Skip to content

Gŵyl y Fenni Medi 2024

Dyddiad:13.09.24 - 16.09.24

Rhagarweiniad

Dewch i'r Fenni fis Medi er mwyn profi hyfrydwch ardal sy’n llawn gwahanol bethau i ennyn eich diddordeb!  Mae cymaint i'w weld yn yr ardal hon ac felly roedd yn anodd penderfynu pa bedair taith i’w cynnig i'n cyfeillion o bell;  yn fwy anodd mewn ffordd i benderfynu beth i’w hepgor na beth i’w ddewis.  Mae adfeilion aneddiadau cynhanes, olion dyfodiad y Rhufeiniaid, cestyll y Normaniaid, trefi a phlastai'r Canol Oesoedd, llawer o dystiolaeth dyddiau cynnar y Chwyldro Diwydiannol a datblygiadau a newidiadau hyd at y diwrnod presennol. Mae’r rhain i gyd mewn tirlun trawiadol sy'n adlewyrchu'r ddaeareg waelodol ac sy'n gartref i fioamrywiaeth ysblennydd, naturiol ac amaethyddol.  Yn ogystal, mae trigolion yr ardal hon, y rhai presennol a’r rhai a fu, wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ddiwylliant Cymreig.  Bwriedir sôn am bob un o’r agweddau uchod yn ystod y teithiau cynlluniedig. Pe bai'r tywydd yn ddiflas ac y byddai’n annoeth i fynd ar dir uchel, mae teithiau amgen wedi eu paratoi wrth gefn.

Trefniant

Mae croeso twymgalon yn aros amdanoch chi yn y Fenni, cyd aelodau,  a chewch ddewis ymuno â ni am unrhyw nifer o ddiwrnodiau fel y dymunwch. Er mwyn inni gael syniad am y nifer sy am ddod byddwn yn ddiolchgar os wnewch chi gofrestru gyda John Griffith (john@cymdeithasedwardllwyd.cymru) ymlaen llaw. Gofynnwn ichi drefnu llety eich hunan, os gwelwch yn dda, ac mae llawer o ddewis ger y Fenni yn cynnwys y Premier Inn (Llan-ffwyst ar y A465) â thŷ bwyta (Brewer's Fayre) drws nesaf ar gyfer swper a  chymdeithasu gyda’r nos?

Y Teithiau Maes

Dydd Gwener 13eg Medi:

Ardal Treftadaeth y Byd ger Blaenafon

Mae tirwedd yr ardal hon yn llawn tystiolaeth ryngwladol bwysig ynglŷn â chynhyrchu haearn a mwyngloddio glo o ganol y 19eg ganrif i ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif.

Byddwn yn mynd ar daith i ddilyn ôl troed y Chwyldro Diwydiannol gan werthfawrogi golygfeydd eang o'n gwmpas sy'n rhoi cyd-destun i'r daith, hynny yw, lleoliad cyfres o nofelau  gan Alexander Cordell sy'n cychwyn gyda “Rape of the Fair Country”. Ar ôl gadael ein ceir, byddwn yn mynd i weld twnnel rheilffordd cyntaf y byd ac olion pentref chwarelyddol Pwll Du.  Bydd y daith yn ein harwain ni ar hyd hen dramffordd drwy chwareli calchfaen, tros grisfaen i weld adfeilion cloddio haearn a glo, gyda golygfeydd gwahanol a gwych i bob cyfeiriad.  Ein cyrchfan olaf fydd Gwaith Haearn Blaenafon (CADW) ei hun gyda’i ffwrneisi chwyth ysblennydd a bythynnod y gweithwyr a oedd yn lleoliad y gyfres deledu "realiti", "Coal House".

Mae tâl mynediad i’r safle, sef £6.90 i oedolyn, £6.30 i’r rhai 65+ ac aelodau CADW am ddim ond cofiwch dod â'ch tocynnau gyda chi.

Dydd Sadwrn 14eg Medi:

Allt yr Esgair ger Bwlch ar yr A40 tua 10 milltir i’r gorllewin o'r Fenni

Taith gylch ar hyd esgair gyda golygfeydd syfrdanol o hardd ym mhob cyfeiriad.  I'r de-orllewin, mae bannau dwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn codi'n serth o Ddyffryn Wysg ac, i'r gogledd, gwelir llechweddau’r Mynyddoedd Duon tros Lyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn Ne Gymru.  Nod y daith yw cyrraedd bryngaer ar fan gogleddol yr esgair ac ar y ffordd, bydd cyfle i weld pethau hanesyddol gan gynnwys y "Paragon Tower" sy wedi’i orchuddio â drysni a, gyda lwc, gyr o wartheg yr ucheldiroedd.

Ar y ffordd yn ôl i'r Fenni bydd dargyfeiriad i Gwmdu i weld bedd y Parchedig Thomas Price a adnabyddir yn well gan ei enw barddol, Carnuhanawc, a oedd yn fentor a pheriglor i'r Arglwyddes Llanofer.

I’r rhai sy'n dymuno, bydd cyfle i ni ymweld â Thre-tŵr (CADW), wrth inni fynd heibio.
Mae tâl mynediad i’r safle, sef, £9.50 i oedolyn, £8.80 i’r rhai 65+ ac aelodau CADW am ddim.

Dydd Sul 15fed Medi:

Taith tros y ffin bresennol (ond nid yn y gorffennol) i Gwm Olchon yn Swydd Henffordd Gymraeg

Mae Cwm Olchon yn ymddangos yn llyfrau Raymond Williams (brodor o Bandy), "People of the Black Mountains a Border Country a lleoliad y Ffilm Resistance a ysgrifennwyd gan Owen Sheers.
Nodweddion arbennig - pentref ag eglwys Clodock (Merthyr Clydog - bedd Raymond Williams yn y fynwent), pentref Longtown (hen fwrdeistref gyda chastell - pencadlys  arglwyddiaeth Eisiau Lacey), eglwys hynafol Llanveynoe (cysylltiadau â Sant Beuno oedd yn enedigol o Went), blaen Cwm Olchon (credir bod yr ardal hon wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y Bedyddwyr yng Nghymru) a Chrib-y-Garth, mynydd mwyaf dwyreiniol y Mynyddoedd Duon.

Dydd Llun 16eg Medi.

Glanfa Goetre ac Ystad Llanofer.  Taith gylch yn cynnwys Ystad Llanofer a Chamlas Aberhonddu a Sir Fynwy

Yn dechrau ar Lanfa Goetre, lle cewch weld odynau calch, bydd y daith yn mynd yn ei blaen ar hyd y gamlas at Ystad Llanofer.  Bydd yn cynnwys ymweliad â Thre Elidir a enwyd ar ôl ŵyr yr Arglwyddes Llanofer a laddwyd yn ystod y Rhyfel Mawr, pentref Rhyd-y-meirch, Capel Hanofer a safle cell Sant Gofer.  Wrth gerdded trwy'r ystad bydd llawer o hanes ynghyd â'r ystad ei hun yn ystod amser yr Arglwyddes Llanofer a'i gŵr, Syr Benjamin Hall.  Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, Ystad Llanofer oedd canolbwynt diwylliant Cymreig Sir Fynwy a lle yr ymwelodd Carnuhanawc yn gyson.  Yn ystod y cyfnod hwnnw cynhaliwyd llawer o eisteddfodau yn y Fenni a ffurfiwyd Cymreigyddion y Fenni, cymdeithas i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn Sir Fynwy a mudiad sy'n parhau i fodoli.  I gael hanes y cyfnod a'r Cymreigyddion eu hunain, mae llyfr gan Mair Elvet Thomas, "Afiaith yng Ngwent" yn gynhwysfawr a dysgedig.  Bydd y daith drwy'r ystad yn gorffen yn Eglwys Sant Bartholomew lle mae beddrod amlwg yr Arglwyddes Llanofer a Syr Benjamin Hall.  Yn agos at y beddrod mae bedd David Jones o Ddolgellau, telynor i ystad Llanofer yn ogystal â llawer o gerrig beddau eraill â beddargraffiadau Cymraeg arnynt.

Bydd y daith yn dychwelyd i Lanfa Goetre drwy gaeau (efallai bydd rhai yn eu cofio fel safle carafanau adeg Eisteddfod Sir Fynwy 2016) tros yr A4042 ac ar hyd y gamlas lle mae golygfeydd gwych dros Sir Fynwy i Swydd Henffordd.

Bore dydd Mawrth 17eg Medi.

Y Fenni.

Os bydd ein hymwelwyr yn dangos diddordeb ac na fydd angen ymweld â’r dref ei hun oherwydd tywydd gwael, bydd aelodau lleol yn arwain taith trwy dref y Fenni drwy'r bore.  Bydd yn ddiwrnod marchnad ac er na fydd y lle yn byrlymu fel yn y dyddiau a fu, bydd llawer i'w weld gan gynnwys Eglwys Priordy y Santes Fair ac Ysgubor y Degwm lle mae tapestri i goffau'r mileniwm; Plasty Gunter; Castell y Fenni lle roedd Noson y Cyllyll Hirion; Dolydd y Castell a pherllan gymunedol;  Gerddi Linda Vista; Cylch yr Orsedd ar Ddolydd yr Elyrch a'r dref hanesyddol ei hunan.

Teithiau Amgen

Awgrymir y canlynol fel teithiau amgen os bydd y tywydd yn anffafriol neu os yw unrhyw un yn dewis peidio dod ar daith a drefnwyd.

1.   Tref y Fenni.

2.   Pwll Mawr, Blaenafon. Amgueddfa a theithiau dan ddaear.

3.   Aberfan i dalu teyrnged yn y fynwent i ddioddefwyr Trychineb 1966 ac i ymweld â safle Ysgol Pant Glas.

4.   Crughywel a Thre-tŵr (CADW).

5.   Castell Rhaglan (CADW).

6.   Brynbuga. Pentref diddorol (sawl carchar yno!) a chartref Alfred Russel Wallace.

7.   Gwlypdiroedd Gwent ger Casnewydd.

8.   Taith fer o Lan-ffwyst ar hyd hen reilffordd i Ofilon ac yn ôl ar hyd y gamlas at lanfa Llan-ffwyst.

9.   Trefynwy trwy ddefnyddio codau QR sy ar gael trwy’r dref.

10. Taith yn y car i'r Abaty Llanddewi-Nant-Honddu a thros Fwlch yr Efengyl i'r Gelli Gandryll.

11. Aberhonddu.  Tref hanesyddol, pen y gamlas ac amgueddfa filwrol.

12. Ymweliad am ddiod neu fwyd canol dydd i’r Skirrid Mountain Inn, Llanfihangel-crugornau, lle crogwyd mwy na 170 o droseddwyr (medden nhw!) yn y pwll grisiau:  tafarn hynaf â’r mwyaf o fwganod y wlad.