Skip to content

Canllawiau

Canllawiau ac awgrymiadau i awduron

Y Naturiaethwr yw cylchgrawn Cymdeithas Edward Llwyd, sef Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru.

Enwyd y Gymdeithas ar ôl y naturiaethwr, yr ieithydd a'r hynafiaethydd Edward Lluyd (1660 - 1709). Derbynnir erthyglau i’r cylchgrawn ar unrhyw bwnc sy’n ymwneud â diddordebau Edward Llwyd.

Enghreifftir ei ddiddordebau yn yr englyn er cof amdano o’r 18fed ganrif gan John Morgan:

Meini nadd a mynyddoedd – a gwaliau

Ac olion dinasoedd

A dail, dy fyfyrdod oedd,

A hanesion hen oesoedd.

Erthyglau gan ddysgwyr:

Croesewir cyfraniadau gan ddysgwyr, a gwobrwyir y cyfraniad teilwng gorau bob blwyddyn.

Hyd yr erthyglau:

Gall erthyglau fod yn unrhyw hyd – mae’n dibynnu ar faint o eiriau sydd eu hangen i ddweud eich stori neu i egluro’ch pwnc! Fel rheol, hoffem dderbyn erthyglau oddeutu 1,500 o eiriau, ar gyfartaledd, ond gall erthyglau unigol amrywio rhwng 500 a 3,000 o eiriau. Mae’n debygol y caiff erthyglau hir eu cyhoeddi dros ddau rifyn o’r cylchgrawn.

Dyddiadau:

Ar hyn o bryd ymddengys y cylchgrawn ddwywaith y flwyddyn, ynghyd â detholiad printiedig o gylchgrawn ar-lein misol Llên Natur. Mae aelodau’r Gymdeithas hefyd yn derbyn Cylchlythyr.

Fel rheol, dylai cyfraniadau i’r Naturiaethwr fod mewn llaw erbyn Ionawr 1af (ar gyfer Rhifyn y Gwanwyn) neu Orffennaf 1af (Rhifyn yr Haf).

Lluniau:

Croesewir detholiad o luniau addas i gyd-fynd â’r erthyglau.

Manylion bywgraffiadol:

Fel rheol byddwn yn cynnwys brawddeg neu ddwy am yr awdur ar gyfer pob erthygl.

Iaith:

Cyhoeddir erthyglau’r Naturiaethwr yn yr iaith Gymraeg. O dro i dro ystyrir derbyn erthyglau mewn iaith arall; cyfieithir y rhain i’r Gymraeg ar gyfer eu cyhoeddi.

Sut i baratoi ac anfon eich erthygl:

Dylid anfon erthyglau yn ffurf MS Word neu raglen gyfrifiadurol gyffelyb, drwy e-bost at: naturiaethwr@cymdeithasedwardllwyd.cymru, neu trwy gyfeiriad post y Golygydd.

Mwy o wybodaeth am y Gymdeithas: gweler  cymdeithasedwardllwyd.cymru