Skip to content

Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Edward Llwyd 2021

Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol

a gynhaliwyd drwy gyfrwng Zoom

nos Wener y 15fed o Hydref 2021 am 7.30 pm

Yn Bresennol:

Goronwy Wynne (Llywydd), Iona Evans (Cadeirydd y Gymdeithas), Hywel Madog Jones (Is-gadeirydd), Margaret Roberts (Trysorydd), Gareth W Jones (Ysgrifennydd), Rob Evans (Ysgrifennydd Aelodaeth), Brenig Davies, Rosie Dymond, Catrin Evans (+1), John Griffith, Michael S A Goodchild, Marina James, Alan Jones, Diane Jones, Enid Jones, John Jones, Dafydd Lewis, Rheinallt Llwyd, Aldwyn Llywelyn, Haf Meredydd, Dafydd Morris, Megan Owen, Mair Owens, Carys Meurig Parry, John Parry, Sue Peace, Elizabeth Roberts, Iwan Roberts, Llinos Roberts-Young, Alan Williams, Philip Williams, Jackie Willmington (Ysgrifennydd Cofnodion) (33)

1.    GAIR O GROESO GAN Y CADEIRYDD

Estynnodd Cadeirydd y Gymdeithas, Iona Evans, groeso cynnes i bawb gan ddweud ei bod yn falch o weld cymaint o aelodau’n mynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf y Gymdeithas i’w gynnal yn rhithiol..   

2.    YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Eirian Davies, Mererid Moffett, Gwyn Roberts, Carwen Vaughan a Einwen Williams.

3.    DERBYN COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL 2019

       Cynigiodd Margaret Roberts ac eiliodd Philip Williams dderbyn cofnodion y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar y 21ain o Fedi 2019 yn gofnod cywir.  Cytunwyd drwy ddangos dwylo.

4.    MATERION YN CODI O’R COFNODION                    Dim

5.    ETHOL LLYWYDD

Cynigiodd Hywel Madog Jones ac eiliodd Philip Williams ailethol Dr. Goronwy Wynne yn Llywydd y Gymdeithas.  Cytunwyd drwy ddangos dwylo. 

Diolchodd y Llywydd i’r aelodau am ymddiried ynddo am flwyddyn arall gan ddweud ei fod yn awyddus iawn i gynnal cysylltiad â’r Gymdeithas a’i fod yn dilyn ei gweithgareddau’r â diddordeb.

Diolchodd i Duncan Brown, Hywel Madog Jones, Margaret Roberts a Iona Evans am “lywio’r llong” yn ystod cyfnod anodd.  Ychwanegodd ei ddiolch i’r aelodau oedd wedi gynnigerthyglau i gyhoeddiadau’r Gymdeithas a threfnu gweithgareddau, gan nodi bod nifer ohonynt wedi bod yn cyfrannu yn yr un modd am flynyddoedd.    

Dywedodd Dr Wynne ei fod yn dymuno edrych yn ôl ac ymlaen.  Wrth edrych yn ôl, awgrymodd ddatblygu system  i gofnodi manylion holl weithgareddau’r Gymdeithas.  Wrth edrych ymlaen, dywedodd y byddai’n hoffi gweld y Gymdeithas yn cyfrannu at ymdrechion cenedlaethol ym myd gwarchodaeth byd natur.  Yn enwedig awgrymodd y dylai’r Gymdeithas ystyried ffurfio timau i gymryd rhan mewn digwyddiad o’r enw  “New Year Plant Hunt” a gynhelir gan y Botanical Society of Britain and Ireland er mwyn cofnodi planhigion sydd yn eu blodau dros y Calan. 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor Gwaith yn ystyried y sialens honno yn y cyfarfod nesaf. 

6.    ETHOL IS-LYWYDD

Cynigiodd Rob Evans ac eiliodd Dafydd Lewis ailethol Duncan Brown yn Is-lywydd y Gymdeithas.  Cytunwyd drwy ddangos dwylo. 

7.    AELODAETH Y PWYLLGOR GWAITH: ETHOL SWYDDOGION 

Cymerodd y Llywydd y Gadair.

i.   Cadeirydd:       Cynigiodd Enid Jones ac eiliodd Rob Evans ailethol Iona Evans yn Gadeirydd.  Cytunwyd drwy ddangos dwylo. 

Esboniodd Iona ei bod wedi cytuno i ymestyn ei chyfnod yn Gadeirydd oherwydd diffyg gwirfoddolwyr ac anawsterau Covid.  Tynnodd sylw nad hi oedd y Cadeirydd hwyaf ei wasanaeth gan fod un Cadeirydd wedi gwasanaethu am gyfod hwy.

Cymerodd Iona Evans y Gadair am weddill y Cyfarfod. .

ii.  Is-gadeirydd:    Cynigiodd Dafydd Lewis ac eiliodd Iwan Roberts ailethol Hywel Madog Jones yn Is-gadeirydd. 

iii.  Trysorydd:       Cynigiodd Dafydd Lewis ac eiliodd Rob Evans ailethol Margaret Roberts yn Drysorydd. 

iv. Ysgrifennydd: Cynigiodd Rob Evans ac eiliodd Iwan Roberts ailethol Gareth Wyn Jones yn Ysgrifennydd. 

v.  Ysgrifennydd Aelodaeth:         Cynigiodd Dafydd Lewis ac eiliodd Enid Jones ailethol Rob Evans yn Ysgrifennydd Aelodaeth.   

vi. Ysgrifennydd Cofnodion:                     Cynigiodd Hywel Madog Jones ac eiliodd Margaret Roberts ailethol Jackie Willmington yn Ysgrifennydd Cofnodion. 

Ailetholwyd y pum uchod drwy ddangos dwylo.

8.  ETHOL SWYDDOGION ERAILL

a.    Trefnyddion Gweithgareddau

i.     Gogledd Orllewin:  Esboniwyd bod John Griffith yn dymuno ymddiswyddo ac ni chafwyd gwrifoddolydd hyd yn hyn.  Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau ystyried a rhoi gwybod am ymgeiswyr dichonol.  Tynnodd sylw y byddai’n bosibl rhannu’r swydd.  Ychwanegodd Hywel Madog Jones ei fod yn fodlon parhau i baratoi rhaglen gweithgareddau fesul mis. 

Diolchodd Carys Meurig Parry i John Griffith am ei wasanaeth ac ychwanegodd nifer o aelodau eu diolch. 

ii.     Gogledd Ddwyrain: Cynigiodd Enid Jones ac eiliodd Philip Williams ailethol Iwan Roberts.

iii.    De a'r Canolbarth: Cynigiodd Rob Evans ac eiliodd Hywel Madog Jones ailethol Eirian Davies.

iv.    Trefnydd y Gynhadledd Flynyddol: Cynigiodd Margaret Roberts ac eiliodd Rob Evans ailethol Elizabeth Roberts.

Ailetholwyd y tri uchod drwy ddangos dwylo.

Dywedodd Iwan Roberts fod gwaith y Trefnyddion yn hawdd gyda chydweithrediad yr aelodau wrth gynnig teithiau ond tynnu sylw ei bod wedi dod yn anos cael arweinwyr yn ddiweddar. 

9.    GOLYGYDDION

i. Y Naturiaethwr:  Cynigiodd Rob Evans ac eiliodd Alan Jones ailethol Dafydd Lewis  

ii. Y Cylchlythyr:  Cynigiodd Alan Williams ac eiliodd Rob Evans ailetholGwyn Roberts

Ailetholwyd y ddau uchod drwy ddangos dwylo.

10CYNRYCHIOLWYR IS-BWYLLGORAU

Llên Natur a’r Panel Enwau:  Cynigiodd Dafydd Lewis ac eiliodd Hywel Madog Jones ailethol Duncan Brown ac fe’i hailetholwyd drwy ddangos dwylo. 

11.  AELODAU ERAILL O’R PWYLLGOR GWAITH

Cyhoeddwyd bod Dafydd Horan yn dymuno ymddiswyddo o’r Pwyllgor Gwaith. 

Cynigiodd Margaret Roberts ac eiliodd Rob Evans ailethol y canlynol:-

                 Carys Meurig Parry ( hefyd yn Drefnydd Gwyliau)

                 Tudur Pritchard

                 Alan Williams

                 Philip Williams

Fe’u hailetholwyd drwy ddangos dwylo.

Cynigiodd Hywel Madog Jones ac eiliodd Carys Meurig Parry ailethol:-

                             John Griffith. 

Ailetholwyd John drwy ddangos dwylo.  Diolchodd y Cadeirydd iddo am fod yn barod  i aros ar y Pwyllgor Gwaith ar ôl tynnu’n ôl o’r swydd o Drefnydd.  Diolchodd John i’r aelodau.

Cynigiodd Carys Meurig Parry ac eiliodd Hywel Madog Jones ethol:-

                             Haf Meredydd

Etholwyd Haf drwy ddangos dwylo.  Diolchodd y Cadeirydd iddi am ei pharodrwydd i ymuno â’r Pwyllgor Gwaith. 

Ychwanegodd y Cadeirydd y byddai’n ddymunol gweld mwy o wynebau newydd ar y Pwyllgor Gwaith ac anogodd ar unrhyw un â diddordeb i gysylltu.

12.  ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Cyflwynodd Margaret Roberts y fantolen am flwyddyn ariannol y Gymdeithas 2020-2021.  Dangoswyd incwm o £14,873 yn cynnwys £12,833 o’r tâl aelodaeth a £213 o log banc.  Cofnodwyd rhodd o £500 oddi wrth Anne Gwynne yn dilyn gwerthiant ei llyfr.  Nodwyd hefyd bod Duncan Brown wedi rhoi ei ffi o £200 am wneud fideo ynglŷn â dal gwyfynod.  i “Cofnod”.

Tynnwyd sylw bod costau’r daith i’r Arfordir Jwrasig i’w gweld ar ddwy ochr y fantolen ac nad oedd cost net i’r Gymdeithas. 

Adroddwyd £9,950 o wariant.  Esboniwyd mai argraffu cylchgronau (£4,995) a’u dosbarthu (£1,987) oedd yr eitemau mwyaf sylweddol.  Tynnwyd sylw hefyd at gostau Technoleg Wybodaeth, gan gynnwys £625 am gynnal gwefannau Cymdeithas Edward Llwyd a Llên Natur.  Adroddwyd cost o £419 am yswiriant.  Esboniwyd bod costau banc wedi cynyddu oherwydd bod newid mewn gwasanaethau debyd uniongyrchol wedi gorfodi’r Gymdeithas i brynu meddalwedd newydd.  Nodwyd bod canslo’r Eisteddfod a chynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith drwy Zoom wedi lleihau costau yn y flwyddyn dan sylw. 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Trysorydd am ei gwaith.

13.  DERBYN Y FANTOLEN ARIANNOL A PHENODI ARCHWILYDD ALLANOL

Cynigiodd Alan Williams ac eiliodd Rob Evans dderbyn y fantolen.  Cytunwyd yn ddiwrthwynebiad. 

Cynigiwyd caniatáu i’r Pwyllgor Gwaith benodi archwilydd allanol yn ôl y drefn arferol a chytunwyd drwy ddangos dwylo. 

14.  PENNU’R TÂL AELODAETH

     Adroddwyd i’r Pwyllgor Gwaith gynghori na welwyd angen newid y tâl aelodaeth yn 2022/23.  Cytunwyd yn ddiwrthwynebiad. 

15.  ADRODDIAD Y PWYLLGOR GWAITH

Dywedodd y Cadeirydd bod y cyfarfod yn dwyn i gof y Cyfarfod Blynyddol blaenorol ym Mrynbuga gan nodi na allai neb pryd hynny fod wedi disgwyl y cyfyngiadau a ddaeth i rym yn fuan wedyn oherwydd Covid.  Cofiodd ganslo teithiau am chwe wythnos cyn y cyfnod clo cyntaf heb ddychmygu y byddai Covid yn dal i effeithio ar y Gymdeithas ddwy flynedd wedyn.

Mynegodd ei diolch i Olygyddion y ddau gylchgrawn am barhau i gasglu deunydd a chadw mewn cysylltiad gyda’r aelodau yn ystod y cyfnod pan nad oedd yn bosibl cynnal gweithgareddau.

Diolchodd y Cadeirydd i’r Is-gadeirydd am gynhyrchu asesiad risg manwl a chanllawiau Covid i wefan y Gymdeithas.  Ychwanegodd ei diolch i’r Trefnyddion am drefnu ac ail-drefnu teithiau cerdded wrth i’r sefyllfa newid.  Diolchodd i John Griffith am ei waith ac am gytuno i aros ar y Pwyllgor Gwaith ar ôl ymddeol fel Trefnydd a diolchodd hefyd i Hywel Madog Jones am gamu i’r bwlch a threfnu teithiau cerdded yn y Gogledd Orllewin..

Adroddodd i’r Pwyllgor Gwaith gynnal cyfarfodydd drwy gyfrwng Zoom a diolchodd i Jackie Willmington am drefnu’r cyfarfodydd rhithiol.

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn falch o weld y Gymdeithas yn cynnal cystadleuaeth lwyddiannus i ddysgwyr a chyhoeddi’r erthygl fuddugol yn y Naturiaethwr.  Adroddodd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu cynnal y gystadleuaeth eto y flwyddyn nesaf. 

Diolchodd i Anne Gwynne am ei rhodd gan ddweud y byddai’r Gymdeithas yn ei defnyddio wrth baratoi at yr Eisteddfod.

Adroddodd ei bod yn falch o weld nifer sylweddol o aelodau’n rhannu lluniau ar dudalen Weplyfr Llên Natur.

Gorffennodd y Cadeirydd drwy ddiolch i bawb arall a oedd wedi cydweithio â’r Gymdeithas ac yn enwedig i Rob am dderbyn y swydd o Ysgrifennydd Aelodaeth a gwneud gwaith ardderchog yn denu dysgwyr y Gymraeg i'n plith.

Ychwanegodd y Llywydd ei ddiolch i Anne Gwynne.  Dywedodd ei fod wedi cael y fraint o gyfrannu cyflwyniad i’w lyfr ac wedi mwynhau ei ddarllen. 

16.  UNRHYW FATER ARALL          Dim

17.  Y CYFARFOD BLYNYDDOL NESAF Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Gymdeithas yn gobeithio cynnal y Cyfarfod Blynyddol nesaf ar 22ain Hydref 2022 yn ystod y Gynhadledd Flynyddol i’w chynnal yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon.