Skip to content

Cwmtirmynach – Crynwyr

‘Canmolwn yn awr ein gwŷr enwog ... ‘   

JOHN AP THOMAS                      

1634-1682

CATHERINE THOMAS   

1652- 1697

 Aelodau blaenllaw o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion, (Crynwyr).

Nid oes llun o John ap Thomas na Catherine. Dyma lun o Grynwyr nodweddiadol o’r ail ganrif ar bymtheg i’w cynrychioli.

Yn Llaithgwm, Cwmtirmynach yr oedd y gŵr a’r wraig yma’n byw. Hwn oedd cartref Catherine Robert. Perthynai hi i deuluoedd bonheddig y Foelas a Phlas-yn -Iâl. Gallai John ap Thomas ap Huw olrhain ei achau i Farchweithan, Arglwydd Is Aled, un o benaethiaid pymtheg Llwyth Gwynedd yn yr unfed ganrif ar ddeg. Pan briododd John Catherine yn 1670 yr oedd yn ŵr gweddw 36 mlwydd oed. Nid oedd yr un o’r ddau yn Grynwyr ym mlwyddyn eu priodas.

Yr oedd yr ail ganrif am bymtheg yn gyfnod cythryblus drwy Brydain. Rhwng 1642 ac 1651 ymladdwyd Rhyfel Cartref rhwng plaid y Brenin,  Siarl 1af, a lluoedd y Senedd. Byddin y Senedd enillodd a dienyddwyd y brenin yn 1649. Llywodraethwyd y wladwriaeth gan yr Arglwydd Amddiffynydd, Oliver Cromwell, rhwng 1653 ac 1658 a’i fab, Richard wedyn. Yn 1660 daeth Siarl yr ail i orsedd ei dad:yr Adferiad.

Daethai mwy o bobl i ddarllen ac i ddehongli’r Beibl drostynt eu hunain yn dilyn cyfeithiadau Saesneg a Chymraeg. Un canlyniad oedd mwy o garfannau neu sectau crefyddol. Credai’r Piwritaniaid mewn symylrwydd disgybledig, difrifol, ym mhopeth ac yn ystyried chwarae o bob math, yn cynnwys, actio, dawnsio, ffair a chyfeddach, yn bechodau a Cromwell a’i lywodraeth yn eu gwahardd. Yr oedd cred ar led fod y byd yn dod i ben ac y dylai pawb baratoi at ddiwedd dyddiau a Dydd y Farn. Edrychid ar 1666 fel yr amser hwn gan mai’r tri chwech yw rhif y bwystfil yn Llyfr Datguddiad, (13:15-18).  

Er i’r cyfyngiadau ar ‘chwarae’ ddod i ben pan ddaeth yr Adferiad, bu gorthrwm ar anghydffurfiaeth grefyddol yn waeth.                         

George Fox, sylfaenydd

Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

Mab i wehydd o Fenny Drayton gerllaw Caerlŷr, (Leicester) oedd George Fox, (1624-1691), yn grydd ac yn fugail. Bu mewn gwewyr ysbrydol am bedair blynedd nes iddo sylweddoli fod Duw, yn oleuni mewnol ynddo, yn ei alw. Daeth i gredu nad oedd angen allanolion i gyrraedd Duw, na defod fel y cymun a bedydd, na pherson ordeiniedig nac allor  nac unrhyw rodres na rhwysg. Denodd nifer o ddilynwyr ato o 1648 a ffynodd Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion fel y’i galwent eu hunain. Llysenw dirmygus a roddwyd arnynt oedd Crynwyr. Tarddiad yr enw yw gwawd rhyw Farnwr pan ddywedodd George Fox wrtho yn un o’i fynych ymddangosiadau yn y llys y dylai grynu wrth glywed geiriau Duw, (tremble at the word of the Lord). Credent mewn galw pawb yn ‘ti’, a fod pob person beth bynnag fo’i dras neu’i genedl neu’i ryw, yn gydradd. Golygai hyn gyfartaledd merched a dynion a gwrthwynebiad i gaethwasiaeth. Nid oedd hawl i dyngu llw o unrhyw fath nac ymladd mewn rhyfel a phwysleisid bywyd syml a gwylaidd o ran ymddygiad, gwisg a bwyd.

Cafodd George nodded gan berchnogion Swarthmoor Hall ger Ulverston, Cumbria yn 1653, cartref Thomas a Margaret Fell. [Yn 1669, un mlynedd ar ddeg wedi marw Thomas priododd George Fox Margaret Fell. Mae’r adeilad, hefyd, ym meddiant y Crynwyr heddiw.] Yr oedd Morgan Llwyd wedi clywed amdano gan fod yn chwilfrydig am ei ddaliadau.

O Blwyf Maentwrog y deuai Morgan Llwyd yn wreiddiol a Huw Llwyd, (milwr a bardd), Cynfal Fawr, yn daid iddo; dyna pam y’i gelwid yn Forgan Llwyd o Wynedd, (1619-1659).Yn Wrecsam y cafodd ei addysg ac yno y daethai o dan ddylanwad Walter Cradoc yn 1634, ei ddilyn i Lanfaches, Sir Fynwy fel un o nifer o arweinwyr anghydffurfiol. Yn ystod y Rhyfel Cartref bu’n gaplan ym myddin Cromwell, y New Model Army o 1644 ond dychwelyd i Gymru ac i Frynffynnon, Wrecsam fel pregethwr a ‘Chymeradwywr’ i hyrwyddo’r Efengyl  o 1650, cyn dod yn weinidog yn ei eglwys ei hun o 1656. Claddwyd o ym mynwent yr anghydffurfwyr yn Rhos-ddu, yn ddeugain oed. Y fo oedd pennaf lenor rhyddiaith y cyfnod. Ei brif waith yw Llyfr y Tri Aderyn ond gwerthfawrogir ei waith byrrach fel campweithiau, hefyd, Llythyr i’r Cymry Cariadus, Gwaedd yng Nghymru yn Wyneb Pob Cydwybod a Cyfarwydd i’r Cymry. Ysgrifennodd lawer iawn o gerddi a thri o lyfrau Saesneg. Natur grefyddol, ymchwilgar, sydd i’w holl waith.  

Gyrrodd Llwyd ddau o’i ddilynwyr i ganfod mwy am Fox a’i grefydd. Argyhoeddwyd y ddau gennad o wirionedd yr hyn a bregethai Fox. Ni pharhaodd argyhoeddiad un o’r cenhadon, (na wyddom ei enw) yn hir ond bu’r cennad arall, John ap John, yn un o’r Cyfeillion drwy’i oes. Amwys, efallai, yw ymateb Morgan Llwyd, fel y gwelir yn Llyfr y Tri Aderyn a ysgrifennai ar y pryd,(1653). Cyfeiria, ar un llaw, at y ffaith y dylai dynion: fyned ar ôl eu goleuni eu hunain. Rheswm a chydwybod yw dau lygad dyn naturiol ac am fynd i mewn i’r stafell ddirgel a’r stafell honno yw Duw ei hunan o’r tu fewn. Er fod y datganiadau hyn gan y golomen yn debyg iawn i gredoau’r Crynwyr, ceir cyfeiriad, hefyd, at yr Anghrist ...yn rhith gostyngeiddrwydd a dysgeidiaeth a goleuni newydd a chyfeirio at grefyddwyr eithafol fel mudion a byddariaid yn malu ewyn, yn llygadtynnu, ac yn synnu’r gwirion. [Am ddehongliad pellach darllenwch y ddrama Hanes Rhyw Gymro, John Gwilym Jones].

Aeth John ap John ati i efengylu yng nghwmni George Fox o 1654. Derbyniad oeraidd ac erledigaeth a brofwyd mewn llawer man ond denwyd dilynwyr, hefyd. Pan ddaeth y ddau i Gwm Hafod Oer a Thabor ger Dolgellau, proffwydodd Fox y cawsai’r Arglwydd bobl barod iddo ‘i hun yn yr ardal honno. Pan ddaeth Fox i ymweld yn y 60au yr oedd Robert Owen, Dolserau ac eraill wedi dylanwadu ar lawer a chafwyd cyfarfodydd mawr yn Nhyddyn y Garreg ger Dolgellau, y Llwyndu, Llwyngwril ac yn Llanuwchllyn.

John ap John. Ganed ym Mhen-y-cefn, Coed Cristionydd, Plwyf Rhiwabon 1625 (?) gan etifeddu stâd fechan yno. Daeth yn un o’r Cyfeillion yn 1653 gan adael eglwys Morgan Llwyd. Yn 1663 priododd Catrin Edwards, gwraig weddw, a symud i Blas Isa, Trefor, ger Llangollen. Pan ddaeth ei mab hi o’i phriodas gyntaf i oed etifeddu’r lle, dychwelodd John a’i deulu i Ben-y-cefn. Bu’n cenhadu dros y Cyfeillion drwy’i oes gan gael ei garcharu sawl tro. Bu farw Catrin yn 1695 ac aeth yntau i fyw i Stafford at ei ferch; bu farw yn 1697.

Er gwaethaf cosbau llym, ffynnodd y Cyfeillion. O 1659 dechreuwyd cosbi pobl am absenoldeb o’r Eglwys Wladol, o dan hen ddeddf. Yr oedd deddf i wahardd addoli y tu hwnt i’r Eglwys yn bodoli; yn 1664 atgyfnerthwyd y ddeddf honno i bennu nad oedd mwy na phedwar person i ymgynnull mewn unrhyw dŷ y tu hwnt i’r rhai oedd yn byw yno. Cynyddodd y cosbi am beidio talu’r degwm gan atafaelu eiddo, carcharu, gyrru pobl o’u cartrefi a gwrthod claddu rhai heb eu bedyddio. Dioddefodd llawer o anghydffurfwyr yr erledigaeth hon, nid y Cyfeillion yn unig. Yr hyn a ddenodd waeth cosbau i’r Cyfeillion oedd y ffaith eu bod yn gwrthod tyngu llw. Oherwydd hyn ni fedrent ddatgan goruchafiaeth y brenin a chaent eu cyhuddo o praemunire sef teyrnfradwriaeth. Fel arfer, Pabyddion oedd yn methu tyngu’r llw hwn gan mai’r Pab yw pen yr eglwys honno.

Yn 1672 wedi mynd i gyfarfod cafodd John ap Thomas a Catherine  eu hargyhoeddi o ‘wirionedd’ neges Y Cyfeillion a pharhau’n ffyddlon er gwaethaf y dioddef a’r colli eiddo. Mae’n debyg fod John a Catherine wedi cael eu denu i’r cyfarfod am fod brawd John, Cadwalader Thomas, Wern Fawr, yn un o’r Cyfeillion. Derbyniasai Cadwalader ddirwy o £55  yn 1671 ac atafaelwyd anifeiliaid o’r fferm i dalu; cafodd ei droi o’i fferm yn ddiweddarach oherwydd ei ymlyniad crefyddol. Dal ati i gynnal cyfarfodydd yn eu cartrefi a wnai’r Crynwyr er gwaethaf erledigaeth Rhys Price, ficer Llanfor a Harri Parri, ficer Llandderfel. Unwaith cyrhaeddodd dau achwynwr, (fyddai’n cael eu talu i adrodd am dor-cyfraith fel hyn), i Wern Fawr a’r tŷ yn orlawn, â gwŷs wedi’i llofnodi gan y Cyrnol Price, Rhiwlas a’r Cyrnol Salisbury o’r Rûg. Yno yr oedd Richard Davies, Cloddiau Cochion, un o arweinwyr Maldwyn, yn eistedd yn y distawrwydd. Parlyswyd yr achwynwyr ac ni allent ond crawcian “Gwŷs! Gwŷs!” wrth i Davies ddechrau gweddïo. Gorfu i’r ddau gilio. Dro arall yr oedd 28 o’r Cyfeillion mewn cyfarfod yn Llwyn y Branar, (Llwyn-brain, heddiw) yn 1675 a phob un yn derbyn dirwy yn cynnwys £15 i John ap Thomas (dau fustach a cheffyl).

Er mwyn atal yr erledigaeth hon gweithredwyd mewn dwy ffordd i ddylanwadu ar yr Awdurdodau. Oherwydd ei gysylltiadau uchelwrol llwyddodd John ap Thomas i gael ei benodi yn Uchel Siryf Meirionnydd. Deuai gwarantau i gosbi Crynwyr ato fo. Oherwydd ei fod yn eu cadw heb eu gweithredu byddai’r achwynwyr eu hunain yn cael eu dirwyo! Wedyn, pwysodd Richard Davies ar Arglwydd Powys sef y Dug Beaufort, Arglwydd Raglaw Cymru, a adwaenai’n dda, i yrru llythyr at Y Cyrnol William Price yn Rhiwlas i atal yr erlid a rhoddodd hwnnw derfyn ar orthrwm ficer Llanfor.

Ffynnodd y Cyfeillion ym Mhenllyn er gwaethaf gelyniaeth ac erledigaeth. Amlygodd Dr Edward Jones, y Bala, Hugh Roberts, Ciltalgarth a John ap Thomas eu hunain fel arweinwyr yn y cylch gan gyfarfod ag arweinwyr eraill drwy Gymru a Lloegr, fel y brodyr Lloyd, Plas Dolobran, Maldwyn, (sylfaenwyr Banc y Ceffyl Du – Lloyds). Daeth William Penn â chynllun gerbron i ymfudo i ogledd America.

William Penn, (1644 -1718). Daeth yn un o’r Cyfeillion er gwaethaf gwrthwynebiad ei dad, y Llyngesydd William Penn. Cafodd y brenin, Siarl yr ail i dalu’r ddyled i’w dad mewn tiroedd i’r gorllewin o afon Delaware yng ngogledd America. Mabwysiadwyd yr enw Pennsylfania ar y tir hwn (enw Penn + ‘o’r goedwig’ o enw’r duw Rhufeinig Silfanus, duw y goedwig. Daethai’r enw Penn yn wreiddiol o ‘Penmynydd’ gan fod y teulu yn llinach Tuduriaid Môn).

Yn 1681 addawodd Penn 40,000 erw i’r Cymry. Er penbleth i’r Brenin, yr oedd Penn wedi talu am y tir i’r ‘Indiaid’ brodorol, hefyd, gan sicrhau tegwch a mynd yn groes i drahauster arferol yr Ewropeaid gwyn. Y bwriad oedd i’r rhanbarth hon fod yn un Gymreig. Cymraeg fyddai iaith swyddogol y dalaith a byddai yno hawl i ddewis Llywodraethwyr o’u plith.

Yr oedd Edward Jones a John ap Thomas wedi prynu 5,000 erw rhyngddynt a John ap John, (Rhiwabon) a Dr Thomas Wynne, (Caerwys) wedi prynu’r un faint. O’r pedwar arweinydd a wnaeth y cytundeb, Dr Edward Jones o’r Bala oedd yr unig un a ymfudodd yn 1682. Gwerthwyd y tir i nifer o Gyfeillion. Cadwodd John ap Thomas 1,250 erw iddo’i hun am £25 a chadwodd Dr Edward Jones 312.5 erw am £6-50. Deuai mwyafrif y prynwyr o Benllyn: Hugh Roberts, Ciltalgarth; Robert ap David, Gwernefel; Evan ap Rees, Penmaen; John ap Edward, Nantlleidiog; Edward Owen, Dolserau; William ap Edward, Ucheldre; Edward ap Rees, Ciltalgarth; Gaenor Roberts, Ciltalgarth (chwaer Hugh Roberts); William ap John, Betws; Thomas ap Richard, Nantlleidiog; Hugh ap John, Nantlleidiog; Rees ap John ap William, Llangelynin; Thomas Lloyd, Llangywer; Cadwaladr Morgan, Gwernefel, John Watkins, Gwernefel. (Tanlinellwyd y rhai a aeth i ogledd America yn y fintai gyntaf).

Dr Edward Jones, (1645-1727), y Bala. Yr oedd yn fab i John Lloyd oedd yn frawd i Anne, gwraig gyntaf John ap Thomas. Priododd Mary Wynne, Caerwys a chael wyth o blant: Martha a Jonathan yn y Bala ac Edward, Thomas, Evan, John, Elizabeth a Mary ym Mhensylfania. Ymfudasai yno yn 1682 yn y fintai gyntaf a dod yn ŵr dylanwadol dros ben yn y dalaith newydd ac yn ffermwr llwyddiannus.

Hwyliodd 40 o ymfudwyr ym Mai 1682 yn y Lyon o Afon Merswy. Cyrhaeddwyd glannau Delaware yn Awst a glanio mewn lle gafodd ei alw’n Philadelphia. Dr Edward Jones a roddodd yr enw hwn ar y fangre a ddaeth yn ddinas fawr; daw’r enw o’r Groeg yn golygu cariad brawdol.

Nid aeth John ap Thomas a’i deulu ar y daith yn ôl eu bwriad, bu farw John  ar y trydydd o Fawrth yn 48 mlwydd oed a’i gladdu ym mynwent Hafod Fadog, sydd bellach o dan ddŵr Llyn Celyn.  Addawodd Catherine y byddai hi a’i phlant yn mynd i Bennsylfania yn ôl ei ddymuniad.

Hugh Roberts, Ciltalgarth. Mab Robert ap Hugh, Llwyndedwydd, Llangwm. Ymfudodd i Bennsylfania yn yr ail fintai, Medi 1683. Bu’n prynu a gwerthu tir gan adael tua dwy fil o erwau i’w feibion. Ymwelodd â Chymru ar ddau achlysur i efengylu. Yn ystod ei ymweliad cyntaf yn 1689, yn ŵr gweddw, ail briododd yn Llwyn y Branar â Janet John o flaen 52 o dystion, yn cynnwys John ap John.

Ym Medi y flwyddyn ganlynol, (1683) yr hwyliodd yr ail fintai o borthladd Mostyn ar y Morning Star, gan gyrraedd Philadelphia ar 16eg Tachwedd. Ymysg y teithwyr hyn yr oedd Catherine Thomas a’i chwmni o ugain, yn cynnwys ei chwe phlentyn. Buasai farw Evan yn fychan, a dwy o’r tair merch, (Sydney a Mary), yn ystod y fordaith, , gan adael Catherine a phedwar o blant i wneud eu cartref yn Gelli’r Cochiaid, Merion, Philadelphia. Bu Catherine fyw am 14 mlynedd yno, gan farw yn 1697 yn 45 mlwydd oed.

Ffynnodd ei phlant yn y wlad newydd. Daeth y mab hynaf, Thomas ap John, yn efengylydd a henuriad yn Haverford ac yn Ysgrifennydd a Thrysorydd yr achos, yn ogystal ac yn ŵr cyhoeddus oedd yn datrys dadleuon ynglŷn ag eiddo ac yn amddiffyn hawliau plant. Priododd Catherine, y ferch,  â Robert Roberts, mab Hugh Roberts, Ciltalgarth. Daeth Cadwaladr yn ŵr cyfoethog drwy’r fasnach forwrol i Barbados ac ynysoedd eraill y Caribî. Bu Robert yn Ynad Heddwch poblogaidd ac yn aelod o’r Cynulliad yn Philadelphia.

Bu John ap Thomas yn ŵr ffyddlon i ddaliadau’r Cyfeillion dros ryddid a thegwch, heddwch a chyfiawnder. Gwraig rinweddol a diwylliedig oedd Catherine, bu hithau yr un mor deyrngar i’w gwirionedd, yn ddewr ac yn benderfynol gan aberthu’n llawen dros y ‘gwirionedd’ hwnnw. Dywed tystysgrif yn ei chymeradwyo:

                        She is a woman yt never gave occasion to ye the enemies of truth to open their

                        mouths against ye truth which she owned …

Robert Owen, Fron-goch. (1644?-1702). Daeth yn efengylydd poblogaidd ym Mhensylfania. Gwerthasai Goed y Foel Isaf i Roger Price, Rhiwlas cyn ymfudo. Yn y cwmni hwn yn 1698 yr oedd Edward Ffoulke, Coed y Foel Isaf a phedwar brawd Evans, (Thomas, Robert, Cadwaladr ac Owen). Ni ddaeth y pump yma yn Gyfeillion nes iddynt setlo ym Mhensylfania. Yr oedd 66 o’r ardal hon ar y fordaith. O’r 106 ar y fordaith bu  farw 45 cyn cyrraedd America.

Gŵyr rhai ohonoch am nofel Marion Eames Y Stafell Ddirgel sydd yn seiliedig ar hanes Crynwyr ardal Dolgellau ac efallai i chi ddarllen Y Rhandir Mwyn, eu hanes ym Mhennsylfania a’r chwalu a’r siom yno. Dyfynnir y geiriau wrth i Rowland Ellis ac Ellis Puw ymadael, (yn 1686), ond gellir meddwl am holl Gyfeillion Penllyn hefyd: meddwl am Catherine Thomas a’i phlant, am Hugh Roberts, am Dr Edward Jones, am Robert Owen, Fron-goch a llawer o rai eraill ...

Y golled! O, y golled!