Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn croesawu pobl sy’n dysgu’r Gymraeg.
Mae ymuno yng ngweithgareddau’r Gymdeithas yn cynnig cyfle gwych i ymarfer siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar. Cewch chi hefyd gyfle i wrando ar sgyrsiau rhwng siaradwyr rhugl gydag amrywiaeth o acenion ac i ddysgu ychydig o eiriau tafodieithol.
Yn ystod teithiau cerdded, bydd yr arweinwyr yn tynnu sylw at blanhigion ac anifeiliaid gwyllt yr ardal gan ddefnyddio’u henwau Cymraeg. Cewch chi glywed hefyd am ddaearyddiaeth a daeareg (geology) Cymru. Bydd cyfleoedd i ddysgu am hanes Cymru drwy ymweld â safleoedd pwysig yn niwylliant a diwydiant y wlad. Ond peidiwch â meddwl bod y gweithgareddau’n cynnig dim ond gwybodaeth ddwys; yn aml mae arweinwyr yn dweud straeon difyr ynglŷn â chymeriadau adnabyddus yr ardal.
Mae nifer o bobl sy wedi dysgu’r Gymraeg ymhlith aelodau Cymdeithas Edward Llwyd. Mae pobl sy wedi dysgu’r iaith fel oedolion wedi arwain teithiau cerdded a gwasanaethu ar bwyllgorau’r Gymdeithas.
Mae rhaid deall bod aelodau’r Gymdeithas yn defnyddio Cymraeg yn unig yn ystod eu holl weithgareddau. Dyw hi ddim yn bosibl i gyfieithu’r holl wybodaeth a chyfarwyddiadau i’r Saesneg ond mae’r aelodau’n hapus i helpu drwy gyfieithu ychydig o eiriau neu dermau anghyfarwydd. Ddylech chi ddim siarad Saesneg yn ystod teithiau cerdded ond fydd neb yn gweld bai ar ddysgwyr sy’n defnyddio ambell air Saesneg neu sy ddim yn treiglo’n berffaith. Mae dysgwyr sy wedi cwblhau cwrs lefel “Sylfaen” neu bobl sy’n arfer siarad gyda Chymry Cymraeg yn eu cymunedau’n debyg o fwynhau ac elwa (benefit) o weithgareddau’r Gymdeithas.
Er mwyn ymuno â Chymdeithas Edward Llwyd, llenwch y ffurflen ymaelodi ar y wefan hon. Am fanylion pellach, ewch i’r dudalen “Cysylltwch” neu ymwelwch â phabell y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.