Diweddarwyd Tachwedd 2018
Y mae’r polisi preifatrwydd hwn wedi ei lunio i gyd-fynd â Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. Y mae yn amlinellu manylion yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei gasglu am ein haelodau, ac eraill, ac yn egluro sut yr ydym yn cadw a phrosesu’r data hwnnw. Yr ydym hefyd yn amlinellu’r hawliau’r aelodau, ac eraill, ynglŷn ag unrhyw ddata personol yr ydych yn dewis ei rannu gyda’r Gymdeithas
- Cyfrifoldebau
Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Edward Llwyd sydd yn gyfrifol am;- Lunio’r Polisi hwn a,
- Sicrhau fod swyddogion y Gymdeithas yn gweithredu yn unol â gofynion y Polisi a,
- Adolygu a diweddaru’r Polisi fel bo’r angen ac o leiaf bob tair blynedd.
- Egwyddorion
Y mae Polisi Data’r Gymdeithas yn seiliedig ar y canlynol;
- Ein bod yn casglu a chadw cyn lleied o ddata personol a phosib dim ond yr hyn sydd yn angenrheidiol i gynnal gwasanaeth i’r aelodau a gweithgareddau’r Gymdeithas.
- Dim ond defnyddio data er budd yr aelodau ac i hyrwyddo amcanion y Gymdeithas.
- O fewn rheswm, i ddiogelu’r data a gasglwyd
- Sail Gyfreithiol y Polisi
- Yr ydym yn ystyried bod gan y Gymdeithas gontract gyda’r aelodau i gyflenwi gwybodaeth a chylchgronau’r Gymdeithas yn rhan hanfodol o’u haelodaeth. Yn ychwanegol, yr ydym yn ystyried bod y Gymdeithas yn derbyn caniatâd gan aelod i brosesu'r data personol y maent yn gynnwys ar y ffurflen aelodaeth i’r pwrpas o feithrin eu cysylltiad gyda’r Gymdeithas ac i hyrwyddo amcanion y Gymdeithas.
- Yr ydym yn ystyried bod y Gymdeithas yn derbyn caniatâd, i ddefnyddio manylion cysylltu ag arweinyddion teithiau maes, a gweithgareddau cyffelyb, pan maent yn gwirfoddoli i hybu amcanion y Gymdeithas.
- Yr ydym yn ystyried bod y Gymdeithas yn derbyn caniatâd gan yr unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn derbyn Bwletin Llên Natur.
- Y Data Personol yr ydym yn ei gasglu a’i gadw
Rhennir y data personol i bedwar dosbarth;
- Cedwir y cofnodion canlynol ynglŷn â’n haelodau:-
Teitl ac enwau, dyddiad geni, cyfeiriad a chod post, rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost (opsiynol), dull talu’r tanysgrifiad ac os dymunir i’r Gymdeithas drin y taliad fel Rhodd Cymorth.
Yn achos aelodau sydd yn talu’r tanysgrifiad drwy ddebyd uniongyrchol cedwir y manylion bancio sydd yn angenrheidiol i sicrhau taliad drwy’r system BACS. Noder y dilëir manylion bancio, ar ffurf electronig, pan ddaw aelodaeth i ben.
- Cedwir y cofnodion canlynol ar gyfer arweinwyr
teithiau maes:- teitl ac enw, manylion
cysylltu gan gynnwys rhifau ffôn ac e-bost.
- Cedwir
rhestr o gyfeiriadau e-bost unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn derbyn
copi o Fwletin Llên Natur.
- Cedwir bas data sylweddol am faterion yn ymwneud â byd natur a’r amgylchfyd ar Wefan Llên Natur. Mae’n bosib fod peth data personol cyfredol wedi ei gynnwys ochr yn ochr â’r data yma.
- Cedwir y cofnodion canlynol ynglŷn â’n haelodau:-
- Sut yr ydym yn cadw’r data
- Ymae manylion aelodaeth yn cael eu cadw ar gyfrifiadur dan reolaeth yrYsgrifennydd Aelodaeth.
- Cedwir copïau gwreiddiol o’r ffurflenni aelodaeth(papur) gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth.
- Cedwircopi o’r manylion aelodaeth ar gyfrifiadur dan reolaeth y Trysorydd
- Cedwir manylion am y trefnwyr teithiau argyfrifiaduron dan reolaeth y Trefnyddion Lleol.
- Cedwirrhestr e-bost Llên Natur ar gyfrifiadur dan reolaeth cydlynydd / golygydd LlênNatur
- Cedwir yr wybodaeth ar gyfer gwefan Llên Natur ar fasdata dan reolaeth cydlynydd / golygydd Llen Natur (gweler 4.4).
- Sut yrydym yn diogelu a throsglwyddo data
- Y mae’r data yn cael ei gadw ar gyfrifiaduronpersonol, dim ond yr unigolion a awdurdodwyd (gweler adran 4) sydd â mynediadi’r ffeiliau hyn.
- Mae’r cofnodion ar bapur yn cael ei diogelu gan yrysgrifennydd aelodaeth (sut????)
- Nid ydym yn trosglwyddo data i eraill (ee marchnata)ac eithrio’r data sydd yn angenrheidiol i gyflawni gweithgareddau’r Gymdeithas;Yn benodol, dosbarthu’r Cylchlythyra’r Naturiaethwr a dosbarthu bwletinLlên Natur drwy e-bost.
- Os ydym yn trosglwyddo data i drydydd -bartïon yr ydymyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau diogelu data cyfredol, yn eiddiogelu, ac yn dileu'r data ar ôl ei ddefnyddio.
- Os bydd angen anfon data i drydydd parti mae’n cael eidrosglwyddo ar ffeil gaeedig fel atodyn i e-bost. Trosglwyddir y cyfrinair are-bost gwahanol neu ar y ffôn.
Noder fod y data a gyfeirir ato yn 3.2 ar gael yn gyhoeddus yn Y Cylchlythyr ac ar wefan y Gymdeithas. Y mae’r data a gyfeirir ato yn 3.4 ar gael yn gyhoeddus ar wefan Llên Natur.
- Defnydd o’r data personol
- Prif ddefnydd o’r data yw ar gyfer postio copïau o’r Cylchlythyr a’r Naturiaethwr i’r aelodau ac ar gyfer sicrhau taliadau aelodaeth.
- Noder y bydd manylion ynglŷn â thaliadau BACS yn cael eu dileu yn syth os ydych yn dymuno peidio â bod yn aelod neu yn dymuno talu eich tal aelodaeth mewn modd gwahanol.
- Gellir defnyddio manylion cyswllt aelodau er mwyn rhoi gwybodaeth ynglŷn â gweithgareddau’r Gymdeithas ac yn achlysurol, i roi gwybod am ddigwyddiadau sefydliadau eraill a allai fod o ddiddordeb.
- Defnyddir rhestr e-bost Llên Natur ar gyfer gyrru bwletin Llên Natur i aelodau’r Gymdeithas ac i eraill sydd wedi mynegi diddordeb yn ei dderbyn.
- Yn achlysurol bydd y Gymdeithas yn defnyddio’r
wybodaeth am yr aelodau a
chyn-aelodau ar gyfer cynhyrchu ystadegau ynglŷn â datblygiad y Gymdeithas.
.
- Beth yw eich hawliau ynglŷn â’r data personol
- Y mae gennych hawl i gael gwybodaeth ynglŷn â’r data
personol y mae’r Gymdeithas yn ei gadw amdanoch. Noder, yn gyffredinol, mai dim
ond y data yr ydych wedi cyflenwi ar y ffurflen aelodaeth sydd yn cael ei gadw.
- Y mae gennych hawl i ofyn i’r Gymdeithas ddileu unrhyw
ddata personol yr ydym yn ei gadw amdanoch. Fe fyddwch yn derbyn cadarnhad fod
y data wedi ei ddileu. Cedwir rhestr o bawb fydd yn gwneud cais o’r fath.
- Y mae gennych hawl i gael gwybodaeth ynglŷn â’r data
personol y mae’r Gymdeithas yn ei gadw amdanoch. Noder, yn gyffredinol, mai dim
ond y data yr ydych wedi cyflenwi ar y ffurflen aelodaeth sydd yn cael ei gadw.
Noder mai'r Ysgrifennydd Aelodaeth sydd yn gyfrifol am weithredu 8.1 a 8.2. Gellir cysylltu â’r Ysgrifennydd Aelodaeth drwy ysgrifennu at y cyfeiriad yn Y Cylchlythyr neu drwy ddefnyddio ‘Cysylltu ‘ ac ‘Ymholiad Aelodaeth’ ar wefan y Gymdeithas.