Skip to content

Hanes Edward Llwyd

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Dafydd Dafis yn y gyfrol gyntaf o’r Naturiaethwr yn Ionawr 1979. 

Edward Llwyd  F.R.S. (1660-1709)

“Y naturiaethwr gorau yn awr yn Ewrop” meddai Hans Sloane, a oedd i lywyddu ar y Gymdeithas Frenhinol yn ddiweddarach, am Edward Llwyd yn 1706.  Roedd Llwyd yn Gymro Cymraeg a ymfalchïai yn ei Gymreictod.  Enillodd enwogrwydd rhyngwladol am ei gyfraniadau pwysig mewn gwahanol feysydd, yn enwedig ym myd botaneg, daeareg, archaeoleg ac ieitheg, ond esgeuluswyd yn fawr hyd y dydd hwn gan ei genedl ei hun.

Dyddiau Cynnar 

Ychydig a wyddwn am ddyddiau cynnar Edward Llwyd.  Roedd yn fab i Edward Lloyd, Llanforda ger Croesoswallt, llywodraethwr Castell Croesoswallt ar un adeg a chadlywydd y gwarchodlu Cymreig yno.  Ei fam oedd Bridget Pryce, Gogerddan.  Treuliodd Llwyd lawer o’i ddwy flynedd ar hugain gyntaf yng Nghroesoswallt ac aeth i’r ysgol ramadeg yno pan yn naw mlwydd oed.  Yn 1682 aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen, fel myfyriwr aeddfed, ond roedd ei yrfa academaidd yn anarferol a ni ddilynodd cwrs gradd.

Llwyd y Daearegwr

Sefydlwyd Amgueddfa Ashmole, Rhydychen, yn 1683, yn ystod blwyddyn gyntaf Llwyd fel myfyriwr.  Ceidwad cyntaf yr Amgueddfa oedd y llysieuwr Robert Plot (1640-1696) a dewiswyd Llwyd fel is-geidwad iddo.  Apwyntiwyd Llwyd yn geidwad fel olynydd i Plot yn 1691 ond ymhell cyn hyn bu’n paratoi catalog o ffosiliau’r Amgueddfa.  Cyhoeddwyd y catalog (y cyhoeddiad trefnus, gwyddonol, cyntaf ar ffosilau ym Mhrydain) yn 1698 o dan y teitl Lithophylacii Britannici Ichnagraphia, ac efallai mai hwn oedd cyfraniad pwysicaf  Llwyd i wyddoniaeth.  Drwy gasglu, dosbarthu, disgrifio, llunio ac enwi ffosilau roedd gwaith amyneddgar pobl fel Llwyd yn sefydlu palaeontoleg fel astudiaeth wyddonol mewn  oes pan oedd tarddiad ffosilau yn bwnc ansicr a dadleuol iawn.

Llwyd y Llysieuydd

Prif lysieuydd Lloegr yn ystod bywyd Llwyd oedd John Ray (1627-1705).  Bu Ray ar ddwy daith lysieuol yng Nghymru yn 1658 a 1662 ac am y Cymry roedd hyn ganddo i’w ddweud: “The Welch people generally are extremely civil and well bred, very honest and courteous to strangers”.  Gwyddwn, o lyfrau Ray, fod llawer o blanhigion, y mwyafrif ohonynt o ardaloedd mynyddig, wedi eu nodi yn gyntaf yng Nghymru gan Llwyd.

Casglodd Llwyd 37 o blanhigion mynyddig yn 1682 o’r Wyddfa, Cader Idris ac Aran Benllyn gan gynnwys planhigion fel Cnwbfwsogl Alpaidd (Lycopodiun alpinum), Suran y Mynydd (Oxyria digyna) a Phumdalen y Graig (Potentilla rupestria).  Yn ystod y flwyddyn 1688/89 bu Llwyd nol i’r Wyddfa i lysieua ac yno darganfu mwy na deugain o blanhigion newydd ac anfonodd manylion llawn amdanynt i Ray gogyfer â’r prif waith, sef Synopsis Methodica Stirpium Britannicarum (1690).  Ystyriodd Ray gyfraniadau Llwyd fel “addurn pennaf “ y gwaith.  Ymhlith y planhigion o fynyddoedd Cymru a restrwyd yn y llyfr oedd : Llus coch (Vaccinium vitis-idaea), Cnwbfwsogl mawr (Lycopadium selago), Merywen (Juniparus communis-rh, nana), Creiglys (Empertrum nigrum) a’r Rhedyn brau (Cystopteris fragilis).

Lloydia serotina (1)

Darganfyddiad llysieuol mwyaf diddorol a mwyaf adnabyddus Llwyd oedd o’r planhigyn bach hwnnw, ag iddo oddf, sy’n perthyn i deulu’r Lili ac a elwir yn Gymraeg yn “ Lili’r Wyddfa” neu “Brwynddail y Mynydd”.  Daeth o hyd iddo yn 1688/89 ar greigiau uchel yr Wyddfa “in excelsis rupibus montis Snowdon”.  Cyfyngir y planhigyn yn yr Ynysoedd Prydeinig i Eryri a Llwyd oedd y cyntaf i’w ddarganfod.  Mae’n hyfryd o beth felly fod Llwyd, a oedd mor hoff o lysieua ym mynyddoedd Cymru, wedi ei anrhydeddu drwy gael y planhigyn wedi ei enwi ar ei ôl; bathwyd yr enw “Lloydia” yn 1812 gan Salisbury.  Tyf Lili’r Wyddfa ar greigiau basig o 1.500 i 2,500 tr. Yn Eryri ond ceir hefyd yn yr Alpau, Himalaya, gorllewin Tsiena ac yng ngogledd America o Alaska i Oregon.  Mae’r planhigyn yn un prin yn Eryri.

Britannia 

Yn 1693 gwnaed cynlluniau gogyfer ag argraffiad newydd o Britannia  William Camden, sef disgrifiadau o siroedd Prydain, llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn 1586.  Cytunodd Llwyd i adolygu’r disgrifiadau o siroedd Cymru a gan fod gogledd Cymru’n adnabyddus iddo’n barod, talodd ymweliad â de Cymru.

Pan ymddangosodd yr argraffiad newydd yn 1695 roedd llawer o wybodaeth am siroedd Cymru ynddo yn ogystal â rhestr o blanhigion Cymru a barn Thomas Hearne, sylwedydd cyfoes o Rydychen, oedd mai cyfraniadau Llwyd oedd y nodwedd orau ar argraffiad 1695, “cystal â dim o waith Camden ei hun”.

Teithiau Llwyd

Yn 1695 hysbysodd Llwyd ei fwriad o ysgrifennu Natural History and Antiquities of Wales.  Roedd gan Llwyd ddiddordeb mawr yn y cenhedloedd Celtaidd, yr oedd yn gyfarwydd â’u hieithoedd ac fe welai Cymru yn ei chyswllt Celtaidd.  Er mwyn casglu gwybodaeth am ei waith, cychwynnodd ef a thri chynorthwywr o Rydychen ym mis Mai 1697.  Ni ddychwelodd i Rydychen nes Ebrill 1701 ac yr oedd y teithiau i’w gymryd i Gymru, Iwerddon, yr Alban, Cernyw (lle'r oedd yr iaith Gernyweg yn fyw o hyd) a Llydaw.

Bu’n anffodus yn ei dderbyniad mewn sawl man, yng Nghymru credwyd mai sbiwr oedd yn casglu gwybodaeth er mwyn i’r llywodraeth godi'r trethi; rhestiwyd yng Nghernyw am fod pobl yn credu mai lleidr oedd ac yn Llydaw drwgdybiwyd mas sbiwr Prydeinig oedd ac fe’i carcharwyd am fis.  Serch y trafferthion hyn oll, casglodd stôr enfawr o wybodaeth.  Casglodd, er enghraifft, nifer mawr o lawysgrifau Gwyddeleg y Canol Oesoedd sydd nawr yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn.  Gyda’r wybodaeth hwn yr oedd yn medru cyhoeddi ei gyfrol gyntaf (a’i unig gyfrol) o Archaeologica Britannica: cyfrol a oedd yn trafod materion ieithyddol.  Ei fwriad oedd i gyhoeddi’r rhan yn ymwneud â byd natur yn ddiweddarach ond bu fawr ar 30ain o Fehefin 1709, gan adael y gwaith mwyaf ar ôl mewn llawysgrifau.

Yn dilyn ei ddychweliad o’i deithiau enillodd radd M.A. anrhydeddus ei Brifysgol yn 1701 a gwnaethpwyd yn Gymrawd i’r Gymdeithas Frenhinol yn 1708.

Mae’r gweddill o’r hanes yn un trist iawn.  Ysgolhaig tlawd y bu Llwyd drwy ei oes; bach iawn oedd ei gyflog yn yr Ashmole ac fe aeth i ddyled oherwydd ei deithiau.  Gadawodd ei holl gasgliadau a’i lawysgrifau i Goleg yr Iesu a Phrifysgol Rhydychen, ond, er mawr golled a chywilydd iddynt, nid oedd yr un sefydliad yn barod i’w prynu er mwyn talu'r bobl yr oedd Llwyd mewn dyled iddynt.  Cwympodd casgliadau Llwyd i ddwylo preifat.  Cymerwyd un rhan, gan gynnwys 8 cyfrol o nodiadau ar Gymru, 11 ar Iwerddon a’r Alban ac 8 cyfrol o’i luniau, a fyddai’n amhrisiadwy i ni heddiw, i Lundain i’w rhwymo.  Bu tân yn siop y rhwymwr llyfrau a llosgwyd y cyfan o waith Llwyd.

Aeth y rhan arall i ddwylo Thomas Johnes, Hafod, Sir Aberteifi (ceir hanes trist y teulu yn y llyfr Peacocks in Paradise gan Elizabeth Inglis-Jones).  Ym mis Mawrth 1807 llosgwyd tŷ mawr Johnes a gyda’r tŷ aeth y gweddill o lawysgrifau Llwyd.  Collwyd felly ffrwyth ysgolheictod a llafur Llwyd oherwydd cybydd-dod y ddau sefydliad a oedd mewn sefyllfa ariannol i fforddio talu am lawysgrifau Llwyd.  Roedd y golled yn un fawr iawn i Gymru ond gwelwyd colled tu hwnt i ffiniau Cymru.

Ond nid oes gennym ni’r Cymry fawr ddim i ymfalchïo ynddo yn ein hesgeulustod o’r dyn galluog a dawnus hwn.  Erbyn y 30ain o Fehefin o’r flwyddyn hon (1979) fe fydd hi’n 270 mlynedd oddi ar farwolaeth Llwyd ac nid oes gennym unrhyw fath o gofeb iddo(2).  Gan na chawsom arweiniad gan sefydliadau Cymraeg mae’n bryd fod yr arweiniad yn dod wrth y werin.

Nodiadau ychwanegol

  1. Yn wreiddiol cysidrwyd fod genws  Lloydia ar wahân  i’r genws  Gagea. Yn 2010  penderfynwyd mai’r un genws oedd y ddau deulu  ac o ganlyniad dyfarnwyd mai Gagea serontina fyddai’r enw Linneaidd ar Lili’r Wyddfa o hyn ymlaen.
  2. Yn 2001 dadorchuddiwyd penddelw o Edward Lhuyd (gwaith John Meirion Morris) y tu allan i Ganolfan Uwchefrydau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
    Yn 2002 sefydlwyd Canolfan Edward Llwyd ym mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer hyrwyddo dysgu Gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg at safon prifysgol.
    Yn 2005 dadorchuddiwyd  plac, yn rhodd gan  Gymdeithas,  yng nghapel Coleg yr Iesu Rhydychen.
    Trwy ymdrechion Dafydd Dafis a’r Gymdeithas  ar y 25 o Chwefror 2006,  yn dilyn gwasanaeth cysegru, dadorchuddiwyd plac er cof am Edward Llwyd yn yr  Eil Gymreig yn Eglwys Mihangel Sant Rhydychen.  Claddwyd Edward Llwyd ger porth gogleddol yr eglwys honno.
    Leolir Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig  yn Adeilad Edward Llwyd ar safle Penglais Prifysgol Aberystwyth.
    Cynhelir darlith Edward Llwyd yn flynyddol gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol  a Chymdeithas Ddysgiedig Cymru.