Canllawiau ac awgrymiadau i awduron
Y Naturiaethwr yw cylchgrawn Cymdeithas Edward Llwyd, sef Cymdeithas Genedlaethol Naturiaethwyr Cymru .
Enwyd y Gymdeithas ar ôl y naturiaethwr, yr ieithydd a'r hynafiaethydd Edward Llwyd (1660 - 1709). Derbynnir erthyglau i’r cylchgrawn ar unrhyw bwnc sy’n ymwneud â diddordebau Edward Llwyd, sef byd natur a rhyngweithiad dyn â’i amgylchedd. Enghreifftir hyn yn yr englyn er cof am Edward Llwyd o’r 18fed ganrif gan John Morgan:
Meini nadd a mynyddoedd – a gwaliau
Ac olion dinasoedd
A dail, dy fyfyrdod oedd,
A hanesion hen oesoedd.
Hyd yr erthyglau:
Gall erthyglau fod yn unrhyw hyd – mae’n dibynnu ar faint o eiriau sydd eu hangen i ddweud eich stori neu i egluro’ch pwnc! Fel rheol, hoffem dderbyn erthyglau oddeutu 1,500 o eiriau, ar gyfartaledd, ond gall erthyglau unigol amrywio rhwng 500 a 3,000 o eiriau. Mae’n debygol y caiff erthyglau hir eu cyhoeddi dros ddau rifyn o’r cylchgrawn.
Dyddiadau:
Ar hyn o bryd ymddengys y cylchgrawn ddwywaith y flwyddyn, ynghyd â detholiad printiedig o gylchgrawn ar-lein misol Llên Natur. Mae aelodau’r Gymdeithas hefyd yn derbyn Cylchlythyr.
Dylai cyfraniadau i’r Naturiaethwr fod mewn llaw erbyn Ionawr 1af (ar gyfer Rhifyn y Gwanwyn) neu Orffennaf 1af (Rhifyn yr Haf).
Lluniau:
Croesewir detholiad o luniau addas i gyd-fynd â’r erthyglau.
Iaith:
Cyhoeddir erthyglau’r Naturiaethwr yn yr iaith Gymraeg. O dro i dro ystyrir derbyn erthyglau mewn iaith arall; cyfieithir y rhain i’r Gymraeg ar gyfer eu cyhoeddi.
Sut i baratoi ac anfon eich erthygl: Dylid anfon erthyglau yn ffurf MS Word neu raglen gyfrifiadurol gyffelyb at y Golygydd, drwy e-bost neu trwy’r post , ar ddisg neu ar bapur. (Cyfeiriad y Golygydd ar gael yn Y Cylchlythyr a’r Naturiaethwr; hefyd gellir defnyddio CYSYLLTU – Ymholiadau Cyffredinol ar y wefan hon.