Skip to content

Canllawiau Adroddiad i Bapur Bro

Mae eich papurau bro yn ddiolchgar iawn am adroddiadau ac mae cyhoeddusrwydd yn holl bwysig i bob cymdeithas Gymraeg, ond sut i roi un at ei gilydd? Efallai bydd y canllawiau yma yn help i chi.

Ardal y daith Mynydd Haearn, Blaenafon

Dyddiad 23ain Chwefror 2019

Arweinydd Frank Olding

Nifer o gerddwyr 21  yn cynnwys 6 o ddysgwyr

Pa mor hir  6.7m                               Tywydd                  sych a heulog                  Math o dirlun mynyddig

Pwrpas/ Amcan y daith faes

Pethau o ddiddordeb ar y daith Hen olion gwaith mwyngloddio, adfeilion tai unnos, twnnel reilffordd hynaf yn y byd, pyllau ffurf gloch. Clywed yr ehedydd

Diolchiadau Frank Olding a phawb am gwmni da

Peidiwch anghofio’r ‘hysbyseb’

Ceiswch gynnwys elfennau o’r canlynnol, yn arbenig lle i gael mwy o wybodaeth.

Gellir defnyddio’r canlynnol  ar gyfer ‘Nodyn i’r golygydd’  hefyd.

Mae Cymdeithas Edward Llwyd  ar gyfer pawb sydd â diddordeb ym myd natur, ac yn amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru; ein hamcan yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ohonynt. Ymdrechwn i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y meysydd amgylcheddol.Am fwy o wybodaeth am ein teithiau maes  chwiliwch ar y We am ‘Cymdeithsas Edward Llwyd’  bydd croeso mawr i chi ymuno â ni.

Awgrymir rhyw 200 – 400 can gair yn ddibynol ar ofynion y papur bro

Hefyd, Peidiwch ag anghofio anfon llun(iau)

Enghraifft o Adrodiad

Taith Maes Cymdeithas Edward Llwyd

Ar y 23ain o Chwefror roedd ein taith ni yn ardal y Mynydd Haearn, Blaenafon a Frank Olding oedd yn ein tywys. Dyma’r ail daith mae Frank wedi arwain yn yr ardal, llynedd wnaeth o’n tywys o gwmpas Y Blorens a’r daith yn cynnwys cerdded ar ran o dramffordd Hill. Roedd pawb yn edrych ymlaen. Roedd 21 o gerddwyr wedi casglu yn y maes barcio (cyfarth?!!!!!) ger Llynnoedd y Garn, roedd chwech o ddysgwyr yn ein mysg. Roedd yr ehedydd yn bell uwch ein pennau yn canu’n frwdfrydig. Gwelsom hen olion gwaith mwyngloddio, adfeilion tai unnos, y twnnel reilffordd hynaf yn y byd a hen byllau ffurf gloch. Wrth edrych o’n cwmpas roedd yn anodd dychmygu'r ardal fel yr oedd ar ei anterth, y gwaith caled a pheryglus, y budred a’r llygredd. Natur wedi gwneud ei waith a’r awdurdodau wedi creu lle diogel i anifeiliaid, adar a phlanhigion i fyw a ffynnu. Lle i aelodau Cymdeithas Edward Llwyd ymestyn eu coesau mewn awyr iach, dim niwl trwchus y tro yma. Roedden ni’n cerdded ar ddyddiau hafaidd mis Chwefror.

Diolch yn fawr i Frank Olding am yr holl waith paratoi, am adrodd hanes diddorol yr ardal ac am ein harwain. Diolch i bawb am y cwmni da.

Am fwy o wybodaeth am ein teithiau maes  ewch at: http://cymdeithasedwardllwyd.cymru/gweithgareddaur-de/  bydd croeso mawr i chi ymuno â ni.