owens 07042057763 a Iona Evans  01745860660
9 Ebrill 9fedLlandyrnog a LlangwyfanAr lethrau Bryniau Clwyd, peth dringo yn y bore. Llwybrau cadarn a lonydd tawel. Tua 6mY gulfan ger croesffordd yr hen ysbyty, LlangwyfanSJ122658Jo a Menna Hughes 01352754098
16 EbrillEglwysbachLlynnoedd, coedlannau, llwybrau a golygfeydd. Peth dringo ysgafn yma ag acw. 5-6m.Ger yr ysgol ym mhen deheuol y pentre’SH804702Dilys ag Aneurin Phillips 01492650003
23 EbrillCoedlannau LlanfairTaith hamddenol ar lonydd a llwybrau tawel. Blodau’r gwanwyn ar y garreg galch. Tua 5m.Maes carafanau Llanbenwch, ar ochr yr A525 rhwng Llanfair DC a Llysfasi, ger RhuthunSJ141536Iwan Roberts 07587044255 01824703903
30 EbrillDim wedi ei drefnu etoYchwanegir unrhyw gynnig i’r rhaglen hon   
Mai Cynigion i mi erbyn Ebrill 22ain, os gwelwch yn dda  Iwan Roberts

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Mawrth 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
5 MawrthAdar y Parlwr Du a’r Glannau (gohirwyd. 19/2/22)Astudio adar y gaeaf a dechrau’r cyfnod mudo. Penllanw addas ar gyfer diwrnod da o adarydda.Maes parcio’r cyngor yn Nhalacre, angen talu, efallaiSJ124847Alun Williams 01745 730300
12 MawrthBryn Golau a Llyn YsgeifiogGodre Bryniau Clwyd i ddechrau, yna croesi’r ffordd am Ysgeifiog a Gwarchodfa’r Ddôl. Tua 6mY gilfan ar ochr yr A451 ger hen gapel Y Ddôl, tua milltir i’r dwyrain o AfonwenSJ142711Dafydd ag Alwena Williams 01745 813065
19 MawrthEryrys a Bryn AlunTaith hamddenol trwy goedwig ag ar lonydd tawel. Peth dringo ysgafn i Fryn Alun. Tua 5m.Maes Parcio GOGLEDDOL Coedwig Nercwys, i’r de-ddwyrain o Lanferres (braidd yn ddiarffordd, cysylltwch os oes angen cymorth i ddod o hyd iddo)SJ218593Bryn a Frances Jones 07900361234
26 MawrthFroncysyllte a Threfor – camlas, afon a’r bont ddŵrTaith hamddenol, fwy neu lai ar y gwastad. Tua 5m Troi oddiar yr A539 yn Nhrefor i ‘Station Road’. I’r chwith wrth dafarn Telford, dros y bont, HEIBIO’R maes parcio ‘bathodyn glas yn unig’ am ryw chwarter milltir i’r man cyfarfod. SJ275423 Rhian Haf Jones 01978 351593 a Gwenda Lloyd 01490 412389

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Chwefror 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
5 ChwefrorDim Taith    
12 ChwefrorLlanarmon Dyffryn CeiriogDilyn y llwybr i fyny Afon Ceiriog gan ddychwelyd ar hyd y ffordd. Tua 6m.Ger yr eglwys yn LlanarmonSJ157328R. Glyn Jones 01492 640227
19 Chwefror Gohirio oherwydd tywydd garw Adar y Parlwr Du a’r GlannauAstudio adar y gaeaf – mae’r penllanw yn amserol ar gyfer diwrnod da o adarydda.Maes parcio’r cyngor y mhentre’ Talacre. Angen talu, efallai.SJ124847Alun Williams 01745 730300
  26 ChwefrorDim Taith    
MIS MAWRTHApêlCYFRANIADAU I’R RHAGLEN I MI ERBYN 25/2/22 OS GWELWCH YN DDA. Diolch, IR   

Rhaglen y Gogledd Ddwyrain - Ionawr 2022

DyddiadTeitlManylionMan CyfarfodCyf. GridArweinydd(ion)
4 Ionawr (Dydd Mawrth)Cyfri’r BlodauYn y Cyfarfod Blynyddol yn yr hydref cawsom ei hannog gan ein Llywydd, Goronwy i gynnal arbrawf ‘cyfri’r blodau’. Mae’n ofynnol, o ddilyn canllawiau'r mudiad BSBI I nodi planhigion gwyllt sydd yn eu blodau yn ystod 4 diwrnod cynta’r flwyddyn. Taith fer, tua 3-4m.Ger Clwb Rygbi Rhuthun, Lôn Fawr, oddi ar Ffordd Cerrig, RhuthunSJ117577Iwan Roberts 07587044255 / 01824 703906
8 IonawrLlanrwstYn rhannol ar lan Afon Conwy ag yna drwy goedwig Gwydir. Dim llawer o ddringo, tua 5m.Glasdir, LlanrwstSH796617Iona Evans 01745 860660
15 IonawrLlanrhaeadr yng NghinmeirchDros gaeau, drwy’r goedwig ag ar hyd lonydd tawel y fro. Tua 4mGer Ysgol Bro CinmeirchSJ084632Erfyl a Carys Williams 01745 814832
22 IonawrArdal TrofarthTaith ar y ‘topie’ rhwng dyffrynnoedd Conwy ag Elwy, yn rhannol ar hyd lonydd tawel. Gwastad ar y cyfan, un darn serth - ffyn o ddefnydd, tua 6m.Ger tafarn Holland Arms, ar y B5113SH839708Dilys Gwilym 01492 641185
29 IonawrGlannau DyfrdwyGlastiroedd a thorlannau mewn ardal ddiwydiannol a threfol yn ei hanfod. ‘Sbinglas’ yn ddefnyddiol, tua 6m hamddenol.Maes Parcio Parc Gwepra, uwchben Cei ConnahSJ294684Jo a Menna Hughes 01352 754098