Y jetlif: Tywysydd tywydd eithafol - tystiolaeth Llyn Tegid
Darlithydd: Yr Athro Glen George
Crynodeb
Brodor o Foncath yn Sir Benfro yw Glen a dreuliodd oes fel ecolegydd dŵr crai yn Ardal y Llynnoedd. Ei brif faes ymchwil oedd dylanwad cynhesu byd eang ar lynnoedd a bu’n arwain sawl prosiect ar y pwnc ar ran yr Undeb Ewropeaidd. Wedi ymddeol yn 2007, ymunodd a Phrifysgol Aberystwyth fel Athro Gwadd i gychwyn gwaith tebyg ar Lyn Tegid. Yn y ddarlith, cyflwynir arolwg o ddylanwad tywydd eithafol ar strwythur y llyn ag ar ei statws ecolegol. Rhoddir sylw arbennig i effeithiau haf oer 2010, gaeaf gwlyb 2014 a haf gwyntog 2012. Wrth edrych yn ôl, gwelwyd mai’r prif reswm am y cyfnodau o dywydd eithafol oedd ansadrwydd y jetlif. Cerrynt sy’n llifo yn uchel yn yr awyr ar draws yr Iwerydd yw’r jetlif a llwybr y llif sy’n bennaf gyfrifol am leoliad ardaloedd o wasgedd isel. Hyd yn ddiweddar, yr oedd y cerrynt yn dilyn yr un llwybr o flwyddyn i flwyddyn ond, ers troad y mileniwm, y mae’r patrwm tymhorol wedi newid. Yn y gaeaf, y mae bellach yn dilyn llwybr mwy troellog sy’n caniatáu i fwy o awyr oer gyrraedd Prydain o’r Arctig. Yn yr haf, y mae yna duedd iddo symud ymhellach tua’r de i greu mur sy’n rhwystro gwasgedd uchel rhag lledu o’r cyfandir. Does neb yn siŵr beth sy’n gyfrifol am y newid ond credir fod yr ia a gollwyd yn y gogledd yn rhan o’r ateb ynghyd a newidiadau cylchol yn nhymheredd y môr.
Cysylltiadau:
Athro Gwadd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Llundain a Chymrawd gyda’r ‘Freshwater Biological Association’ yn Windermere.
Lleoliad; 2.30 Dydd Gwener 8 Awst 25 ym Mhabell y Cymdeithasau II