Skip to content

Croeso

Cymdeithas Edward Llwyd

Enwyd y Gymdeithas ar ôl y naturiaethwr, yr ieithydd a'r hynafiaethydd Edward Llwyd (1660 - 1709).

Cymdeithas ydym ar gyfer pawb sydd â diddordeb ym myd natur, ac yn amgylchedd a threftadaeth naturiol Cymru; ein hamcan yw cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ohonynt. Ymdrechwn i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y meysydd amgylcheddol.

Yr ydym yn cyhoeddi tri chylchgrawn, Y Naturiaethwr, y Cylchlythyr a’r cylchgrawn misol ar-lein, Bwletin Llên Natur. Yr ydym yn cynnal gwefan a bas data Llên Natur, sydd ar gael i bawb, dros y we.

Un o brif weithgareddau’r Gymdeithas yw’r rhaglen gynhwysfawr o deithiau maes a gynhelir bron pob dydd Sadwrn mewn tri rhanbarth drwy Gymru.

Gweithgareddau