Skip to content

Covid-19 a’r Gymdeithas

Gweithgareddau Cymdeithas Edward Llwyd ac Argyfwng Covid -19

Adol. 5 – 3 Ion 2022

Yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru penderfynwyd ail gychwyn Teithiau Maes yn ystod mis Mai 21. Yn ychwanegol, yn y Pwyllgor Gwaith (20 Mai 21) penderfynwyd gohirio Gynhadledd Flynyddol am flwyddyn arall a gwneud trefniadau amgen ynglŷn â chynnal Cyfarfod Blynyddol yn ystod Hydref 2021.

Y mae swyddogion y Gymdeithas yn ymgynghori’n rheolaidd ynglŷn ag ymateb y Gymdeithas i’r argyfwng Covid – 19 ac ymateb fel bo’r angen i unrhyw newidiadau yn  rheoliadau a chyngor Llywodraeth  Cymru

Noder y canlynol;

Teithiau Maes -  Fe fydd Teithiau Maes y Gymdeithas yn ailgychwyn yn ystod mis Mai. Fodd bynnag fe fydd trefniadau newydd ar gyfer  y Teithiau Maes fel a ganlyn;

  • Cyhoeddir y rhaglenni yn fisol ar y wefan  hon ac ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Y mae’n angenrheidiol cofrestru eich bwriad i fynychu Taith Faes
  • Cyfyngir y nifer o Aelodau ar daith faes i uchafswm o 50.
  • I osgoi lledaenu Covid 19 mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi ‘Cyfarwyddiadau’ ar gyfer Trefnwyr, Arweinwyr ac Aelodau. Fe ddylech fod yn ymwybodol o’r Cyfarwyddiadau hyn cyn mynd ar Daith Faes.

Ni fydd Teithiau Maes yr Hydref a’r Gaeaf yn cael eu cyhoeddi yn y Cylchlythyr, fe bery'r trefniant  presennol hyd at, o leiaf, Chwefror 2022. Efallai y gellir cynnal y Teithiau Maes a ddiddymwyd  oddi ar raglen Gwanwyn a Haf  2020 yn ystod y cyfnod cyfatebol yn 2022.

Y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr - Fe gyhoeddir y cylchgronau yn ystod mis Awst. Yr ydym yn mawr obeithio dychwelyd i’r trefniant arferol ym mis Chwefror 2022.

Y Gynhadledd Flynyddol -  Penderfynwyd gohirio’r Gynhadledd Flynyddol unwaith eto tan 2022. Cynhelir y  Gynhadledd Flynyddol ar benwythnos y 21-23 Hydref 2022 yng Nghaernarfon yn unol â’r trefniadau am 2020. 

Y Cyfarfod Blynyddol - Y mae cyfansoddiad y Gymdeithas, a thrwy hynny, Y Comisiwn Elusennau yn ein hymrwymo i gynnal Cyfarfod Cyffredinol yn ystod yr Hydref bob blwyddyn. Oherwydd  y sefyllfa ynglŷn â Covid 19 y mae’r Comisiwn wedi llacio rhywfaint ar eu gofynion arferol. Ni chynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol yn ystod 2020. Cynhaliwyd, Cyfarfod Blynyddol rhithiol, drwy gyfrwng Zoom, yn ystod Hydref 2021. Gobeithir cynnal Cyfarfod Blynyddol 2022 yn ystod y Gynhadledd Flynyddol (gweler uchod).

Ymweliad a’r Arfordir Jwrasig - Y mae’r ymweliad yma wedi ei ohirio tan 21-27 Ebrill 2022.

Ymweliad ag Ardal y Llynnoedd - Y mae’r ymweliad yma wedi ei ohirio tan Fedi 2022 (manylion i ddilyn).


Yr Eisteddfod Genedlaethol - Fel y gwyddwn y mae eisteddfod Tregaron wedi ei gohirio unwaith eto am  flwyddyn arall. Yr ydym yn mawr obeithio y bydd y stondin y Gymdeithas, a’r gweithgareddau arferol, ar faes yr Eisteddfod yn Awst 2022.

Gweithgareddau Eraill - Fe fydd trefniadau ar gyfer pob gweithgaredd a gynhelir tan faner y Gymdeithas a Llên Natur yn cael eu hadolygu gan ystyried y sefyllfa ynglŷn â’r afiechyd Covid a fydd yn bodoli, neu yn debygol o fodoli, ar y pryd.