Adol. 4 1/02/22
Canllawiau a gofynion ar gyfer Aelod(au) sy’n bwriadu mynd ar Daith Faes.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi ydyw sicrhau eich bod yn cyd-fynd a Rheoliadau a chyngor Llywodraeth Cymru. Gweler: → Canllawiau i’r cyhoedd. Os ydych yn bryderus ynglŷn ag unrhyw agwedd o drefniant Taith Faes siaradwch gyda’r Arweinydd neu'r Trefnydd.
Cyn diwrnod y Daith
- Ni ddylai neb gymryd rhan mewn gweithgaredd os ydynt yn dioddef, neu yn amau eu bod yn dioddef o Coronofeirws 19. Hefyd; os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw ddioddefwr yn ystod y deg diwrnod cyn y daith faes, neu fod cyfyngiadau ychwanegol maen grym ee , oherwydd eich wedi bod dramor yn ddiweddar.
- Ar gychwyn pob Taith faes fe fydd yr Arweinydd/ Trefnydd yn paratoi cofrestr o’r Aelodau fydd ar y daith, Fe fydd angen eich enw llawn, cod Post a’ch rhif ffôn.
- Cyfyngir ar y niferoedd a ganiateir ar rai Teithiau Maes (Taith Faes Gyfyngiedig) Fe ddylech gysylltu â’r Arweinydd / Trefnydd i gofrestru lle ar y daith erbyn 1800 y diwrnod cyn y Daith Faes. Fe hysbysir gyda phwy a sut i gysylltu gyda manylion y Daith Faes. Cofiwch mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu.
Cyn cychwyn o adre
- Yn unol a chyngor Llywodraeth Cymru yr ydym yn argymell i bawb gymeryd Prawf Llif Unffordd (LFT) cyn mynd ar daith faes
- Os yw’r daith yn un Gyfyngiedig peidiwch â chychwyn o adre os ydych heb dderbyn cadarnhad eich bod wedi eich cynnwys ar gofrestr y Daith Faes.
- Yn ogystal â bwyd a diod cofiwch roi diheintydd addas* yn eich bag. Hefyd, ar rai teithiau fe fydd angen gwisgo mwgwd
* Fe ddylai ‘Alcohol Denat neu Ethanol’ fod yn gyntaf ar y rhestr cynhwysion. - I drafaelio i’r Daith nid ydym yn argymell rhannu ceir gydag unigolion oddi allan i’ch ‘swigen ‘gymdeithasol’.
Ar ddechrau’r daith
- Cyflwynwch eich hun i’r arweinydd fel y gellir cofnodi eich presenoldeb ar y gofrestr.
- Nodwch unrhyw gyfarwyddid gan yr Arweinydd.
- Cofiwch gadw ‘pellter cymdeithasol’
Yn ystod y Daith Faes
- Cofiwch gadw ‘pellter cymdeithasol’ os yn ymarferol gydol y Daith
- Y mae’n angenrheidiol gwisgo mwgwd os byddwch oddi mewn i unrhyw adeilad.
- Byddwch yn ymwybodol o gyffwrdd giatiau ayb
- Defnyddiwch eich diheintydd fel bo angen ac yn arbennig cyn bwyta.
- Dylid, os yn bosib, osgoi rhannu bwyd a gwrthrychau eraill gydag Aelodau eraill.
- Os bydd angen cymorth ar unrhyw un yn ystod y daith peidiwch â gadael i gyfyngiadau Covid 19 eich atal rhag cynnig y cymorth angenrheidiol.
Ar ddiwedd y Daith Faes
- Os cynhelir unrhyw ddigwyddiad ‘cymdeithasol’ ar ddiwedd Taith Faes cyfrifoldeb y sefydliad (ee caffi) fydd cydymffurfio a rheoliadau a chyfarwyddid Llywodraeth Cymru. Cyfrifoldeb a dewis yr unigolyn ydi ymuno mewn unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol.
- Cofiwch am y cyngor ynglŷn â rhannu ceir.