Skip to content

Hanes Edward Llwyd (H)

Enwir y Gymdeithas ar ôl Edward Llwyd, (1660 - 1709) ac a alwyd yn ei gyfnod "y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop".

Ym 1699 cyhoeddodd gatalog enwog o ffosilau a mwynau sef Litholphylacii Britannici Ichnograhphia. Ond yn ogystal ag ymddiddori mewn botaneg a daeareg, roedd Llwyd hefyd yn hynafieithydd ac yn ieithydd o fri, ac ar ei daith bedair blynedd o gwmpas Cymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw a Llydaw, rhwng Mai 1697 ac Ebrill 1701, aeth ati i ddysgu'r ieithoedd Celtaidd a chasglu gwybodaeth am lên, arferion, hynafiaethau a phlanigion y gwledydd y teithai drwyddynt.

Pan nad oedd yn pererindota treuliodd Llwyd ei oes yn Rhydychen. Wedi cyfnod byr yn y brifysgol, ymunodd â staff Amgueddfa Ashmole. Fe'i penodwyd yn Is-geidwad yr amgueddfa yn 1687 ac yna'n Geidwad yn 1691.

Rhoddodd Llwyd, a oedd yn fab i Edward Llwyd, Llanforda, ger Croesoswallt, a Bridget Pryse, Glanffraid, Ceredigion, ei fryd ar gyhoeddi ffrwyth ei waith ymchwil ond Vol. 1: Glossography (1707) oedd yr unig gyfrol o'i Archaeologia Britannica a llwyddodd i'w chwblhau cyn ei farwolaeth ym 1709, flwyddyn wedi iddo gael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.