*Lefel Sylfaen (hyd at 240 awr o ddysgu): “Fy hoff flodyn gwyllt” – 150-200 gair, caniateir hyd at 2 lun.
*Lefel Canolradd (hyd at 360 awr o ddysgu): “Bywyd gwyllt fy milltir sgwâr” – 250-300 gair, caniateir hyd at 4 llun.
*Lefel Uwch (wedi dysgu Cymraeg am lai na 6 blynedd): "Oes gan newid hinsawdd effaith ar fywyd gwyllt Cymru?" – 450-500 gair, caniateir hyd at 6 llun/tabl/diagram.
Dysgwyr Profiadol (wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn, neu fel ail iaith mewn ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg.) Erthygl hyd at 2000 gair am unrhyw agwedd o fyd Natur, gan gynnwys lluniau/tablau/diagramau
Dyfernir gwobr fesul lefel, ynghyd â thystysgrif i bob ymgeisydd ac aelodaeth y Gymdeithas am flwyddyn. Cyhoeddir yr erthyglau llwyddiannus yn Y Naturiaethwr.
Bydd seremoni wobrwyo ym mhabell Cymdeithas Edward Llwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, dydd Mercher 5 Awst 2026.
Am fwy o fanylion, e-bostiwch ysgrifennydd@cymdeithasedwardllwyd.cymru,
Dyddiad Cau 1 Ebrill 2026.
*Does dim hawl ymgeisio ar gystadleuaeth ar ôl ennill arni, ond cewch chi gystadlu ar lefel yn uwch.Mae hawl i ymgeiswyr lefel Profiadol ennill ddwywaith yn unig
Cystadleuaeth Dysgwyr 2025/6
Ffurflen Gais
| Enw Ffugenw |
| Lefel (Sylfaen, Canolradd, Uwch, Profiadol) |
| Cyfeiriad e-bost: |
| Rhif Ffôn: |
| Cyfeiriad: |
| Trwy lenwi’r ffurflen hon rydych chi’n cadarnhau eich bod chi’n dysgu Cymraeg ar y lefel briodol, ac mai eich gwaith personol yw’r ymgais. Llofnod Dyddiad |
| Anfonwch y ffurflen gais a’ch ymgais fel dogfen Word gyda’ch ffugenw at ysgrifennydd@cymdeithasedwardllwyd.cymru erbyn y dyddiad cau, 1 Ebrill 2026. Anfonir y canlyniadau trwy e-bost erbyn 1 Gorffennaf 2026 |
