Skip to content

Nodiadau i Arweinyddion a Threfnwyr.

Nodiadau i Arweinyddion a Threfnwyr.

 

Cyffredinol

Pwrpas y ffurflen ydyw cyfleu’r wybodaeth angenrheidiol i’r rhai sydd am fynychu taith a hefyd i alluogi unigolion benderfynu os yw’r daith yn addas iddynt. Bydd y wybodaeth angenrheidiol / allweddol yn cael ei gyhoeddi yn y Cylchlythyr.

Nodiadau i Arweinyddion

Nid oes angen ymhelaethu am y mwyafrif o’r wybodaeth , fodd bynnag noder y canlynol.

  • Parcio: Nid yw’n bosib rhagweld faint fydd yn mynychu taith ond dylid cynllunio ar gyfer rhyw 20 car ac ystyried sut i ymdrin â mwy.
  • Tirwedd: Dylid nodi’r dirwedd gan gynnwys unrhyw anawsterau ar y daith. Ystyriwch ddefnyddio rhai o’r geiriau allweddol a ganlyn; hawdd, cymedrol, heriol, serth, dringo, mynyddig, ansefydlog, llithrig, clogwyni, llwybrau, lonydd gwledig, trefol, corsiog, gwlyb, mwdlyd, camfeydd,
  • Gwybodaeth Ychwanegol: Dylid nodi unrhyw offer neu ddeunydd ychwanegol yn angenrheidiol i sicrhau diogelwch neu fwynhad yr aelodau ar y daith. Neu os oes unrhyw ystyriaeth arall y dylid ei gysylltu.
  • Diogelwch yr aelodau: Pwrpas yr ystyriaethau uchod ydyw sicrhau mwynhad a diogelwch yr aelodau sydd am fynychu taith. Cyfrifoldeb yr aelodau ydyw penderfynu os yw taith yn addas iddynt, i baratoi eu hunain ar gyfer y daith (bwyd, dillad addas ayb) ac i gyd-fynd a chyfarwyddid yr arweinydd. Fodd bynnag gall amgylchiadau newid, yn arbennig felly'r tywydd.  Ystyriwch felly effaith y geiriau allweddol a ganlyn wrth gynllunio’r daith; glaw trwm, gwynt cryf, niwl,  rhew, eira, anifeiliaid (ceffylau, gwartheg, nadredd, cacwn, ayb).  Ar ddechrau taith dylid trafod gyda’r aelodau  unrhyw fater y dylent fod yn ymwybodol ohono, ac unrhyw ofynion arbennig ar gyfer y daith.

Nodiadau i Drefnwyr

  • Sicrhau fod y ffurflen amgaeedig yn cael ei chwblhau gyda’r manylion ar gyfer y Cylchlythyr.
  • Sicrhau fod  Arweinydd yn ymwybodol o’r nodiadau uchod
  • Cofnodi unrhyw ddigwyddiad y dylai Pwyllgor y Gymdeithas fod yn ymwybodol ohono (ee damwain angen cymorth meddygol neu allanol) yn ‘Adborth’ a throsglwyddo’r ffurflen i Ysgrifennydd a Chadeirydd y Gymdeithas.