Trefnydd: Eirian Davies, Ffôn 01792 844821 Symudol 07484 107161.
Yn unol â chyfyngiadau Llywodraeth Cymru i leihau lledaeniad Covid 19 y mae yn ofynnol i bawb sydd yn bwriadu mynychu Taith Faes gofrestru erbyn 6.00 yr hwyr y diwrnod cynt. Noder ein bod yn cyfyngu’r nifer ar Daith Faes i uchafswm o 20 ac i Aelodau yn unig.
Dylai pawb sydd yn mynychu Taith Faes fod yn ymwybodol o ‘Gofynion ar Aelodau’ (gweler 'Gweithgareddau/ Diogelwch ar Deithiau' ar y wefan hon neu cliciwch y linc yma: Gofynion Covid – Aelodau )
Cychwynnir pob taith am 10.30 y bore, oni nodir yn wahanol. Dim cŵn ar y teithiau ac eithrio cŵn tywys.
Edrychwch at y wefan hon a thudalen Gweplyfr, Cymdeithas Edward Llwyd, am unrhyw newid mewn trefniadau.
Gweithgareddau De a’r Canolbarth - Mis Mai 2021
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd - Cofrestru |
1/5/21 | Mynydd Bach a Llyn Eiddwen | Tua 5-6 milltir ym mro mebyd Prosser Rhys a mangre Rhyfel y Sais Bach (1820). Peth dringo cymedrol ac ychydig o dir gwlyb. Gobeithio fydd yna gyfle i glywed y gwcw. | Ger ffermdy Rhydfudr a Chapel Moreia ar y B4576 rhwng Llangwyryfon a Bethania | SN596671 | Rheinallt Llwyd 01970617587 Rhiannon Roderick 01974617587 |
8/5/21 | Yn ôl i Ddinas Foel Fraith. | Cylchdaith 7 milltir o Soar y Mynydd hyd at weddillion Dinas Foel Fraith ar lan Afon Doethïe. Peth dringo i ddechrau, ac i orffen. | Maes Cerbydau Capel Soar y Mynydd. SY25 6NP | SN784532 | Arwel Michael 01639844080 |
15/5/21 | Ardal Cynffig | Cylchdaith tua 7 milltir drwy dwyni tywod yr ardal tuag at Afon Cynffig ac yn ôl ar Lwybr yr Arfordir. Dim llawer o ddringo | Maes Parcio Gwarchodfa Natur Cynffig CF33 4PT | SS801812 | Eirian Davies 01792844821 |
22/5/21 | Cleddau Wen | Cylchdaith hamddenol tua 4 milltir yn dilyn rhan o Afon Cleddau Wen. Cyfle i weld adar y glannau. | Maes Parcio New Road, Maddox Moor, rhwng Freystrop Cross a Hook, Hwlffordd. SA62 4LQ | SM968115 | Alan Williams 02920752382 07989451348 |
29/5/21 | Talybont a Chors Fochno | Cylchdaith weddol hamddenol o 6-7 milltir drwy goetir a chaeau ac ar hyd lonydd caled at ymylon Cors Fochno. Dim llawer o ddringo. Gallai fod yn fwdlyd mewn mannau. | Maes parcio Ysgol Talybont. SY24 5HE | SN655897 | Jackie Willmington 01970820370 |