Skip to content

Digwyddiadur

Diweddariad 27 Mehefin 2025

PENWYTHNOS Y GYNHADLEDD FLYNYDDOL 2025

Gwesty’r Metropole Llandrindod. Hydref 3-5ed 2025
Rhaglen y Gynhadledd - cliciwch y ddolen: Rhaglen 25
Ffurflen Archebu (dychwelyd erbyn 20 Awst 25) - cliciwch y ddolen; Ffurflen 25

GŴYL Y CYMOEDD Medi 12- 15 2025
Cyfres o deithiau maes yn ardal Blaenau Cymoedd Morgannwg. Ymunwch a'r teithiau am ddiwrnod neu ddau neu fwy. Dilynwch y ddolen hon am fwy o fanylion: Gŵyl y Cymoedd 2025. Hefyd, gweler y rhaglen lawn ar dudalen Gweithgareddau 'Y De a'r Canolbarth'

TAITH FLYNYDDOL Y GYMDEITHAS 2026, [9 – 15 Mai 2026]
Cyfle i dreulio 6 noson yn ardal y Gororau, lletya yn Shifnal, Swydd Amwythig. Trefnir cludiant o’r de a’r gogledd gan gwmni teithiau Elfyn Thomas. Cynhelir cyfres o deithiau maes, ac opsiynau llai heriol, yn ystod yr wythnos. Dilynwch y ddolen hon ar gyfer y manylion diweddaraf -  Taith Flynyddol 2026.
Ffurflen archebu erbyn 31 Awst 25 os gwelwch yn dda, dilynwch y ddolen hon - Ffurflen Archebu Taith 2026

GŴYL MAWDDWY [12 -15 Medi 2026]
Yr ŵyl nesaf yn y gyfres pedair taith, pedwar diwrnod fydd Gŵyl Mawddwy (arfaethedig): 12-15 Medi 2026. 

TAITH FLYNYDDOL Y GYMDEITHAS 2027, [7 – 16 Mai 2027]
Yr ydym yn ystyried taith i Lydaw rhwng 7 – 16 Mai, 2027, gyda Chwmni Teithiau Elfyn Thomas. Byddem yn croesi’r môr gyda Brittany Ferries rhwng Plymouth a Roscoff ac yn ôl, a lletya yng Ngwesty Best Western Plus Europa, Brest. Y gobaith yw trefnu teithiau tywys gyda siaradwyr Cymraeg. Pris: £1879 y pen, dau yn rhannu; Atodiad sengl: £380. Yr ydym yn eich  gwahodd i gynnig eich sylwadau (John Griffiths neu Jackie Willmington), canys mae’r daith hon wrth reswm yn ddrytach na’r arfer. Buasai angen i ni dderbyn 50% o flaendal erbyn Tachwedd 2026.

CYFEIRIADAU E-BOST

Pan fydd angen newid trefniadau ar gyfer digwyddiadau mae'n gyfleus i roi gwybod i aelodau drwy e-bost. Os dymunwch ychwanegu cyfeiriad e-bost at eich manylion cyswllt yng nghronfa ddata y Gymdeithas ynteu diweddaru'ch cyfeiriad e-bost a fyddwch cystal ag e-bostio:-

ysgrifennydd.cof@cymdeithasedwardllwyd.cymru