Nodiadau i Arweinyddion a Threfnwyr.
Cyffredinol
Pwrpas y ffurflen ydyw cyfleu’r wybodaeth angenrheidiol i’r rhai sydd am fynychu taith a hefyd i alluogi unigolion benderfynu os yw’r daith yn addas iddynt. Bydd y wybodaeth angenrheidiol / allweddol yn cael ei gyhoeddi yn y Cylchlythyr.
Nodiadau i Arweinyddion
Nid oes angen ymhelaethu am y mwyafrif o’r wybodaeth , fodd bynnag noder y canlynol.
- Parcio: Nid yw’n bosib rhagweld faint fydd yn mynychu taith ond dylid cynllunio ar gyfer rhyw 20 car ac ystyried sut i ymdrin â mwy.
- Tirwedd: Dylid nodi’r dirwedd gan gynnwys unrhyw anawsterau ar y daith. Ystyriwch ddefnyddio rhai o’r geiriau allweddol a ganlyn; hawdd, cymedrol, heriol, serth, dringo, mynyddig, ansefydlog, llithrig, clogwyni, llwybrau, lonydd gwledig, trefol, corsiog, gwlyb, mwdlyd, camfeydd,
- Gwybodaeth Ychwanegol: Dylid nodi unrhyw offer neu ddeunydd ychwanegol yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch neu fwynhad yr aelodau ar y daith. Neu os oes unrhyw ystyriaeth arall y dylid ei gysylltu.
- Diogelwch yr aelodau: Pwrpas yr ystyriaethau uchod ydyw sicrhau mwynhad a diogelwch yr aelodau sydd am fynychu taith. Cyfrifoldeb yr aelodau ydyw penderfynu os yw taith yn addas iddynt, i baratoi eu hunain ar gyfer y daith (bwyd, dillad addas ayb) ac i gyd-fynd a chyfarwyddid yr arweinydd. Fodd bynnag gall amgylchiadau newid, yn arbennig felly'r tywydd. Ystyriwch felly effaith y geiriau allweddol a ganlyn wrth gynllunio’r daith; glaw trwm, gwynt cryf, niwl, rhew, eira, anifeiliaid (ceffylau, gwartheg, nadredd, cacwn, ayb). Ar ddechrau taith dylid trafod gyda’r aelodau unrhyw fater y dylent fod yn ymwybodol ohono, ac unrhyw ofynion arbennig ar gyfer y daith.
Nodiadau i Drefnwyr
- Sicrhau fod y ffurflen amgaeedig yn cael ei chwblhau gyda’r manylion ar gyfer y Cylchlythyr.
- Sicrhau fod Arweinydd yn ymwybodol o’r nodiadau uchod
- Cofnodi unrhyw ddigwyddiad y dylai Pwyllgor y Gymdeithas fod yn ymwybodol ohono (ee damwain angen cymorth meddygol neu allanol) yn ‘Adborth’ a throsglwyddo’r ffurflen i Ysgrifennydd a Chadeirydd y Gymdeithas.