Skip to content

Defnyddio’r Teclyn Talu

Pwrpas

Y mae’r Teclyn Talu (Sumup) yn caniatáu cwsmer ar y stondin dalu arian i gyfrif banc y Gymdeithas drwy ddefnyddio ffônau symudol, cardiau banc, neu gerdyn credid. Gweler caead bocs y teclyn am logos y cardiau a dulliau talu a dderbynnir Gellir defnyddio cerdyn drwy unai ei roi yn y peiriant neu, yn fwy arferol, drwy ei gyffwrdd yn y sgrin (‘contactless’).

Cyffredinol

Y mae’r teclyn yn gweithio rhywbeth yn debyg i ffôn symudol ac fe ddylai’r symbolau ar y sgrin a’r modd o fewnbynnu gwybodaeth fod yn gyfarwydd. Cyn cychwyn gwnewch yn saff fod signal ffôn ar gael (gweler top y sgrin)

Cychwyn y Teclyn

  • Pwyso’r botwm bychan gyda symbol Sumup arno. Y mae’r peiriant yn gallu bod ychydig yn araf yn cychwyn yn arbennig am y tro cyntaf - byddwch yn amyneddgar.
  • Os nad yw'r peiriant wedi cael ei ddefnyddio am gyfnod fe fydd angen mewngofnodi. Teipiwch;
    e-bost:              is-gadeirydd@cymdeithasedwardllwyd.cymru

Cyfrinair           *************** (Gweler y 'Llyfr Du')
Byddwch yn ofalus pwyll pia hi, – pwyswch y ‘llygad’ er mwyn gweld y cyfrinair wrth deipio.  Pwyswch y tic unwaith yr ydych yn fodlon bod y manylion yn gywir Wedi disgwyl ychydig fe ddylai screen ‘Charge’ ymddangos

Defnyddio’r teclyn

  • Yn y dudalen Charge fe ddylech weld 0.00  gyda thabl rhifau ar gyfer mewngofnodi’r swm sydd yn ddyledus i’r Gymdeithas
  • Ar ochor dde i’r 0.00 fe welwch symbol pensel - pwyswch hwn. Yn y dudalen teipiwch ddisgrifiad byr o’r hyn yr ydych yn ei werthu ee llyfr, cap ayb. Pwysig os yw’r cwsmer yn talu tâl aelodaeth cofiwch gofnodi’r enw ee Ael H M Jones. (Fe fydd y wybodaeth yma yn ymddangos yng nghyfrif y Gymdeithas.) Wedi gorffen pwyswch y tic.

  • Fe fydd y dudalen talu yn ail ymddangos. Mewn gofnodwch y swm sydd yn ddyledus – fe fydd y swm yn ymddangos yn amlwg ar y sgrin Os yw yn gywir Pwyswch ‘Charge’.
  • Fe fydd y peiriant yn gofyn am gyflwyno cerdyn/ ffôn Dangoswch y swm i’r cwsmer a gofynnwch iddynt gyflwyno eu cerdyn / ffôn. .[Os ydych eisiau canslo’r taliad pwyswch y symbol ‘bin’]
  • Ceir neges ar y peiriant i’ch hysbysebu os bu’r taliad yn llwyddiannus ai pheidio. Os bu’r taliad yn aflwyddiannus cofiwch ddangos hyn i’r cwsmer oherwydd mae’r swm yn dal yn ddyledus i’r Gymdeithas.
  • Mae’n bosib i’r teclyn ymateb mewn ffordd gwahanol ee gofyn am PIN y cwsmer, os digwydd dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Noder y saeth ar dop (neu waelod) y sgrin. Sweip ar hwn i gael mynediad i dudalennau eraill. – wedyn dilynwch y fwydlen. Noder: Gellir gweld manylion y taliadau yn ‘Sales History’
  • Cadwch olwg ar y symbol batri i sicrhau fod digon o bŵer ar ôl.
  • Fe fydd y sgrin yn tywyllu ar ôl cyfnod - i ail-agor pwyso’r botwm symbol Sumup
  • I gau i lawr pwyswch fotwm Sumup am gyfnod ac wedyn eich dewis ar y sgrin.